Neidio i'r cynnwys

The Lady in the Van (drama)

Oddi ar Wicipedia
The Lady in the Van
Enghraifft o:drama lwyfan Saesneg
Dyddiad cynharaf1989
AwdurAlan Bennett
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1999 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMargaret Mary Fairchild
Lleoliad y perff. 1afTheatre Queen's, Llundain
Dyddiad y perff. 1af19 Tachwedd 1999
Dynodwyr

Drama lwyfan o 1999, yn seiliedig ar waith llenyddol cynharach gan Alan Bennett yw The Lady in the Van gafodd ei llwyfannu gyntaf yn Theatr Queen's, Llundain gyda Maggie Smith yn y brif ran. Mae'r ddrama a'r atgof llenyddol cynharach, yn seiliedig ar ddigwyddiadau gwir yng Ngogledd Llundain rhwng 1974 a 1989, pan symudodd y cyn-gerddor, a'r hen-ferch Margaret Mary Fairchild [Sheppard] (4 Ionawr 191128 Ebrill 1989) gyda'i fan, i ardd y dramodydd.

Mae'r ddrama'n archwilio'r berthynas rhwng y dramodydd â "Miss Shepherd" hyd ei marwolaeth, ac fe gyflwynodd y ddrama er cof amdani.[1] Cyhoeddodd y stori fel traethawd ym 1989 a llyfr ym 1990, a gwnaed ffilm o'r ddrama yn 2015, yn ogystal ag addasiad radio ar gyfer BBC Radio 4 yn 2009.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Miss Shepherd
  • Alan Bennett
  • Alan Bennett 2
  • Mam
  • Rufus
  • Pauline
  • Gweithydd Cymdeithasol
  • Underwood
  • Meddyg Mam
  • Leo Fairchild
  • Llanc
  • Gyrrwr Ambiwlans
  • Meddyg Miss Shepherd
  • Cyfwelydd
  • Gweithwyr y Cyngor
  • Trefnwyr Angladdau a.y.y.b

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Hanes gwir Margaret Mary Fairchild [Sheppard] (4 Ionawr 1911 – 28 Ebrill 1989) oedd y syniad am y stori wreiddiol a ddaeth i fyw tu allan i gartref y dramodydd yn Camden, yn ei fan felen. Ym 1974, caniataodd Bennett iddi symud ei fan i'w ardd, gan fod ei phresenoldeb ar y stryd yn ei boeni, ac yn ei atal rhag gweithio.[1] Roedd cyfeillion y dramodydd yn holi'n gyson os oedd deunydd drama yn anturiaethau yr hen-ferch a'i fan, ond gwrthododd hyd nes yr oedd "Miss Shepherd" wedi marw.[1]

Cyfansoddodd Bennett y ddrama wreiddiol mewn 3 Act, gan dderbyn [erbyn y 1990au] nad oedd hynny yn batrwm poblogaidd. Roedd strwythr 3-act yn gweddu'n wych i'w stori - rhan 1 - ei bywyd ar y stryd, rhan 2 - ei bywyd yn y fan yn ei ardd [15 mlynedd], a rhan 3 y digwyddiadau a arweiniodd at ei marwolaeth.[1] Addasodd ei strwythr i 2 Act, gan gredu y byddai'n gweithio'n well, gan nad oedd fawr o "ddigwydd" yn y 15 mlynedd y bu hi'n ymgartrefu yn ei ardd.

Mae thema'r ddrama Saesneg yn debyg iawn i'r thema ganolog yn nrama Gymraeg John Gwilym Jones o 1979, Yr Adduned, lle ceir dau gymeriad yn portreadu'r dramodydd, ac sy'n ymddiddan â'i gilydd dros yr hyn sy'n digwydd. Noda Bennett yn ei Ragair i'r cyhoeddiad cyntaf yn 2000: "The device of having two actors playing me isn't just a bit of theatrical showing off and does, however crudely, correspond to the reality. There was one bit of me (often irritated and resentful) that had to deal with this unwelcome guest camped literally on my doorstep, but there was another bit of me that was amused by how cross this eccentric lodger made me and that took pleasure in Miss Shepherd's absurdities and her outrageous demands."[1]

Mae rhai wedi gweld cyffelybiaeth rhwng y ddrama a chymeriad "Miss Shepherd" gydag hanes Anne Naysmith yng Ngorllewin Llundain. Bu'r actores Siân Wheldon yn byw yn agos at Anne Naysmith, ar gychwyn y 2000au, ac yn un o'r rhai fu'n ceisio atal y Cyngor rhag symud ei cherbyd yn 2002.[2]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gyntaf yn Theatr Queen's, Llundain ar 19 Tachwedd 1999 o dan gyfarwyddyd Nicholas Hytner; cynllunydd Mark Thompson; goleuo Hugh Vanstone; sain Scott Myers a cherddoriaeth wedi'i drefnu gan Richard Sisson.[1]

  • Miss Shepherd - Maggie Smith
  • Alan Bennett - Nicholas Farrell
  • Alan Bennett 2 - Kevin McNally
  • Mam - Elizabeth Bradley
  • Rufus - Michael Culkin
  • Pauline - Geraldine Fitzgerald
  • Gweithydd Cymdeithasol - Lorraine Brunning
  • Underwood - Michael Poole
  • Meddyg Mam - Ben Aris
  • Leo Fairchild - Ben Aris
  • Llanc - William Kettle
  • Gyrrwr Ambiwlans - William Kettle
  • Meddyg Miss Shepherd - Stephen Rashbrook
  • Cyfwelydd - Jennifer Farnon
  • Gweithwyr y Cyngor, Trefnwyr Angladdau a.y.y.b - William Kettle, Stephen Rashbrook, Chris Barritt ac Alec Linstead.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 6 Bennett, Alan (2000). The Lady in the Van. Faber and Faber. ISBN 9780571204717.
  2. Morris, Steven (2002-03-08). "End of the road for woman who lived in a car". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-10-30.