The Voice (masnachfraint)
![]() | |
Enghraifft o: | rhaglen deledu, masnachfraint teledu ![]() |
---|---|
Gwlad | Yr Iseldiroedd ![]() |
Dechreuwyd | 17 Medi 2010 ![]() |
Cyfansoddwr | Martijn Schimmer ![]() |
Dosbarthydd | Tien ![]() |
Gwefan | http://talpa.tv/formats/talent/the-voice ![]() |
![]() |
Mae The Voice yn gyfres adloniant masnachfraint rhyngwladol gyda'r nod i ddarganfod talent canu heb ei harwyddo - gan gynnwys artistiaid unigol, deuawdau, a thriawdau, yn broffesiynol ac amatur - trwy glyweliadau cyhoeddus. Crewyd gan yr Iseldirwyr John de Mol a Roel van Velzen, a ddarlledwyd gyntaf fel The Voice of Holland.
Yn 2025 darlledwyd Y Llais, fersiwn Gymraeg o'r gyfres. Dyma’r 75ain addasiad o fformat gwreiddiol y gyfres sy’n cael ei darlledu yn ei amrywiol ffurfiau ac mewn nifer o ieithoedd ledled y byd. Boom Cymru sy'n cynhyrchu’r gyfres.[1] Enillydd cyntaf Y Llais Cymraeg oedd Rose Dutta, dynes ifanc o Gaerdydd. Roedd yn cynrychioli Tîm Aleighcia Scott yn y gystadleuaeth.[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]
Cychwyn cysyniad
[golygu | golygu cod]John de Mol Jr o gwmni Talpa, a chrëwr cyfres fyd-eang boblogaidd arall Big Brother, a greodd y cysyniad o The Voice gyntaf gyda’r canwr o’r Iseldiroedd Roel van Velzen. Gofynnodd Erland Galjaard, cyfarwyddwr rhaglen o'r Iseldiroedd, i John de Mol a allai ddod o hyd i fformat a oedd yn mynd gam ymhellach na The X Factor. Yna daeth De Mol a'r syniad o glyweliad dall. Roedd am i ddelwedd y sioe fod yn ymwneud â'r ffocws ar ansawdd canu yn unig, felly mae'n rhaid i'r hyfforddwyr fod yn rai o'r artistiaid gorau yn y diwydiant cerddoriaeth. Dyfeisiwyd y cysyniad cadeiriau cylchdroi gan Roel van Velzen. Hon hefyd fyddai'r sioe dalent gyntaf y bu'r cyfryngau cymdeithasol yn cymryd rhan weithredol ynddi.[3]
Darlledu
[golygu | golygu cod]Lansiwyd y gyfres yn wreiddiol yn yr Iseldiroedd o dan yr enw The Voice of Holland gan y cynhyrchydd John de Mol Jr. a'r canwr Iseldireg, Roel van Velzen ar sianel RTL4 yn 2010. Cynhaliwyd y rownd derfynol ar 21 Ionawr 2011 a wyliwyd gan 3.75 miliwn o bobl a'i gwneud y sioe fwyaf poblogaidd yn y wlad. Mae'r masnachfraint bellach wedi ei gwerthu'n fyd-eang. Mae'r cysyniad yn golygu bod pedwar mentor yn dewis pa gystadleuwyr y maent am eu cael ar eu tîm, heb eu gweld, dim ond trwy wrando ar eu lleisiau canu. Mae pob mentor yn casglu wyth cystadleuydd ar gyfer eu timau, cyn bod yn rhaid iddynt eu torri'n hanner i bedwar mewn gornest lle mae dau a dau yn canu'r un gân. Yn olaf, mae'r gwylwyr yn dewis yr enillydd o blith yr 16 cystadleuydd sy'n weddill yn ystod sawl darllediad byw. Mae'r cysyniad wedi'i werthu i 50 o wledydd (2015), gan gynnwys Awstralia, yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Iwerddon a gwledydd Llychlyn.[4]
Ceir sawl amrywiaeth ar y fformat yn ryngwladol: The Voice, The Voice Kids, The Voice Teens, The Voice Senior, The Voice All-Stars, The Voice Rap, The Voice Generations, a The Voice Native Songs.
