Neidio i'r cynnwys

The Knight of the Burning Pestle

Oddi ar Wicipedia
The Knight of the Burning Pestle
Tudalen glawr The Knight of the Burning Pestle (1613).
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurFrancis Beaumont Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1607 Edit this on Wikidata
Genrepastiche, comedi Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afBlackfriars Theatre Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Comedi Saesneg o Oes Iago yw The Knight of the Burning Pestle a briodolid gynt i Francis Beaumont a John Fletcher, ond priodolir bellach i law Beaumont yn unig. Perfformiwyd, mae'n debyg, ym 1607–08, a fe'i argraffwyd yn ddienw ym 1613.[1]

Mae'r ddrama hon yn dychanu'r marchog crwydr a dramâu gwladgarol yr oes, yn eu plith The Four Prentices of London gan Thomas Heywood a The Travels of the Three English Brothers gan John Day, William Rowley, a George Wilkins, a rhamantau poblogaidd megis Palmerin of England.[1]

Drama-o-fewn-drama ydy strwythur y plot: mae groser a'i wraig yn y gynulleidfa yn torri ar draws prolog The London Merchant i fynnu rhan ar y llwyfan i'w prentis, Rafe. Rhoddir iddo rôl y "Groser Crwydr", gyda darlun Pestl Llosg ar ei darian, ac mae'n cael sawl antur gan gynnwys rhyddhau cleifion a garcharwyd yn siop y barbwr "Barbarossa". Perfformir y golygfeydd hyn yn ogystal â stori go iawn The London Merchant, sydd yn canolbwyntio ar gariad y prentis marsiandïwr Jasper a merch ei feistr, Luce.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 546.