The Last Days of Dolwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae The Last Days of Dolwyn (a ailenwyd yn Women of Dolwyn ar gyfer y farchnad Americanaidd) yn ffilm ddrama Brydeinig a chyhoeddwyd ym 1949. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Russell Lloyd ac Emlyn Williams. Sêr y ffilm oedd Edith Evans, Emlyn Williams, Richard Burton ac Anthony James. Mae'r hanes yn un am Gymro, sydd wedi gwneud yn dda yn Llundain ac sy'n dychwelyd i bentref ei febyd gyda chynlluniau i foddi’r cwm[1] lle saif y pentref gan greu gwrthdaro rhwng pentrefwyr sydd â pherthynas ysbrydol a’r fro a’r sawl sy’n cael eu simsanu gan rym arian.

The Last Days of Dolwyn oedd ffilm gyntaf Richard Burton, ac ymddangosiad ffilm gyntaf Edith Evans ers 1916 a'r unig ffilm i gael ei chyfarwyddo gan Emlyn Williams, a oedd hefyd yn awdur y sgript.

Plot [golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd bythynnod yn Rhydymain ar gyfer ffilmio allanol

Mae'r stori wedi'i osod ym 1892 ac o amgylch (ffug) bentref amaethyddol, bychan, tawel Dolwyn yng Nghanolbarth Cymru[2].

Mae argae enfawr a chronfa i gyflenwi dŵr i Lerpwl yn cael ei hadeiladu ar ben uchaf Dyffryn Dolwyn, ond mae’r gwaith wedi dod i stop oherwydd anawsterau daearegol. Roedd yr adeiladwyr yn credu bod y tir ger yr argae yn sefyll ar graig calchfaen hawdd ei gloddio, ond canfyddir bod y graig yn wenithfaen caled, anodd ei gloddio. Gan sylweddoli byddai'n haws a rhatach i foddi’r dyffryn a’r pentref (heb sylweddoli bod pobl yn byw yn y pentref) mae Arglwydd Gaerhirfryn, hyrwyddwr y cynllun, yn danfon ei asiant, Rob, i ymweld â'r pentref a phrynu'r tir[3].

Mae Rob yn perswadio’r tirfeddiannwr, Y Ledi Dolwyn, sydd yn drwm dan bwysau dyled, i werthu'r tir, ac mae hefyd yn cynnig symiau mawr i’r tenantiaid ar gyfer eu prydlesi. Mae hefyd yn cynnig tai newydd yn Lerpwl a swyddi mewn gweithfeydd cotwm i'r sawl sydd am symud i Lerpwl. Er fod Rob yn frodor o Ddolwyn, cafodd ei hel allan o’r pentref dan warth ugain mlynedd ynghynt wedi iddo cael ei ddal yn dwyn gan ei gymdogion. Gan hynny mae o’n casáu’r pentrefwyr gyda chas perffaith. Dydy’r pentrefwyr ddim yn ymwybodol mae’r hogyn o leidr o’r fro yw Rob, gan hynny nid ydynt yn dangos unrhyw falais personol iddo.

Wrth hel eiddo ei deulu at ei gilydd er mwyn paratoi i ymadael a’u cartref mae Gareth (Richard Burton) yn canfod dogfen sy’n profi bod ei fam, Merri (sic) a’r hawl i fod yn berchen ar ei thir am fyth. Gan fod Merri yn Gymraes bron yn uniaith Gymraeg, doedd hi ddim yn ymwybodol o bwysigrwydd y ddogfen, ond mae Gareth, sy’n llawer mwy hyddysg yn y Saesneg yn ymwybodol o’i oblygiadau. Mae twrnai yn cadarnhau nad yw tŷ Merri a Gareth yn rhan o’r fargen a dorrwyd gyda Ledi Dolwyn. Maent yn gwrthod gwerthu eu heiddo ac yn rhwystro’r cynllun boddi.

