The Piano
Gwedd
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Jane Campion |
| Cynhyrchydd | Jan Chapman |
| Ysgrifennwr | Jane Campion |
| Serennu | Holly Hunter Harvey Keitel Anna Paquin Sam Neill |
| Cerddoriaeth | Michael Nyman |
| Sinematograffeg | Stuart Dryburgh |
| Golygydd | Veronika Jenet |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Miramax Films (UDA ac Awstralia) |
| Amser rhedeg | 121 munud |
| Gwlad | Seland Newydd Awstralia Ffrainc |
| Iaith | Saesneg Māori Iaith arwyddion Prydain |
Mae The Piano (1993) yn ffilm am bianydd benywaidd mud a'i merch yng nghanol y 19g. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Jane Campion ac mae'n serennu Holly Hunter, Harvey Keitel, Sam Neill ac Anna Paquin. Cyfansoddwyd y sgôr piano gan Michael Nyman a daeth yn albwm trac sain poblogaidd. Yn y ffilm, chwaraeodd Hunter y darnau piano ei hun. Roedd y ffilm yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gan y cynhyrchydd Awstralaidd, Jan Chapman.
