Terfysg Gwersyll Parc Cinmel
![]() Milwyr Canadaidd yng Ngwersyll Bae Cinmel yn dilyn y gwrthryfel. | |
Enghraifft o: | terfysg ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Byddin Canada ![]() |
Dechreuwyd | 4 Mawrth 1919 ![]() |
Daeth i ben | 5 Mawrth 1919 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Bodelwyddan ![]() |
Ganllath neu ddau o bentref bychan Bodelwyddan, Bwrdeisdref Sirol Conwy, saif hen faes hyfforddi'r fyddin 'Brydeinig' ac yno yn 1919 y cafwyd Terfysg Gwersyll Bae Cinmel. Roedd 15,000 o luoedd Canada yn y gwersyll yn 1919 yn disgwyl llongau i'w cludo adref, ond oherwydd diffyg bwyd ac amgylchiadau budr a chreulon, cafwyd gwrthryfel bychan a therfysg, a bu 5 o filwyr farw. Dywedir eu bod yn cael eu trin yn wael, a'u gorfodi i wneud gwaith caled gan swyddogion o Loegr.[1][2]
Arestiwyd saith deg wyth o ddynion, a chafwyd 25 yn euog o wrthryfela; rhoddwyd dedfrydau iddynt yn amrywio o 90 diwrnod o garchar i ddeng mlynedd o gaethwasanaeth.
Gwersyll
[golygu | golygu cod]Codwyd gwersyll hyfforddi Parc Cinmel o fewn yr hyn a oedd unwaith yn dir Neuadd Cinmel, ger Abergele, ym mwrdeistref sirol Conwy. Adeiladwyd y gwersyll yn 1915 i hyfforddi milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (y Rhyfel Mawr) ac fe'i defnyddiwyd ar ddiwedd y rhyfel i gartrefu milwyr gan gynnwys 15,000 o Ganada.
Ar ddiwedd y rhyfel, roedd 15,000 o filwyr o Ganada, a oedd yn disgwyl cael eu cludo ar long yn ôl i'w gwlad, yn aros yn y gwersyll. Roedd y fyddin wedi bwriadu anfon y lluoedd adref cyn gynted â phosibl, ond ni ddigwyddodd hynny.[3]
Disgrifiwyd yr amodau yng Ngwersyll Cinmel fel rhai cyntefig ac roedd y milwyr yn anfodlon â'u hamgylchiadau yno. Gohiriwyd y llongau sawl tro, gan eu danfon i gludo catrodau eraill adref.[3] Ar ben hyn lladdwyd 80 ohonyn nhw gan y ffliw.[4] Ar ddechrau 1919, cafwyd sawl achos o ladrata yn y gwersyll.
Cafodd maint y gwersyll ei leihau ar ôl y rhyfel, i tua hanner ei faint gwreiddiol. Dymchwelwyd y cwbwl tua 1980.
Terfysgoedd
[golygu | golygu cod]Ar 4–5 Mawrth 1919, bu terfysg ym Mharc Cinmel, lle mynegodd 20,000 o filwyr eu dicter at eu triniaeth cywilyddus. Cafwyd terfysg yn adran Ganadaidd y gwersyll, a pharhaodd am noson a diwrnod. Lladdwyd pump o ddynion, ac anafwyd 23.[5]
Adroddodd y North Wales Chronicle ym mis Ebrill 1919: “Roedd un o’r milwyr Canadaidd yn chwifio baner goch, a’r dyrfa’n bwio a gwawdio milwyr o Loegr a'u swyddog.[6]
“ |
Roedd y gwrthryfelwr yn sownd ym mwd Cymru, yn aros yn ddiamynedd i gyrraedd Canada bedwar mis ar ôl diwedd y rhyfel. Nid oedd y 15,000 o filwyr Canada a glowyd yng ngwersyll Cinmel yn gwybod am y streiciau a oedd yn atal y llongau, gan achosi prinder bwyd. Roedd y dynion ar hanner dogn yr un, doedd dim glo i’r stof yn y cytiau oer, a doedden nhw ddim wedi cael cyflog ers dros fis. Roedd pedwar deg dau milwr yn cysgu mewn cwt ar gyfer tri deg, felly roedd pob un yn cymryd eu tro i gysgu ar y llawr, gydag un flanced yr un.[7] |
” |
Claddwyd pedwar o'r pum milwr o Ganada a laddwyd yn ystod y terfysg ym mynwent eglwys Bodelwyddan ymhlith cofebau eraill Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Mae'r rhan fwyaf o'r beddau rhyfel yn cynnwys cyrff milwyr a fu farw o bandemig y ffliw Sbaenaidd.[8]
Yn Hanes Swyddogol Byddin Canada yn y Rhyfel Byd Cyntaf mae'r hanesydd W. L. Nicholson yn disgrifio gwrthryfel Cinmel fel un o gyfres o ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod adleoli milwyr Canada ar ôl y rhyfel:
“ |
Ar y cyfan, rhwng Tachwedd 1918 a Mehefin 1919, bu tri ar ddeg o achosion neu aflonyddwch yn ymwneud â milwyr Canada ym Mhrydain. Digwyddodd y mwyaf difrifol o’r rhain ym Mharc Cinmel, Cymru ar y 4ydd a'r 5ed o Fawrth 1919, pan arweiniodd anfodlonrwydd ynghylch oedi cyn hwylio at bum dyn yn cael eu lladd a 23 yn cael eu hanafu. Arestiwyd saith deg wyth o ddynion, a chafwyd 25 yn euog o wrthryfela; rhoddwyd dedfrydau iddynt yn amrywio o 90 diwrnod o garchar i ddeng mlynedd o benydwasanaeth.[9] |
” |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Leroux, Marc (2020). "Kinmel Park". Canadian Great War Project. Cyrchwyd 7 Mawrth 2020.
- ↑ "Wayback Machine" (PDF). www.cda-acd.forces.gc.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-05-23. Cyrchwyd 2025-06-30.
- ↑ 3.0 3.1 Carradice, Phil (4 Mawrth 2012). "The Kinmel Camp riots of 1919". BBC. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020.
- ↑ "Former Barracks, Kinmel Park Army Camp, Bodelwyddan Denbighshire" (PDF). Oxford Archaeology North. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020.
- ↑ "Kinmel Camp Riot". The Guardian. 7 Mawrth 1919. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020 – drwy Newspapers.com.
- ↑ walesonline.co.uk; Teitl: The story of the Canadian servicemen shot dead and trampled to death during a riot at a First World War camp in Wales; adalwyd 17 Mehefin 2025.
- ↑ "Wayback Machine" (PDF). www.cda-acd.forces.gc.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-05-23. Cyrchwyd 2025-06-30.
- ↑ Ryall, Gemma (4 Mawrth 2009). "90 year mystery of soldier riots". BBC News. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020.
- ↑ "Wayback Machine" (PDF). www.cda-acd.forces.gc.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-05-23. Cyrchwyd 2025-06-30.