Teyrngaredd Wlster

Oddi ar Wicipedia
Baner yr Undeb, Baner Wlster, a baner yr Urdd Oren yn chwifio yng Ngogledd Iwerddon.

Ideoleg sy'n groes i Iwerddon Unedig yw teyrngaredd Wlster.[nodyn 1] Ceir gorgyffwrdd sylweddol o deyrngarwyr Wlster a'r gymuned Brotestannaidd yng Ngogledd Iwerddon.

Diffiniad[golygu | golygu cod]

Mae'r mwyafrif o deyrngarwyr yn cefnogi cadw safle Gogledd Iwerddon fel talaith o fewn y Deyrnas Unedig, ac nid ymuno â Gweriniaeth Iwerddon sef nod y cenedlaetholwyr/gweriniaetholwyr Gwyddelig. Mae ambell mudiad teyrngarol o blaid annibyniaeth i Ogledd Iwerddon.[1] Gall y term hefyd gyfeirio at gefnogaeth dros grwpiau parafilwrol teyrngarol yng Ngogledd Iwerddon.[2]

Mae rhai yn defnyddio'r term "teyrngarwch" i ddisgrifio unoliaethwyr dosbarth gweithiol yng Ngogledd Iwerddon sy'n barod i ddefnyddio trais i ennill eu hamcanion.[3] Yn ôl eraill, megis Garret FitzGerald, ffyddlondeb i Wlster yw teyrngaredd Wlster ac nid o reidrwydd i'r Undeb.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Gwladychu Wlster[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Londonderry a'r Boyne[golygu | golygu cod]

Y Brenin Wiliam, King Billy, ym Mrwydr y Boyne.

Yr Oruchafiaeth Brotestannaidd[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Amddiffyn yr Undeb[golygu | golygu cod]

Datblygodd teyrngaredd Wlster wrth i unoliaethwyr yn Iwerddon amddiffyn yr Undeb yn wyneb ymdrechion gan lywodraeth San Steffan i roi Ymreolaeth i ynys Iwerddon. Bathwyd yr arwyddair Ulster will fight and Ulster will be right gan yr Arglwydd Randolph Churchill ym 1886. Arwyddair poblogaidd arall oedd Home Rule is Rome Rule, gan adlewyrchu atgasedd y Protestaniaid tuag at yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Erbyn 28 Medi 1912, arwyddwyd Cyfamod Wlster gan hanner miliwn o drigolion Wlster i brotestio Mesur Ymreolaeth llywodraeth Asquith. Rhagfynegodd Edward Carson ryfel cartref yn Wlster, gan recriwtio rhyw 80,000 o ddynion i Wirfoddolwyr Wlster a pharatoi llywodraeth dros dro i'r dalaith.

Y rhaniad hyd 1969[golygu | golygu cod]

Wedi rhaniad Iwerddon ym 1921, daeth tair o naw sir Wlster yn rhan o Iwerddon Rydd, a daeth y chwe arall yn dalaith Gogledd Iwerddon. Yn ôl ystadegau o 1926, roedd 33.5% o boblogaeth Gogledd Iwerddon yn Gatholig a 62.2% yn Brotestannaidd (31.3% yn Bresbyteraidd, 27% yn Eglwys Iwerddon, a 3.0% yn Fethodistaidd).[5]

Yr Helyntion[golygu | golygu cod]

Graffiti a baner deyrngarol ar adeilad ger Shankill Road ym 1970.
Murlun i'r UVF yn Carrickfergus.
Murlun i'r UDA ym Melffast.

Yn ystod yr Helyntion, bu nifer o grwpiau parafilwrol teyrngarol yn gweithredu yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys Gwirfoddolwyr Protestannaidd Wlster (UPV), Corfflu Gwirfoddol Wlster (UVF), a Chymdeithas Amddiffyn Wlster (UDA).

Yn y 1970au, arweiniwyd plaid unoliaethol y VUPP (neu Vanguard) gan Bill Craig, oedd â chysylltiadau â nifer o grwpiau parafilwrol teyrngarol. Cyhuddir hefyd Ian Paisley a lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig o gael cysylltiadau â parafilwyr teyrngarol.

Cytundeb Gwener y Groglith hyd heddiw[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd grwpiau parafilwrol newydd wedi'r Cytundeb, gan gynnwys y Gwirfoddolwyr Oren ac Amddiffynwyr y Llaw Goch.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Mae nifer o frawdoliaethau teyrngarol yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys yr Urdd Oren, yr Urdd Oren Annibynnol, Bechgyn Prentisiaid Derry, a'r Sefydliad Du Brenhinol. Maent yn cynnal gorymdeithiau ar draws y dalaith, a'r amlycaf ohonynt yw'r ŵyl flynyddol ar 12 Gorffennaf, neu'r Deuddegfed Gogoneddus, i ddathlu buddugoliaeth y Brenin Wiliam ym Mrwydr y Boyne. Mae nifer o genedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried y gorymdeithiau yn orchestaidd.

Ymysg caneuon poblogaidd y teyrngarwyr yw The Sash, Derry's Walls, a God Save the Queen.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Pleidiau[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Defnyddir "Wlster" i gyfeirio at Ogledd Iwerddon gan nifer o deyrngarwyr, er bod ffiniau hanesyddol talaith Wlster yn cynnwys tair sir nad yw'n rhan o'r Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-18. Cyrchwyd 2011-08-18.
  2. Alan F. Parkinson(1998), Ulster loyalism and the British media, University of Michigan Press, ISBN 1851823670
  3. Steve Bruce, The Red Hand: Protestant Paramilitaries in Northern Ireland, 1992
  4. Fergal Cochrane, Unionist Politics and the Politics of Unionism since the Anglo-Irish Agreement, 2001
  5. http://cain.ulst.ac.uk/ni/religion.htm#1a

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • McKittrick, David a McVea, David. Making Sense of the Troubles (Llundain, Penguin, 2001).
  • Miller, David W. Queen's Rebels: Ulster Loyalism in Historical Perspective (Dulyn, Gwasg Coleg Prifysgol Dulyn, 2007 [1978]).
  • Mulholland, Marc. Northern Ireland: A Very Short Introduction (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2003).
  • Patterson, Henry. Ireland Since 1939: The Persistance of Conflict (Llundain, Penguin, 2007).
  • Taylor, Peter. Loyalists (Llundain, Bloomsbury, 1999).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: teyrngaredd Wlster o'r Saesneg "Ulster loyalism". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.