Neidio i'r cynnwys

Terfysg yr Wyddgrug

Oddi ar Wicipedia
Terfysg yr Wyddgrug
Enghraifft o:terfysg Edit this on Wikidata
Dyddiad2 Mehefin 1869 Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaCoed-llai, King's Own Royal Regiment (Lancaster) Edit this on Wikidata
LleoliadYr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir y Fflint Edit this on Wikidata
Yr hen lys; mae olion bwledi yn y waliau yma o hyd.

Ar 2 Mehefin 1869 cafwyd terfysg yn yr Wyddgrug pan ffyrnigwyd glowyr o'r dre ac ardal gyfagos Coed-llai gan ymddygiad drahaus John Young, Sais o Durham[1], a ataliodd y Cymry rhag siarad Cymraeg.[2]

Ychydig wedi hynny, gostyngodd eu cyflog a daeth â chriw o lowyr o Ogledd Lloegr i weithio'r gwythiennau gorau. Trodd y Cymry yn ei erbyn a rhoddwyd 7 ohonynt i sefyll eu prawf o flaen y llys yn yr Wyddgrug ar 2 Mehefin 1869. Roedd bron i 2,000 o Gymry lleol o flaen y llys, yn cefnogi'r glowyr a galwyd am filwyr o Gaerhirfryn i ddelio gyda nhw. Saethon nhw i'r dorf a lladdwyd pedwar neu bump o sifiliaid. Ar 5 Mehefin 1869 dyfarniad y cwest oedd 'llofruddiaeth gyfiawn'.

Yr wythnos ganlynol, cafodd pump o ddynion – Isaac Jones, William Griffiths, Rowland Jones, Gomer Jones a William Hughes – eu rhoi ar brawf am eu bod wedi bod yn rhan o’r terfysg. Cafwyd hwy yn euog o "anafu troseddol" a dedfrydwyd pob un ohonynt i ddeng mlynedd o gaethwasiaeth-gosb (penal servitude).

Mae rhai wedi galw'r digwyddiad yn "Bloody Sunday y Cymry".[3]

150 mlynedd cyn hyn, roedd Deddf Terfysg 1715 yn ei gwneud yn drosedd ddifrifol i aelodau torf o ddeuddeg neu fwy o bobl wrthod gwasgaru o fewn awr i gael gorchymyn i wneud hynny gan ynad. Yn anffodus ni ddarllenwyd y Ddeddf Terfysg hon i'r protestwyr yn yr Wyddgrug. Effaith trasiedi'r Wyddgrug oedd i'r awdurdodau ailfeddwl a newid y ffordd o ddelio ag anhrefn cyhoeddus.

Er ei fod yn gwadu'r cysylltiad, disgrifiodd Daniel Owen, a oedd yn byw yn y dref, ddigwyddiadau tebyg yn ei nofel gyntaf, Rhys Lewis, a gyhoeddwyd mewn rhandaliadau rhwng 1882–1884.

Sais o Durham yn rheolwr glofa

[golygu | golygu cod]

Ar 2 Mehefin 1869 bu terfysg yn y dref,[4] terfysg a gafodd effaith sylweddol ar blismona cyhoeddus yng ngwledydd Prydain.

Yn y cyfnod hwn, safai 'Leeswood Green Colliery' yng Nghoed-llai, ryw bedair milltir i ffwrdd. Ar 17 Mai 1869, cyhoeddodd John Young, rheolwr Seisnig y lofa, doriad yng nghyflog y gweithwyr. Dyn o Durham oedd Young. Cythruddwyd y glowyr yn fawr. Roedd straen eisioes ar y berthynas - ers i'r Sais eu hatal rhag defnyddio'r Gymraeg o dan ddaear. Gwahoddodd dîm o lowyr o Ogledd Ddwyrain Lloegr i Goed-llai, a chawsant y gwythiennau glo gorau i weithio, a olgyai y caent lawer mwy o gyflog na'r Cymry.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar ôl cyfarfod wrth ben y pwll, ymosododd rhai o'r glowyr ar John Young cyn ei orymdeithio i'r orsaf heddlu. Yn hyrach nag arestio'r rheolwr am annog terfysgaeth a gweithredu yn erbyn y Gymraeg, cafodd saith o'r glowyr eu harestio a’u gorchymyn i sefyll eu prawf ar 2 Mehefin. Yn y llys, cafwyd pob un yn euog, a dedfrydwyd yr arweinwyr, sef Ismael Jones a John Jones, i fis o lafur caled mewn carchar yn Y Fflint.

