Terfysgoedd Lloegr, Awst 2011

Oddi ar Wicipedia
Terfysgoedd Lloegr, Awst 2011
Enghraifft o'r canlynolethnic riot, anrhaith, Ysbeiliad, llosgi bwriadol Edit this on Wikidata
DyddiadAwst 2011 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
Dechreuwyd6 Awst 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Awst 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadBirmingham, Bryste, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain, Manceinion Fwyaf, Glannau Merswy Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Frigad Dân yn chwistrellu dŵr ar siop gyda fflatiau uwch ei ben, drannoeth y drin.

Terfysgoedd mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr yw terfysgoedd Lloegr, Awst 2011. Dechreuodd yn ardaloedd o Lundain, yn bennaf Tottenham, ar 6 Awst 2011 a sbardunwyd gan farwolaeth Mark Duggan, dyn 29 oed, ar 4 Awst wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu. Copïwyd yr anhrefn gan lafnau ifanc iawn drannoeth yn Wood Green, Enfield, Ponders End a Brixton. Roedd y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, Maer Llundain Boris Johnson a'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar eu gwyliau ar y pryd. Defnyddiodd y glaslanciau gyfryngau cymdeithasol megis y Blackberry a Twitter. Ymhlith y rhesymau tybiedig dros y terfysgoedd roedd diweithdra, pris bwyd a thoriadau mewn grantiau myfyrwyr a chlybiau ieuenctid.

Tottenham 2011

Erbyn 8 Awst roedd y terfysg wedi ymledu drwy sawl rhan o Lundain; cafwyd tân anferthol mewn stordy carpedi yn Croydon a thanau ac "anarchiaeth" mewn ardaloedd eraill, er enghraifft Enfield a Ponders End, Walthamstow, Chingford Mount, Hackney a Peckham. Torrodd glaslanciau i mewn i siopau yn Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Bryste a chafwyd terfysgoedd hefyd yn Leeds. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am ddod adref o'i wyliau er mwyn cynnal cyfarfod brys o Cobra.

Drannoeth y drin[golygu | golygu cod]

7 Awst 2011. yr olygfa i lawr Tottenham High Road, tuag at Scotland Green.

Drannoeth roedd terfysgwr Llundain yn gymharol dawel, a'r terfysgoedd yn datganoli i drefi megis Lerpwl lle ymosododd y terfysgwyr ar 4 injan dân. Cafwyd terfysgoedd hefyd yn West Bromwich, Salford, Wolverhampton, Nottingham, Birmingham, Caergrawnt, Washington yn Tyne a Wear a Manceinion lle arestiwyd 47 o laslanciau am ddifrodi siopau, dwyn eiddo a herio'r heddlu.

Ymhlith penawdau papurau newydd 10 Awst roedd penawdau fel: Anarchy Spreads (Telegraph) a Police Get Tough (Guardian) a oedd yn cyfeirio at yr alwad gan y cyhoedd a rhai aelodau seneddol i'r heddlu fod yn fwy llym.

Yn y dyddiau dilynol, agorodd rhai llysoedd ynadon eu drysau 24 awr y dydd er mwyn mesur a phwyso achosion y glaslanciau o'u blaenau. Erbyn 13 Awst, roedd 2,275 o bobl wedi'u harestio a thros 1,000 wedi'u cyhuddo o droseddau megis dwyn a difrodi eiddo.[1] Roedd pump wedi marw: un wedi'i saethu, tri wedi marw mewn damwain car yn ystod yr helnulon ac un hen ŵr wedi cael coblyn o gweir nes iddo farw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.