Neidio i'r cynnwys

The Flash (cyfres deledu 2014)

Oddi ar Wicipedia
The Flash
Logo ar gyfer y tair tymor cyntaf.
Math
Seiliwyd arCymeriadau o DC Comics
Datblygwyd gan
Cynhyrchwyr gweithredol
Yn serennu
Gwlad tarddiadUnol Daleithiau
Iaith gwreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau9
Nifer o benodau184
Cynhyrchu
Cynhyrchwyr gweithredol
Cynhyrchwyr
Lleoliadau cynhyrchuVancouver, British Columbia
Sinematograffi
Golygyddion
  • Paul Karasick
  • Harry Jierjian
  • Nathan Draper
  • Chris Conlee
  • Dan Wilken
  • Felicia Livingston
  • Derek Stricker
CamerâuCamera sengl
Amser rhedeg41-45 munud
Cwmnïau cynhyrchu
Dyddiad rhyddhau gwreiddiol
RhwydwaithThe CW
Dyddiad rhyddhau7 Hydref 2014 (2014-10-07) 
24 Mai 2023 (2023-05-24)
Cysylltiedig
Byd y Saeth

Cyfres deledu uwcharwr Americanaidd yw The Flash (Cymraeg: Y Fflach) a ddatblygwyd gan Greig Berlanti, Andrew Kreisberg, a Geoff Johns, a ddarlledir ar The CW. Mae'n seiliedig ar ymgnawdoliad Barry Allen o gymeriad DC Comics y Flash, ymladdwr trosedd uwcharwr mewn gwisg gyda'r pŵer i symud ar gyflymder uwchddynol.[1] Mae'n sgil-gyngyrchiad o Arrow, sy'n bodoli yn yr un bydysawd ffuglennol o'r enw'r Byd y Saeth. Perfformiwyd y gyfres am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau ar The CW ar 7 Hydref 2014, pharhaodd am naw tymor tan Fai 24, 2023. Mae'r gyfres yn dilyn Barry Allen, bortreadir gan Grant Gustin, ymchwilydd lleoliad trosedd sy'n ennill cyflymder uechddynol, y mae'n ei ddefnyddio i ymladd troseddwyr, ynghyd ag eraill sydd hefyd wedi ennill galluoedd uwchddynol.

Wedi'i ddychmygu'n wreiddiol fel peilot drws cefn, arweiniodd y derbyniad cadarnhaol a gafodd Gustin yn ystod dau ymddangosiad fel Barry ar Arrow at weithredwyr yn dewis datblygu peilot llawn i wneud defnydd o gyllideb fwy a helpu i roi mwy o fanylion am fyd Barry. Mae'r gyfres wedi'i ffilmio'n bennaf yn Vancouver, British Colombia, Canada.

Daeth premiere The Flash ar 7 Hydref 2014 yr ail beilot a wyliwyd fwyaf yn hanes The CW, ar ôl The Vampire Diaries yn 2009. Mae wedi cael derbyniad da gan feirniaid a chynulleidfaoedd, ac ennillodd Wobr Dewis y Bobl am "Drama Deledu Newydd Hoff" yn 2014. Mae'r gyfres, ynghyd ag Arrow, wedi troi cymeriadau allan i'w sioe eu hunain, Legends of Tomorrow, a berfformiodd am y tro cyntaf ar 21 Ionawr 2016.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Andreeva, Nellie (30 Gorffennaf 2013). "CW Eyes 'Flash' Series With 'Arrow's Greg Berlanti, Andrew Kreisberg & David Nutter". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Awst 2013. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2013.