Mae Arglwydd Caerhirfryn ei hun yn ymweld â Merri, ond yn fuan yn sylweddoli nad oes modd perswadio na phwyso arni i werthu. Mae’r Arglwydd hefyd yn dod yn ddiolchgar i Merri wedi iddi drin hen boen yn ei ysgwydd gwynegol gyda thriniaeth cefn gwlad. Mae o’n penderfynu peidio â boddi’r pentref ond i fwrw 'mlaen gyda'r cynllun drytach o gloddio’r gwenithfaen. Mae Rob yn gynddeiriog ac yn penderfynu agor falfiau gorlifan yr argae i foddi'r dyffryn. Mae'n methu gwneud hynny a gan hynny yn penderfynu rhoi bwthyn Merri ar dân.

Mae Rob yn cael ei ddal gan Gareth yn ceisio tanio’r bwthyn ac mae’r ddau yn ddechrau paffio. Mae Rob yn cael ei fwrw i’r llawr gan Gareth ac mae'n syrthio i mewn i'r tân roedd wedi paratoi ar gyfer ei waith dieflig. Mae'n marw o drawiad ar y galon. Bu Merri yn dyst i'r digwyddiadau ac yn arswydo o feddwl be fyddai’r canlyniadau i Gareth. Yn benderfynol na fydd y lladd yn cael ei ddarganfod, mae hi'n cuddio’r corff yn ei bwthyn ac yn cerdded i ystafell falf yr argae ac yn agor y llifddorau.

Mae'r pentrefwyr yn gwylio eu pentref annwyl yn cael ei gorchuddio gan y dŵr o dir diogel gerllaw. Bu un bugail ifanc gwrthod ffoi'r llifogydd ac mae’r ffilm yn darfod gyda’i lais tenor swynol yn cael ei distewi’n sydyn wrth i'r llanw ei foddi.

Yr Iaith Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhywfaint o ddeialog y ffilm yn cael ei lefaru yn y Gymraeg gan gynnwys Burton yn adrodd englyn Gras Cyn Bwyd (O Dad, yn deulu dedwydd) W D Williams ac yn ganu'r can gwerin Aderyn Pur. Mae’n bosib mae The Last Days of Dolwyn yw’r ffilm gyntaf i'w gyhoeddi’n fyd eang sy’n cynnwys deialog Cymraeg[4].

Cast[5] [golygu | golygu cod y dudalen]

Emlyn Williams
Richard Burton
Hugh Griffith

Edith Evans - Merri

Emlyn Williams - Rob

Richard Burton - Gareth

Anthony James - Dafydd

Allan Aynesworth – Arglwydd Caerhirfryn

Barbara Couper - Ledi Dolwyn

Andrea Lea - Margaret

Hugh Griffith - Y Gweinidog

Maurice Browning - Huw

Rita Crailey - Hen Ann

Eileen Dale - Mrs. Ellis

David Davies - Septimus

Frank Dunlop - Effraim

Kenneth Evans - Jabbez

Patricia Glyn - Dorcas

Joan Griffiths - Eira

Sam Hinton - Idris

Dafydd Havard - Will

Roddy Hughes - Caradog

Madoline Thomas - Mrs. Thomas

Sybil Williams - menyw

Tom Jones - John Henry 

Cysylltiadau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd y ffilm ei hysbrydoli gan hanes boddi pentref Llanwddyn ym 1880 i greu Llyn Efyrnwy er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl a’r ymateb chwyrn i’r penderfyniad i adeiladu Cronfeydd Cwm Elan i gyflenwi dŵr i Firmingham.

Yn y 1960au, bu bywyd go iawn yn adlewyrchu ffuglen y ffilm pan foddwyd Capel Celyn er mwyn adeiladu Llyn Tryweryn i ddarparu ychwaneg o ddŵr i Lerpwl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Guardian 24 Chwef 2013 The Last days of Dolwyn adalwyd 25 Mai 2017
  2. The Last days of Dolwyn Film Affinity
  3. last days of Dolwyn
  4. FILM Reviews DVD ReleasesMovie ReviewsThe Last Days of Dolwyn (1949)
  5. IMDB