Teyrnas Serbia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kingdom of Serbia
Краљевина Србија  (Serbeg)
Kraljevina Srbija  (Serbeg)
Anthem: 
"Боже правде" / "Bože pravde"
(English: "God of Justice")

PrifddinasBelgrâd
Llywodraeth Unitary parliamentary constitutional monarchy
Cyfreithiol National Assembly
Arian Serbian dinar

Gwladwriaeth yn y Balcanau a fodolai o 1882 i 1918 oedd Teyrnas Serbia (Serbeg: Краљевина Србија trawslythreniad: Kraljevina Srbija). Dyrchafwyd Tywysogaeth Serbia yn deyrnas ym 1882 pryd datganwyd Milan I—Tywysog Serbia ers 1868—yn Frenin Serbia, yn sgil cudd-gytundeb gydag Awstria-Hwngari. Roedd yn ffinio ag Awstria-Hwngari i'r gogledd a'r gogledd-orllewin, Tywysogaeth Montenegro (Teyrnas Montenegro o 1910 ymlaen) i orllewin y canolbarth, Albania (rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd hyd at 1912) i'r de-orllewin, Teyrnas Groeg i'r de, Tywysogaeth Bwlgaria (Tsaraeth Bwlgaria o 1908 ymlaen) i'r dwyrain, a Theyrnas Rwmania i'r gogledd-ddwyrain. Beograd oedd y brifddinas, Serbeg oedd y briod iaith, ac Eglwys Uniongred Serbia oedd y ffydd gyffredin.

Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fuan, ceisiodd Milan arfer ei rym yn y Balcanau drwy fanteisio ar yr argyfwng ym Mwlgaria—gwladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd—a goresgyn y wlad honno, gyda sêl bendith Awstria, yn Nhachwedd 1885, yn y gobaith o gipio tiriogaeth ac atal yr undeb rhwng Tywysogaeth Bwlgaria a Dwyrain Rwmelia. Er i'r Otomaniaid beidio ag ymyrryd yn y rhyfel, bu'r amddiffynwyr yn drech na'r goresgynwyr a bu'n rhaid i lysgennad Awstria yn Beograd fygwth ymyrraeth er mwyn atal byddin Bwlgaria rhag meddiannu Serbia. Ymddiorseddai Milan yn sydyn ym Mawrth 1889, ac esgynnodd ei fab Alecsander I i'r orsedd yn 12 oed. Datganodd Alecsander ei hun yn llawn oed ym 1893, ac aeth ati i benodi llywodraeth newydd a diddymu'r cyfansoddiad rhydfdfrydol a fabwysiadwyd gan ei dad ym 1889. Er iddo gychwyn ei deyrnasiad yn boblogaidd, trodd y bobl yn ei erbyn wedi iddo briodi ei gariad, y weddw Draga Draga Mašín, ym 1900. Llofruddiwyd y ddau ohonynt gan swyddogion y fyddin yn y palas brenhinol, yn y cynllwyn a elwir Coup Mai 1903. Daeth brenhinllin Obrenović i ben felly, a datganwyd Petar Кarađorđević yn Frenin Pedr I.

Esblygu i Deyrnas Iwgoslafia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil argyfwng cyfansoddiadol yng ngwanwyn 1914, datganodd y Brenin Pedr ei fod am ymddeol oherwydd ei henaint ac ildio'i frenhinfreintiau i'w etifedd, a dyrchafwyd y Tywysog Coronog Alecsander yn Rhaglyw Dywysog Serbia ar 24 Mehefin 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymdrechodd i sicrhau cefnogaeth Rwsia i Serbia ac apeliodd at ban-Slafiaeth drwy gefnogi achos y Slafiaid Deheuol yn Awstria-Hwngari. Fel pencadlywydd y lluoedd arfog, aeth Alecsander i faes y gad a chyd-deithiodd gyda'r Fyddin Frenhinol wrth iddi ffoi ar draws Albania yng ngaeaf 1915–16. Ar ddiwedd y rhyfel, arweiniodd ei luoedd i mewn i Beograd ar 31 Hydref 1918, ac ar 1 Rhagfyr datganwyd sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid, a newidiwyd ei henw i Iwgoslafia yn 1929, gan uno Serbia â thiriogaethau a ildiwyd gan Awstria-Hwngari yn ogystal â Montenegro.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]