Terfysgoedd Daear
| Enghraifft o: | Pryddest |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1939 |
| Awdur | Caradog Prichard |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1939 |
| Cysylltir gyda | Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939 |
| Genre | barddoniaeth |
| Dynodwyr | |
Pryddest "wrthodedig a gwaharddedig" Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939 ydi "Terfysgoedd Daear" gan Caradog Prichard. Gwrthodwyd ei gwobrwyo am Y Goron am ei bod hi "wedi gwyro oddi wrth y testun gosodedig fel baich ei gyfansoddiad".[1] Yn ôl Alan Llwyd yn ei gyfrol Y Gaer Fechan Olaf: Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937–1950 [2006] dyma "un o'r pryddestau gorau i'w hanfon i gystadleuaeth y Goron erioed: pryddest aflonyddus, drwblus, winglyd, fawreddog ei swae."[1]
Dadleua Llwyd mai parhad ac estyniad o weithiau buddugol eraill Caradog Prichard yw'r bryddest, sef "Y Briodas" [1927], "Penyd" [1928] ac "Y Gân ni Chanwyd" [1929].[1]
Derbyniwyd 19 o bryddestau, gyda'r beirniaid T. H. Parry-Williams, J. Lloyd Jones ac E. Prosser Rhys yn cyfaddef fod pryddest "Pererin" [Prichard] "ymhell ar y blaen". Ond dadleua Llwyd efallai bod dau reswm posib dros beidio â'i gwobrwyo. Yn gyntaf, am ei bod hi'n "annhestunol" ac yn ail, am bod hi'n ymdrin a hunanladdiad, ac felly yn "anweddus ac yn annerbyniol".[1]
"Mae rhai o sonedau agoriadol y bryddest yn darllen fel llawlyfr ar sut i gyflawni hunanladdiad", yn ôl Alan Llwyd, ac ar ben hynny fe "ogoneddir yr hunanleiddiaid" gan Caradog Prichard, oedd yn groes i "bob barn moesol".[1]
"Mawryger ei henwau megis y gogoneddir
y cadau pell a'u dewrion diwobrwy a leddir."
Aiff Llwyd ymhellach drwy ddadlau bod hi'n anodd cyfiawnhau penderfyniad y beirniaid, gan fod y bryddest yn gwbl destunol, ac mai ystyr y terfysgoedd daear oedd yr angen am ddianc "rhag y boen" a therfysg yr Ail Ryfel Byd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 Llwyd, Alan (2006). Y Gaer Fechan Olaf: Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937–1950. Caerdydd: Cyhoeddiadau Barddas. ISBN 9781900437837.