The District Nurse
| Enghraifft o: | cyfres deledu |
|---|---|
| Crëwr | Tony Holland |
| Awdur | William Ingram, Juliet Ace |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Dechreuwyd | 10 Ionawr 1984 |
| Daeth i ben | 24 Mai 1987 |
| Darlunydd | Gerald Murphy |
| Prif bwnc | district nurse |
| Lleoliad y gwaith | Cymru |
| Cyfarwyddwr/wyr | Peter Edwards, George P Owen, Paul Ciappessoni a Mary Ridge |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Dynodwyr | |
Cyfres ddrama deledu Saesneg a gynhyrchwyd gan BBC Cymru yw The District Nurse, a ddangoswyd ar BBC One rhwng 1984 a 1987.[1] Drama gyfnod wedi'i lleoli yn Ne Cymru oedd y gyfres a grëwyd gan Julia Smith a Tony Holland (dau aeth ymlaen i greu'r opera sebon EastEnders). Nerys Hughes oedd y prif gymeriad, sef y nyrs gymunedol "Megan Roberts", yn ymladd i wella amodau byw i'r bobl sy'n byw mewn tref lofaol ffuglennol a thlawd, "Pencwm", yn ystod diwedd y 1920au.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Ffilmiwyd y golygfeydd yr ysgol yn ysgol Pont-y-Gof yng Nglyn Ebwy, ychydig cyn i'r ysgol gael ei dymchwel. Roedd y plant a'r athrawon yn rhan o'r ddwy gyfres gyntaf. Dechreuwyd ffilmio ym 1983.
Yn Nhroedrhiw-gwair ar gyrion Tredegar, y ffilmiwyd y strydoedd a thu allan i'r ysgol. Mae'r rhan fwyaf o'r tai a ddefnyddiwyd wedi cael eu dymchwel ers hynny; fodd bynnag, mae'r stryd ei hun yn parhau.
Yn y drydedd gyfres, a ddangoswyd ym 1987 ac a osodwyd yn 1930au cynnar, roedd Megan wedi symud i dref glan môr "Glanmor" (a ffilmiwyd yn Aberystwyth) lle bu’n gweithio gyda thad a mab o feddygon: "Emlyn Isaacs" (Freddie Jones) a "James Isaacs" (Nicholas Jones).
Cafwyd 3 cyfres a 36 o benodau.
Crëwyd y gyfres gan Julia Smith a Tolly Holland, ac ymysg awduron y pennodau unigol mae Frank Vickery, Juliet Ace, William Ingram, Peter King a Gwenlyn Parry.[2]
Gwerthiannau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Dangoswyd The District Nurse gan TV2 yn Seland Newydd . Cafodd ei ddybio a'i ddarlledu yn Iran hefyd rhwng 1984 a 1987.
Prif Gast
[golygu | golygu cod]- Nerys Hughes - Megan Roberts
- John Ogwen - David Price (cyfres 1 a 2 yn unig)
- Deborah Manship - Nesta Mogg (cyfres 1 a 2 yn unig)
- Rio Fanning - Dr O'Casey
- Margaret John - Gwen Harris (cyfres 1 a 2 yn unig)
- Gareth Potter - Bryn
- Beth Morris - Evalina Williams (cyfres 1 a 2 yn unig)
- Ian Saynor - Dylan
- Ifan Huw Dafydd - Gweinidog
- Robert Blythe - Mr Cottle
- Elizabeth Pearce - Mrs Cottle
- Nathalie Price - Nora
- Elizabeth Morgan - Mrs Prosser Davies
- Elen Roger Jones - Sarah Hopkin
- Darren Bowen - Bobby
- Justin Bowen - Charlie
- Ernest Evans - Will Hopkin
- Philip Raymond - Hugh
- Brinley Jenkins - Mr Meredith
Cast achlysurol
[golygu | golygu cod]- Esyllt [Harker] Roberts - Mrs Sullivan
- Dillwyn Owen - Mr Phillips
- Glyn Owen - Shamps
- Gareth Armstong - Ray Cornet
- William Ingram - Cadeirydd y Band
- Len Mayo - Ysgrifennydd
- Elwyn Williams - Cyflwynydd
- Ralph Hamer - Twm Tonic
- Ken Morgan - Teg
- Kevin Francis - Billy
- Michelle Mayo - Daisy
- Michael Cunnigham - Tommy
- Tudor Walters - Motyn
- Victoria Plucknett - Beth Maddox
- Michael Drew - Ivor Maddox
- Christne Pritchard - Miss Rhees
- Ellen McIntosh - Superintendent
- Barbara Shelley - Mrs Pughe-Morgan
- Lisa Grug - Carys
- Martyn Whitby - Jack
- Simone Lloyd-Davies - Mrs Jenkins
- Mark Rees - Barry Jenkins
- Tyron Williams - Clem
- Andrew Witcombe - Ray
- William Vaughan - ffermwr
- Freddie Jones - Dr Emlyn Isaacs (cyfres 3 yn unig)
- Nicholas Jones - Dr James Isaacs (cyfres 3 yn unig)
- Janet Aethwy - Ruth Jones (cyfres 3 yn unig)
Bu nifer fawr o actorion Cymraeg o Gymru yn rhan o'r 3 cyfres hefyd gan gynnwys:
- Sharon Morgan
- Islwyn Morris
- Lisabeth Miles
- Eluned Jones
- Alun ap Brinley
- Menna Trussler
- Cadfan Roberts
DVD
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfres gyntaf ar gael ar DVD (Rhanbarth 2, DU) gan DD Home Entertainment.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Grade, Michael (1996). British television: an illustrated guide. Oxford University Press. t. 292. ISBN 9780198159278.
- ↑ DVD The District Nurse Cyfres 1 BBC
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen rhaglen y gyfres ar y BBC https://www.bbc.co.uk/programmes/p00jv6s1