Cynhaliwyd y gyfres gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2012 a hynny ar y BBC wedi cyfnod o gystadlu am yr hawl yn erbyn ITV. Talodd y BBC £22m am y fasnachfraint Brydeinig i'r gyfres.[5]. Bu'n rhaid aros dros ddegawd nes gweld y gyfres yn y Gymraeg.
Fformat
[golygu | golygu cod]Mae'r fformat yn cynnwys tri cham: clyweliad dall, cyfnod cystadleuaeth, a chyfres o berfformiadau teledu byw.
Mae pedwar beirniad/hyfforddwr, pob un yn artistiaid adnabyddus, yn ffurfio tîm o gystadleuwyr trwy glyweliad dall. Mae'r beirniaid yn gwrando ar y cystadleuwyr uchelgeisiol am tua munud, ac yn ystod y cyfnod hwn mae gan bob un y dewis o gael yr ymgeisydd i ymuno â'i dîm; Os bydd mwy nag un beirniaid yn cystadlu am yr un ymgeisydd, bydd yr cystadleuydd yn dewis pa dîm i ymuno ag ef.
Nesaf, mae'r beirniaid yn cymryd rôl mentor a hyfforddwr i baratoi aelodau eu tîm ar gyfer y cam nesaf. Yn yr ail gam, mae'r beirniaid yn gosod aelodau eu tîm yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuaeth ddwy ffordd sy'n gweld y cystadleuwyr yn perfformio'r un gân, gan ddewis pa gystadleuwyr sy'n symud ymlaen i'r trydydd cam.
Yn y cymal olaf, mae gweddill y cystadleuwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar deledu byw, trwy rowndiau taro allan sy'n arwain at enillydd i bob tîm; bydd y pedwar arall yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol a fydd yn dynodi enillydd y sioe dalent. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r beirniaid yn cael eu cynorthwyo gan y gynulleidfa deledu: mae barn y beirniaid a'r gynulleidfa yn pwyso 50/50 yn y drefn honno wrth benderfynu pa gystadleuwyr i'w dileu.
Cyfres ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae masnachfraint y syniad wreiddiol wedi eu gwerthu ar draws y byd. Ceir fersiynau mewn dwsinau o diriogaethau. Gwelir bod sawl gwladwriaeth sy'n rhannu iaith yn gyffredin yn rhannu a darlledu'r un gyfres. Gwelir hyn gyda chyfres The Voice Afrique Francophone sy'n darlledu ar draws 21 gwladwriaeth ffrancoffôn yn Affrica. Mae Albania, Cosofo a Gogledd Macedonia (lle ceir lleiafrif Albaneg eu hiaith sylweddol) yn rhannu'r un gyfres, The Voice of Albania neu Vokali, mae Voice of Angola yn yr iaith Portiwgaleg ac yn cael ei darlledu yn Mosambîc, gwlad lwsoffôn arall yn Affrica, a gwelir bod y Werinsiaeth Tsiec a Slofacia yn siarad dwy iaith ddealladwy i'w gilydd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Llais' yn dod i S4C". Golwg360. 2 Mai 2024.
- ↑ "'Fi ffaelu credu fe!': Rose Datta yw enillydd Y Llais 2025". Newyddion S4C. 30 Mawrth 2025.
- ↑ Roggeveen, Herman (15 September 2010). "Galjaard keek eerste aflevering The voice of Holland 8 keer" [Galjaard watched the first episode of The Voice of Holland 8 times] (yn Iseldireg). Zappen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 June 2022. Cyrchwyd 24 March 2017.
- ↑ VG - Nytt talentkonsept tar over for «Idol» på TV 2
- ↑ "BBC controller – Danny Cohen talks about The Voice". Digital Spy. 28 August 2011. Cyrchwyd 28 August 2011.