The Book of Mormon (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Book of Mormon
200
Poster y sioe gerdd
Cerddoriaeth Trey Parker
Robert Lopez
Matt Stone
Geiriau Trey Parker
Robert Lopez
Matt Stone
Llyfr Trey Parker
Robert Lopez
Matt Stone
Cynhyrchiad 2011 Broadway
2012 Taith 1af yr UDA
2012 Chicago
2013 West End
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau o Sioe Gerdd
Gwobr Tony am y Sgôr Gorau
Gwobr Cylch Beirniaid Drama Efrog Newydd am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Drama Desk am Sioe Gerdd Eithriadol
Gwobr Grammy am yr Albwm Theatr Gerdd Orau

Sioe gerdd ddychanol am grefydd ydy The Book of Mormon. Ysgrifennwyd y llyfr, y geiriau a'r gerddoriaeth gan Trey Parker, Robert Lopez, a Matt Stone.[1] Cyd-ysgrifennodd Parker a Stone, sy'n fwy enwog am greu'r comedi animeiddiedig South Park, gyda Lopez, a oedd wedi cyd-ysgrifennu a chyd-gyfansoddi'r sioe gerdd Avenue Q. Mae'r sioe yn dychanu crefydd a theatr gerdd traddodiadol, gan adlewyrchu diddordeb oes y cyfansoddwyr gyda Mormoniaeth a sioeau cerdd.[2]

Adrodda The Book of Mormon hanes dau genhadwr Mormonaidd a gaiff eu danfon i bentref anghysbell yng ngogledd Wganda, lle mae arglwydd rhyfel ciaidd yn bygwth y boblogaeth leol. Ceisia'r ddau genhadwr rannu eu Llyfr Mormon, un o'u hysgrythurau, ond cânt drafferth yn argyhoeddi'r trigolion lleol, sy'n poeni mwy am ryfel, newyn, tlodi ac AIDS nag am grefydd.[3]

Ar ôl datblygu'r sioe am bron saith mlynedd, agorodd y sioe ar Broadway ym mis Mawrth 2011. Derbyniodd The Book of Mormon feirniadaethau cadarnhaol a nifer o wobrau sioeau cerdd, yn cynnwys Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau, a Gwobr Grammy am yr albwm gorau.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Caneuon[golygu | golygu cod]

Act I
  • "Hello" – Price, Cunningham a'r Mormoniaid
  • "Two by Two" – Price, Cunningham a'r Mormoniaid
  • "You and Me (But Mostly Me)" – Price a Cunningham
  • "Hasa Diga Eebowai" – Mafala, Price, Cunningham, Nabulungi a'r Wgandaniaid
  • "Turn It Off" – McKinley a'r Cenhadon
  • "I Am Here for You" – Cunningham a Price
  • "All American Prophet" – Price, Cunningham, Joseph Smith, Angel Moroni a'r Corws
  • "Sal Tlay Ka Siti" – Nabulungi
  • "I Am Here for You" (Reprise)† – Cunningham
  • "Man Up" – Cunningham, Nabulungi, Price a'r Corws
Act II
  • "Making Things Up Again" – Cunningham, Cunningham’s Dad, Joseph Smith, Mormon, Moroni, Uhura, Hobbits a'r Wgandiaid
  • "Spooky Mormon Hell Dream" – Price a'r Corws
  • "I Believe" – Price a'r Corws
  • "Baptize Me" – Cunningham a Nabulungi
  • "I Am Africa" – McKinley, Cunningham a'r Cenhadon
  • "Orlando"† – Price
  • "Joseph Smith American Moses" – Nabulungi, Mafala a'r Wgandiaid
  • "Hasa Diga Eebowai" (Reprise)† – Nabulungi
  • "Tomorrow Is a Latter Day" – Price, Cunningham, McKinley, Nabulungi a'r Corws
  • "Hello" (Reprise)†† – Corws
  • "Finale"†† – Corws

† Nid yw'r gan hon ar albwm y cast.

†† Wedi'i chynnwys fel rhan o "Tomorrow Is a Latter Day" ar albwm y cast.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]