The Rocky Horror Picture Show

Oddi ar Wicipedia
The Rocky Horror Picture Show

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Lou Adler
Michael White
Cynhyrchydd Jim Sharman
Ysgrifennwr Drama Lwyfan:
Richard O'Brien
Sgript:
Richard O'Brien
Jim Sharman
Serennu Tim Curry
Susan Sarandon
Barry Bostwick
Richard O'Brien
Patricia Quinn
Nell Campbell
Meat Loaf
Dylunio
Cwmni cynhyrchu 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau DU
14 Awst, 1975
UDA
26 Medi, 1975
Amser rhedeg 100 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Mae The Rocky Horror Picture Show (1975) yn ffilm gomedi gerddorol Brydeinig-Americanaidd sy'n parodïo ffilmiau gwyddonias ac arswyd. Daeth y ffilm yn enwog fel ffilm ganol nos ym 1977 pan ddechreuodd cynulleidfaoedd gymryd rhan yn y ffilm mewn sinemau ar hyd a lled y wlad. "Rocky Horror" yw'r ffilm ganol nos gyntaf i gael ei chynhyrchu gan un o'r stiwdios ffilmiau mawrion, megis 20th Century Fox. MAe gan y ffilm ddilyniant rhyngwladol ac mae'n un o'r ffilmiau mwyaf enwog a llwyddiannus yn fasnachol erioed. Yn 2005, dewiswyd y ffilm gan Gynghrair y Llyfrgelloedd i gael ei chadw yn y Gofrestrfa Ffilm Genedlaethol yr Unol Daleithiau am ei arwyddocad diwylliannol, hanesyddol a gweledol.

Ystyrir y ffilm gwlt hon yn glasur, ac mae'n addasiad o'r cynhyrchiad sioe gerdd Prydeinig, The Rocky Horror Show. Cynorthwywyd Richard O'Brien, awdur y sioe lwyfan gan Jim Sharman pan yn ysgrifennu'r sgript. Mae'r ffilm yn serennu Tim Curry, Susan Sarandon a Barry Bostwick ynghyd â chast o gynhyrchiad gwreiddiol Kings Road a berfformiwyd yn Theatr Royal Court.

Trac Sain[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y trac sain The Rocky Horror Picture Show: Music From The Motion Picture ym 1975. Roedd yn cynnwys y traciau:

  1. "Science Fiction/Double Feature"
  2. "Dammit Janet"
  3. "Over at the Frankenstein Place"
  4. "Time Warp"
  5. "Sweet Transvestite"
  6. "I Can Make You a Man"
  7. "Hot Patootie - Bless My Soul"
  8. "I Can Make You a Man (Reprise)"
  9. "Touch-a, Touch-a, Touch Me"
  10. "Eddie"
  11. "Rose Tint My World":
    a. "Floor Show"
    b. "Fanfare/Don't Dream It"
    c. "Wild and Untamed Thing"
  12. "I'm Going Home"
  13. "Super Heroes"
  14. "Science Fiction/Double Feature (Reprise)"

Rhyddhawyd crynoddisg ym 1989 a oedd yn cynnwys dwy gân ychwanegol:

  1. "Time Warp (1989 remix - fersiwn hirach)"
  2. "Time Warp (cerddoriaeth - 1 = trac gefndirol = U mix)"

"The Rocky Horror Picture Show: 25 Years of Absolute Pleasure" (2000)