The Secret World

Oddi ar Wicipedia
Golygfa o fyd y gêm TSW

Gêm aml-chwaraewr ar-lein sy'n cael ei ddatblygu gan Funcom yw The Secret World (TSW), "Y Byd Dirgel".

Ar ôl datgan datblygiad TSW, dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Jorgen Tharaldsen, y bydd y gêm yn defnyddio'r un peiriant â'r gêm Age of Conan.

Yn ôl Funcom, bydd y gêm yn cymysgu elfennau o'r chwarae a geir mewn gemau aml-chwaraewr ar-lein eraill, gyda chwarae realiti amgen a rhwydweithio cymdeithasol.

Ni fydd y gêm yn defnyddio na lefelau na dosbarthiadau; yn lle hynny, bydd y gwaith o adeiladu cymeriad yn dibynnu ar sgiliau, a thrwy hynny osgoi malu (nodwedd flinedig o'r rhan fwyaf o gemau arlein) a hwyluso mynediad i'r gêm i chwaraewyr newydd. Bydd gan cymeriadau'r chwaraewyr ddewis eang o ran dillad, arfau a grymoedd goruwchnaturiol. Bydd y gêm yn canolbwyntio ar frwydr yn erbyn angenfilod a chythreuliaid ac fe fydd rhaid i chwaraewyr roi mwy o ffocws ar hynny nac sydd yr achos gyda gemau arlein eraill. Bydd y chwaraewyr yn gallu ffurfio tîmau neu chwarae ar ei ben ei hun.

Yn ôl cyfarwyddwr creadigol y gêm, Ragnar Tørnquist, bydd y gêm yn cael ei yrru gan stori, stori a chanddi gynllun trosfwaol llinellol, yn ogystâl â nifer helaeth o straeon ymylol, gan fod amrywiaeth y chwarae yn elfen ganolog o'r gêm.

Yn y gêm bydd pob chwaraewr yn aelod o un o dair cymdeithas gyfrinachol:

  • Y Temlyddion (Pencadlys: Llundain): selogion crefyddol a fyddai'n llosgi pentref cyfan er mwyn lladd un cythraul.
  • Y Goleuedigion (Pencadlys: Efrog Newydd): pragmatyddion Machiavelaidd sy'n credu bod y byd yn lle caled, lle dim ond y cryf fydd yn goroesi.
  • Y Dreigiau (Pencadlys: Seoul): cymdeithas sy'n cymryd safiad niwtral rhwng y ddwy eraill ac sy'n hoff o dwyll ac achosi anhrefn, gan aros am ei chyfle i afael yn awenau grym.

Ni fydd yn bosib i chwaraewr newid carfan heb greu cymeriad hollol newydd. Mae yna brawf arlein ar y wefan i helpu chwaraewyr dewis carfan.

Fel sydd yr achos gyda gemau eraill, bydd gan TSW ei ardal PvP (Chwaraewr yn erbyn Chwaraewr) ei hun, sef Agartha - ardal danddaearol lle bydd chwaraewyr yn brwydro dros feddiant adnodd amhrisiadwy o'r enw anima.

Gosodir stori'r gêm yn y byd cyfoes, ond mae hi'n cynnwys darnau o fytholegau hynafol, hanes go iawn a hanes ffug, chwedlau trefol a diwylliant pop, yn ogystâl a chefndir i'r stori sy'n mynd rhyw 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn y gorffennol. Mae'r stori hefyd yn llawn o elfennau Lovecraftaidd, fel y gwelir yn y lleoliad ffuglennol Kingsmouth yn Lloegr Newydd, sydd wedi ei seilio ar Innsmouth yng ngwaith Lovecraft.

Yn ôl Tørnquist 'ffantasi tywyll' yw genre y stori; gall y chwaraewr ddisgwyl gweld fampirod yn Llundain, sombïaid yn Efrog Newydd a bleidd-ddynion yn Seoul; gall deithio i leoliadau go iawn yn ogystal â lefydd mytholegol ar draws y byd; a gall deithio i'r gorffennol ac i ryw ddyfodol ôl-apocalyptaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]