Neidio i'r cynnwys

The Danish Girl (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
The Danish Girl

Poster Rhaghysbyseb
Cyfarwyddwr Tom Hooper
Cynhyrchydd Tim Bevan
Eric Fellner
Anne Harrison
Tom Hooper
Gail Mutrux
Ysgrifennwr Sgript gan:
Lucinda Coxon
Seiliedig ar:
The Danish Girl
gan David Ebershoff
Serennu Eddie Redmayne
Alicia Vikander
Matthias Schoenaerts
Ben Whishaw
Sebastian Koch
Amber Heard
Cerddoriaeth Alexandre Desplat
Sinematograffeg Danny Cohen
Golygydd Melanie Ann Oliver
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Working Title
Pretty Pictures
Revision Pictures
Senator Global Productions
Focus Features
Universal Pictures International
Dyddiad rhyddhau 5 Medi 2015 (Fenis)[1]
27 Tachwedd 2015
(Yr Unol Daleithiau)
1 Ionawr 2016
(Y Deyrnas Undedig)
Amser rhedeg 119 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae The Danish Girl yn ffilm ddrama ffug-fywgraffyddol Brydeinig-Americanaidd a ymddangosodd yn 2015. Fe'i cyfarwyddwyd gan Tom Hooper, a fe'i seiliwyd ar y nofel o'r un enw gan David Ebershoff a gyhoeddwyd yn 2000. Ysbrydolwyd y llyfr yn fras gan fywydau'r peintwyr Danaidd Lili Elbe a Gerda Wegener.[2] Mae Eddie Redmayne yn serennu yn y ffilm fel Elbe, un o dderbynyddion adnabyddadwy cyntaf llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw. Mae Alicia Vikander yn chwarae rhan Wegener, ynghyd â Matthias Schoenaerts fel Hans Axgil a Ben Whishaw fel Henrik.

Fe'i sgriniwyd fel rhan o'r brif gystadleuaeth yn y 72ain Gŵyl Ffilm Fenis,[3][4] ac ymddangosodd yn y rhan Gyflwyniadau Arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2015.[5] Rhyddhawyd y ffilm yn gyfyngedig ar 27 Tachwedd 2015 gan Focus Features yn yr Unol Daleithiau.[6] Rhyddhawyd y ffilm ar 1 Ionawr 2016 yn y Deyrnas Unedig gan Universal Pictures International.[7]

Yng nghanol y 1920au yn Copenhagen, gofynna'r baentwraig bortreadau Gerda Wegener (Alicia Vikander) i'w gŵr, yr arlunydd tirluniau poblogaidd Einar Wegener (Eddie Redmayne), gymryd lle model benywaidd sy'n hwyr yn cyrraedd eu fflat i eistedd am baentiad. Mae'r profiad o ymddangos fel benyw yn datguddio teimladau Einar tuag at ei ryw, a'r ffaith ei fod wedi adnabod ei hunan fel benyw o'r enw Lili Elbe, drwy gydol ei oes. Dechreua hyn daith Lili tuag at adael ei hadnabyddiaeth fel Einar, un sydd wedi bod yn anodd iddi gynnal drwy gydol ei bywyd. Digwydd hyn wrth i Lili a Gerda symud i Baris; tynna bortreadau Gerda o Lili, yn ei ffurf fenywaidd, sylw gwerthwyr celf fel nad oedd ei wedi diddori yn ei gwaith o'r blaen. Ym Mharis, daw Gerda ar draws y gwerthwr celf Hans Axgil (Matthias Schoenaerts), cyfaill o blentyndod Einar (Hans oedd y bachgen cyntaf i Einar ei gusanu). Achosa'r teimladau sy'n dechrau datblygu rhwng Hans a Gerda broblemau i Gerda wrth iddi fynd drwy gyfnod o newid yn ei pherthynas gyda Lili, ond cefnoga Hans y ddau oherwydd ei deimladau o gyfeillgarwch i Lili.

Yn y diwedd, derbynia Lili un o'r llawdriniaethau ailgyfeirio rhyw o ddyn i ferch gyntaf. Gyda chymorth Dr. Warnerkos (Sebastian Koch), derbynia driniaeth dwy ran, y gyntaf yn cael gwared â'i horganau cenhedlu allanol ac wedyn, wedi cyfnod o wella, adeilada wain. Brwdfrydedd Lili i gael gwared ag unrhyw olion o'i hanatomi gwrywaidd sy'n ei harwain i ruthro'r gyfes o driniaethau, ac mae'n marw yn y pen draw o ganlyniad i'r gymhlethdodau a achoswyd. Mae'r ffilm yn cloi gyda Gerda a Hans yn ôl yn Nenmarc; mae sgarff oedd Lili yn ei wisgo ac a roddodd i Gerda cyn ei lawdriniaeth yn cael ei gipio gan y gwynt. 

