Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd ar ddiwedd yr 11eg ganrif

Teyrnas Lychlynaidd a fodolodd rhwng 1079 a 1266 oedd Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd (Hen Norseg: Suðr-eyjar and Norðr-eyjar "Ynysoedd y De ac Ynysoedd y Gogledd").

Rhennid y deyrnas yn ddwy ran, Sodor (Suðr-eyjar), neu Ynysoedd y De (Ynysoedd Heledd ac Ynys Manaw), a Norðr (Norðr-eyjar), neu Ynysoedd y Gogledd (Orkney a Shetland). Yn 1164 ymrannodd yn ddwy deyrnas ar wahân, sef Teyrnas Ynysoedd Heledd a Theyrnas Manaw. Ei phrifddinas de facto oedd Castletown, Ynys Manaw, prif sedd Brenin Manaw a'r Ynysoedd.

Hen Norseg a Manaweg oedd prif ieithoedd y deyrnas.

Cristnogaeth oedd y grefydd swyddogol, er ei bod yn bosibl fod pocedi o amldduwiaeth wedi dal allan mewn rhannau anghysbell o'r diriogaeth am gyfnod (roedd y Llychlynwyr yn hwyrfrydig i droi at y Gristnogaeth). Hyd heddiw, teitl swyddogol Esgob Ynys Manaw yw Esgob Sodor a Manaw.

Sefydlu'r deyrnas[golygu]

Ffurfiwyd y deyrnas gan Godred Crovan pan gipiodd Ynys Manaw oddi ar Llychwynwyr eraill, Llychlynwyr Dulyn efallai, yn 1079. Aflwyddiannus fu dau ymgais cyntaf Godred i gipio Manaw, ond ar ei drydydd ymgais cafodd fuddugoliaeth mewn brwydr ger Ramsey (Brwydr Sky Hill). Roedd y Llychlynwyr eisoes wedi cipio'r ynys a'i rheoli yn y cyfnod c.700-900 OC, fel rhan o'u cyrchoedd ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Hyd 1079 a buddugoliaeth Godred, gweinyddwyd Manaw a'r ynysoedd gan Lychlynwyr Dulyn ac Orkney.

Maint[golygu]

Llychlynwyr yn eu llongau

Roedd y deyrnas yn cynnwys ynysoedd gogledd Môr Iwerddon a'r rhai niferus oddi ar arfordir tir mawr yr Alban, sef:

Yn nes ymlaen roedd Teyrnas Manaw wedi ei chyfyngu i Ynys Manaw ac Ynysoedd Heledd Allanol, gyda'r Hebrides mewnol yn ffurfio Teyrnas yr Hebrides. Iarllaeth Orkney oedd terfyniad gogleddol y deyrnas, tiriogaeth a gynhwysai rannau o Sutherland, Caithness ac Inverness ar dir mawr yr Alban. Bu gan y deyrnas hon ddylanwad mawr yn rhanbarthau gorllewinol yr Alban a gogledd-ddwyrain Iwerddon, fel Furness, Whithorn, Argyll a Galloway. Ar adegau yn ei hanes bu'r deyrnas yn ddeiliad i frenhinoedd Dulyn a Jorvik (Efrog).

Perthynas â Chymru[golygu]

Chwaraeodd y deyrnas hon ran bwysig yn hanes Teyrnas Gwynedd yn ogystal, yn enwedig yn oes Gruffudd ap Cynan, brenin a fagwyd yn Nulyn (dinas Sgandinafaidd pryd hynny). Dengys Hanes Gruffudd ap Cynan fod Gruffudd yn gyfeillgar â Godred Crovan, brenin Manaw a'r Ynysoedd ("Gothrei Frenin, ei gyfaill", chwedl awdur yr Hanes). Llynges Magnus Droednoeth (Magnus III o Norwy) a ddaeth i Fôn i gynorthwyo Gruffudd i orchfygu'r Huw, Iarll Amwythig mewn brwydr ger Afon Menai yn 1098. Lladdodd Magnus Huw iarll Amwythig yn y frwydr:

A trannoeth, nachaf (dyna) trwy weledigaeth Duw llynges frenhinol yn agos yn ddirybudd yn ymddangos... // A'r brenin ei hun, yn ddigyffro o'r cwr blaen i'r llong, a frathws (tarodd) â saeth Hu iarll Amwythig yn ei lygad, ac yntau a ddigwyddws (syrthiodd) o'i ochrwm i'r ddaear yn friwedig ddienaid i-ar ei farch arfog, dan ymffustio yn ei arfau.[1]

Diwedd y deyrnas[golygu]

Rhoddwyd dwy ran y deyrnas i'r Alban yn 1266, dan Gytundeb Perth.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), t. lxxvi et passim.