The Last of the Mohicans
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | James Fenimore Cooper |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | Chwefror 1824 |
| Dechrau/Sefydlu | 1826 |
| Genre | ffuglen hanesyddol |
| Cyfres | Leatherstocking Tales |
| Rhagflaenwyd gan | The Pioneers |
| Cymeriadau | Natty Bumppo, Chingachgook, Magua, Uncas |
| Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Gogledd America |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/020crd |
Nofel hanesyddol o 1826[1] gan James Fenimore Cooper yw The Last of the Mohicans: A Narrative of 1757. Dyma'r ail lyfr yng nghyfres Leatherstocking Tales (The Deerslayer, The Last of the Mohicans, The Pathfinder, The Pioneers, a The Prairie) a gyhoeddwyd gan Cooper rhwng 1823 a 1841. Mae'r llyfrau wedi'u gosod yn y 18g yn y rhan o dalaith Efrog Newydd lle'r oedd pobl yr Iroquois yn byw. Y prif gymeriad ym mhob nofel yw Natty Bumppo, dyn y gororau sy'n cael ei adnabod wrth sawl enw – i ymsefydlwyr Ewropeaidd fel "Leatherstocking", "The Pathfinder", a "the trapper". Mae'r bobl frodorol yn ei alw'n "Deerslayer", "La Longue Carabine" (Ffrangeg: "Mwsged Hir"), a "Hawk-eye".[2]
Mae The Last of the Mohicans wedi'i osod ym 1757, yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd, pan frwydrodd Teyrnas Prydain Fawr a Ffrainc am reolaeth dros Ogledd America. Yn ystod y rhyfel hwn, defnyddiodd y Ffrancwyr a'r Prydeinwyr gynghreiriaid brodorol, ond roedd y Ffrancwyr yn arbennig o ddibynnol ar luoedd brodorol oherwydd bod ganddynt lai of filwyr yn ardaloedd ffin y Gogledd-ddwyrain nag oedd gan y Prydeinwyr. Yn benodol, mae digwyddiadau'r nofel yn cymryd lle cyn ac yn ystod Gwarchae Fort William Henry (3–9 Awst 1757) a'r ymysodiad wedyn ar y Prydeinwyr gan ryfelwyr Huron. Mae'r stori'n ymwneud â Hawk-eye (sef Natty Bumppo), sgowt Prydeinig, a'i gyfeillion Chingachgook ac Uncas, sy'n Mohicaniaid, the last of the Mohicans ("yr olaf o'r Mohicaniaid") y mae'r teitl yn cyfeirio atynt.
Mae'r nofel wedi parhau'n boblogaidd ers iddi gael ei chyhoeddi. Mae wedi'i haddasu sawl gwaith ac mewn sawl iaith ar gyfer y llwyfan, ffilmiau a chartwnau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Coopers New Novel This Day Is Published by H.C. Carey & I. Lea, corner of Fourth and Chestnut". The Philadelphia Inquirer (yn Saesneg). 4 Chwefror 1826. t. 2.
- ↑ "Last of the Mohicans, The". Merriam-Webster's Encyclopedia of Literature (yn Saesneg). Springfield, MA: Merriam-Webster. 1995. t. 661. ISBN 0-87779-042-6. Cyrchwyd 24 Awst 2024.