Milwyr Caerlŷr yn saethu i'r dyrfa

[golygu | golygu cod]

Daeth tyrfa fawr ynghyd i glywed dyfarniad y llys. Trefnodd Prif Gwnstabl Sir y Fflint bresenoldeb heddlu o bob cwr o'r sir a milwyr o 4ydd Gatrawd y King's Own Royal Regiment (o Gaerhirfryn, a oedd wedi'i lleoli dros dro yng Nghaer, Lloegr. Wrth i'r carcharorion gael eu trosglwyddo o orsaf yr heddlu i'r orsaf reilffordd, cynhyrfodd torf o 1500–2000 a thaflu cerrig at y milwyr. Ar orchymyn eu swyddog, taniodd y milwyr eu gynnau i'r dorf, gan ladd pedwar o sifiliaid. Roedden nhw'n cynnwys Margaret Younghusband, morwyn 19 oed, a oedd wedi bod yn gwylio'r digwyddiadau o dir uchel cyfagos, dau lõwr, Robert Hannaby ac Edward Bellis, ac Elizabeth Jones, merch leol a gafodd ei saethu yn ei chefn ac a fu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Yn ôl adroddiad gan y milwyr eu hunain, lladdwyd pump o bobl. [Gweler: http://www.kingsownmuseum.com/ko2490-894.htm]

Cynhaliwyd cwest crwner ar y tair marwolaeth gyntaf ar 5 Mehefin. Yn ôl y sôn, roedd y crwner, Peter Parry, yn "hynod o hen ac eiddil" ac "mor fyddar fel ei fod yn gorfod defnyddio 'utgorn gwrando'" - ac yn rhannol ddall. Cafodd ei gynorthwyo gan y dirprwy grwner, ei frawd Robert Parry. Dyfarniad y rheithgor, ar ôl cyfarwyddyd clir gan y crwner a chael toriad am bum munud yn unig i ystyried y mater, oedd llofruddiaeth gyfiawn (justifiable homicide). Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, cafwyd ail gwest i farwolaeth Elizabeth Jones - a chafwyd yr un dyfarniad.

Deg mlynedd o gaethwasiaeth

[golygu | golygu cod]

Yr wythnos ganlynol cafodd pump o ddynion – Isaac Jones, William Griffiths, Rowland Jones, Gomer Jones a William Hughes – eu rhoi ar brawf am eu bod wedi bod yn rhan o’r terfysg. Cafwyd hwy yn euog o "anafu troseddol" a dedfrydwyd pob un ohonynt i ddeng mlynedd o gaethwasiaeth gosb gan yr Arglwydd Brif Ustus Bovill.[5][6][7][8][9][10][11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. historic-uk.com; Mold Riots of 1869; adalwyd 2 Mehefin 2025.
  2. [The Mold Tragedy of 1869 gan Jenny and Mike Griffiths, (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 2001).
  3. libcom.org; The Mold riots: The summer of ‘69; adalwyd 2 Mehefin 2025.
  4. Mold Riot of 1869. Historic UK. http://www.historic-uk.com/HistoryUK/Wales-History/MoldRiots.htm. Adalwyd 2 August 2009.
  5. Manchester Courier and Lancashire General Advertiser, 5 Mehefin 1869.
  6. Manchester Courier and Lancashire General Advertiser, 11 Awst 1869.
  7. Liverpool Mercury, 8 Mehefin 1869.
  8. Cofnod brawdlysoedd Sir y Fflint yn yr Wyddgrug 5 Awst 1869.
  9. Liverpool Mercury, 10 Mehefin 1869.
  10. The Daily Post, 5 Mehefin 1869.
  11. Liverpool Daily Post, 7 Mehefin 1869.