Rhyddhad

[golygu | golygu cod]

Ar 4 Mawrth 2015, datgelodd Focus Features y rhyddheir y ffilm yn gyfyngedig ar 27 Tachwedd 2015.[8] Ymddangoswyd y ffilm am tro cyntaf yn y 72ain Gŵyl Ffilm Fenis ar 5 Medi 2015.[9][10] Rhyddhawyd y ffilm ar 1 Ionawr 2016 yn y Deyrnas Unedig.[7]

Marchnata

[golygu | golygu cod]

Datgelwyd y ddelwedd gyntaf o Redmayne fel Lili Elbe ar 26 Chwefror 2015.[11] Rhyddhawyd pâr o bosteri o Redmayne a Vikander wedyn ym mis Awst.[12] Ar 1 Medi 2015, rhyddhawyd y rhaghysbyseb gyntaf.[13] Ar 19 Tachwedd 2015, rhyddhawyd clip cyntaf y ffilm.[14]

Acolâdau

[golygu | golygu cod]
Gwobrau
Gwobr Categori Derbynydd(ion) a dewisddyn(ion) Canlyniad
72ain Gŵyl Ffilm Fenis [15] Queer Lion Tom Hooper Enillodd
Golden Lion Tom Hooper Enwebwyd
Gwobr Green Drop Tom Hooper Enwebwyd
Gwobrau Ffilmiau Hollywood Hollywood Director Award Tom Hooper Enillodd
Hollywood Breakout Actress Award Alicia Vikander Enillodd
Hollywood Film Composer Award Alexandre Desplat Enillodd
73rd Golden Globe Awards Best Actor in a Motion Picture - Drama Eddie Redmayne I'w gyhoeddi
Best Actress in a Motion Picture - Drama Alicia Vikander I'w gyhoeddi
Best Original Score Alexandre Desplat I'w gyhoeddi
Indiana Film Journalists Association Awards[16] Best Director Tom Hooper I'w gyhoeddi
Best Supporting Actress Alicia Vikander I'w gyhoeddi
Best Actor Eddie Redmayne I'w gyhoeddi
20th Satellite Awards Best Director Tom Hooper I'w gyhoeddi
Best Actor Eddie Redmayne I'w gyhoeddi
Best Supporting Actress Alicia Vikander I'w gyhoeddi
Best Original Score Alexandre Desplat I'w gyhoeddi
Best Adapted Screenplay Lucinda Coxon I'w gyhoeddi
Best Art Direction and Production Design Eve Stewart I'w gyhoeddi
Best Costume Design Paco Delgado I'w gyhoeddi
22nd Screen Actors Guild Awards Outstanding Performance by an Actor in a Leading Role Eddie Redmayne I'w gyhoeddi
Outstanding Performance by an Actress in a Supporting Role Alicia Vikander I'w gyhoeddi

Gwaharddiad

[golygu | golygu cod]

Gwaharddwyd y ffilm yn Catar ar sail llygredd moesol,[17] fe'i gwaharddwyd hefyd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Bahrain, Gwlad Iorddonen, Coweit a Maleisia.[18]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "THE DANISH GIRL (15)". British Board of Film Classification. 3 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2015.
  2. "BOOKS OF THE TIMES; Radical Change and Enduring Love". New York Times. 14 Chwefror 2000. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2015.
  3. "Venice Film Festival: Lido Lineup Builds Awards Season Buzz – Full List". Deadline. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2015.
  4. "Venice Fest Reveals Robust Lineup Featuring Hollywood Stars and International Auteurs". Variety. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2015.
  5. "Toronto to open with 'Demolition'; world premieres for 'Trumbo', 'The Program'". ScreenDaily. 28 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2015.
  6. Hatchett, Keisha (4 Mawrth 2015). "'The Danish Girl' starring Eddie Redmayne gets awards season release date". EW.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2021. Cyrchwyd 6 Medi 2015.
  7. 1 2 "Lana Wachowski helped Eddie Redmayne prepare for The Danish Girl". GayTimes.co.uk. 24 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2015.
  8. Sneider, Jeff (4 Mawrth 2015). "Eddie Redmayne's Transgender Drama 'The Danish Girl' Gets Awards Season Release Date". thewrap.com. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
  9. "Two Matthias Schoenaerts' movies at Venice Film Festival". deredactie.be. 30 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 12 Awst 2015.
  10. "72nd Venice International Film Festival Screening Schedule". labiennale.org. 12 Awst 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2015. Cyrchwyd 12 Awst 2015.
  11. Lloyd, Kenji. "Eddie Redmayne Transforms Into Transgender Painter Einar Wegener in First Look at The Danish Girl". Final Reel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2015. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2015.
  12. Lloyd, Kenji (27 Awst 2015). "Stunning First Posters for The Danish Girl with Eddie Redmayne & Alicia Vikander". Final Reel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Hydref 2015. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2015.
  13. Gerard, Jeremy (1 Medi 2015). "'The Danish Girl' Trailer: Eddie Redmayne & Alicia Vikander Drama First Look". Deadline. Cyrchwyd 6 Medi 2015.
  14. McGovern, Joe (19 Tachwedd 2015). "Eddie Redmayne and Alicia Vikander recall fateful first kiss in The Danish Girl clip". EntertainmentWeekly.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Medi 2020. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2015.
  15. "LIVE: The winners of the 72nd Venice Film Festival". Cyrchwyd 12 September 2015.
  16. The Indiana Film Journalists Association Begins Nominations Process for 2015 Awards
  17. "The Danish Girl banned in Qatar on grounds of 'moral depravity'", The Independent, 12 Ionawr 2016
  18. 'The Danish Girl' Pulled From Cinemas in Qatar, Hollywood Reporter, 13 Ionawr 2016