The Adventures of Sherlock Holmes

Oddi ar Wicipedia
The Adventures of Sherlock Holmes
Clawr yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurArthur Conan Doyle Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGeorge Newnes Ltd Edit this on Wikidata
GwladLloegr
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
DarlunyddSidney Paget
Genreffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Cyfresnofelau Sherlock Holmes Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganThe Sign of Four Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Memoirs of Sherlock Holmes Edit this on Wikidata
CymeriadauDr. John Watson, Sherlock Holmes Edit this on Wikidata
Yn cynnwysA Scandal in Bohemia, The Adventure of the Red-Headed League, A Case of Identity, The Boscombe Valley Mystery, The Five Orange Pips, The Man with the Twisted Lip, The Adventure of the Blue Carbuncle, Y Cylch Brith, The Adventure of the Engineer's Thumb, The Adventure of the Noble Bachelor, The Adventure of the Beryl Coronet, The Adventure of the Copper Beeches Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae The Adventures of Sherlock Holmes yn gasgliad o ddeuddeg stori fer gan Syr Arthur Conan Doyle, a gyhoeddwyd gyntaf ar 14 Hydref 1892.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr cynnwys y straeon byrion cynharaf sy'n cynnwys y ditectif ymgynghorol Sherlock Holmes, a gyhoeddwyd mewn deuddeg rhifyn misol o The Strand Magazine rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892. Mae'r straeon yn y casgliad yn cael eu cyhoeddi yn y llyfr yn yr un drefn ag y cyhoeddwyd hwy yn y cylchgrawn. Dydy'r straeon ddim mewn trefn gronoleg o ran dyddiad gosodiad y storïau. Yr unig gymeriadau sy'n gyffredin i bob un o'r deuddeg yw Holmes a Dr Watson ac mae pob un yn cael eu hadrodd yn arddull naratif person cyntaf gan Watson.[2]

Yn gyffredinol, mae'r straeon yn The Adventures of Sherlock Holmes yn nodi, ac yn ceisio cywiro anghyfiawnderau cymdeithasol. Portreadir Holmes fel un sy'n cynnig ymdeimlad newydd, tecach o gyfiawnder.

Darluniodd Sidney Paget bob un o'r deuddeg stori yn The Strand ac yn y casgliad.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Cafodd y straeon dderbyniad da, a rhoddodd hwb i ffigurau tanysgrifiadau The Strand Magazine, gan annog Doyle i allu mynnu mwy o arian ar gyfer ei set nesaf o straeon. Mae'r stori gyntaf, "A Scandal in Bohemia", yn cynnwys cymeriad Irene Adler. Er mae dyma'r unig stori gan Doyle lle mae Adler yn ymddangos daw hi’n gymeriad amlwg mewn addasiadau modern o Sherlock Holmes, yn gyffredinol fel gwrthrych cariad Holmes. Cynhwysodd Doyle pedair o'r deuddeg stori o'r casgliad hwn yn ei ddeuddeg hoff stori Sherlock Holmes, gan ddewis "Y Cylch Brith" fel y gorau oll.[3]

Storïau[golygu | golygu cod]

  1. A Scandal in Bohemia (Mehefin 1891)
  2. The Red-Headed League (Awst 1891)
  3. A Case of Identity (Medi 1891)
  4. The Boscombe Valley Mystery (Hydref 1891)
  5. The Five Orange Pips (Tachwedd 1891)
  6. The Man with the Twisted Lip (Rhagfyr 1891)
  7. The Adventure of the Blue Carbuncle (Ionawr 1892)
  8. The Adventure of the Speckled Band (Chwefror 1892) (Addaswyd i'r Gymraeg fel Y Cylch Brith gan Eurwyn Pierce Jones) [4]
  9. The Adventure of the Engineer's Thumb (Mawrth 1892)
  10. The Adventure of the Noble Bachelor (Ebrill 1892)
  11. The Adventure of the Beryl Coronet (Mai 1892)
  12. The Adventure of the Copper Beeches (Mehefin 1892)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Copi o'r llyfr ar Internet Archive adalwyd 22 Chwefror 2020
  2. The Adventures of Sherlock Holmes Encyclopædia Britannica adalwyd 22 Chwefror 2020
  3. 12 best Sherlock Holmes stories handpicked by creator Sir Arthur Conan Doyle adalwyd 22 Chwefror 2020
  4. Doyle, Arthur Conan; Jones, Eurwyn Pierce. Cylch Brith, Y. , Eurwyn Pierce,. Tal-y-bont. ISBN 978-1-84771-954-6. OCLC 888468067.CS1 maint: extra punctuation (link)