Teyrnas Seland Newydd
![]() Map o Deyrnas Seland Newydd, gyda Seland Newydd ei hun yn wyrdd tywyll. | |
Enghraifft o: | teyrnas ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1983 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Seland Newydd ![]() |
![]() |
Enw cyfansoddiadol a chyfreithiol ar yr holl ardal sy'n ddarostyngedig i frenhiniaeth Seland Newydd yw Teyrnas[1] Seland Newydd (Saesneg: Realm of New Zealand). Nid un wlad neu wladwriaeth unedig ydyw, nac ychwaith ffederasiwn, ond grŵp o diriogaethau yn Neheubarth y Cefnfor Tawel a Chylch yr Antarctig sy'n rhannu'r un pennaeth gwladwriaethol—ers 2022, Charles III—yn rhinwedd ei swydd fel Brenin Seland Newydd. Mae'r deyrnas yn cynnwys:
- Seland Newydd, cenedl-wladwriaeth sofran ac un o deyrnasoedd y Gymanwlad;
- Ynysoedd Cook, gwlad hunanlywodraethol sy'n gysylltiedig â Seland Newydd;
- Niue, gwlad hunanlywodraethol sy'n gysylltiedig â Seland Newydd;
- Tokelau, tiriogaeth sy'n ddibynnol ar Seland Newydd; a
- Tiriogaeth Ddibynnol Ross, ardal o'r Antarctig a hawlir gan Seland Newydd.[2][3]
Gan fod Tokelau a Thiriogaeth Ross yn ddibynnol ar Seland Newydd, tair awdurdodaeth ymreolaethol sydd yn Nheyrnas Seland Newydd: Seland Newydd, Ynysoedd Cook, a Niue. Cynrychiolir y teyrn gan Lywodraethwr Cyffredinol Seland Newydd. Er bod llywodraeth Seland Newydd yn ymwneud â sawl agwedd o gyfraith Ynysoedd Pitcairn, nid ydy'r diriogaeth honno yn rhan o'r deyrnas; yn hytrach, un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig ydyw.
Mae defnydd swyddogol y term Saesneg realm wrth disgrifio'r deyrnas yn unigryw ymhlith teyrnasoedd y Gymanwlad, y 15 gwladwriaeth sofran a chanddynt Charles III yn bennaeth y wladwriaeth. Ni chyfeirir byth at "Deyrnas Awstralia", er enghraifft, er bod Charles III hefyd yn meddu ar deitl Brenin Awstralia ac hynny'n cynnwys sawl tiriogaeth allanol. Yr unig un arall o deyrnasoedd y Gymanwlad sy'n defnyddio "teyrnas" (kingdom yn Saesneg, yn hytrach na realm) yn ei henw ydy'r Deyrnas Unedig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "realm", BydTermCymru (Llywodraeth Cymru). Adalwyd ar 16 Mehefin 2025.
- ↑ (Saesneg) "Letters Patent Constituting the Office of Governor-General of New Zealand".
- ↑ (Saesneg) "New Zealand’s Constitution".