Terfysg Detroit (1967)
Milwyr o Warchodlu Cenedlaethol Michigan yn ystod ail ddiwrnod y derfysg, 24 Gorffennaf 1967. | |
| Enghraifft o: | terfysg ethnig |
|---|---|
| Lladdwyd | 43 |
| Rhan o | Long Hot Summer of 1967 |
| Dechreuwyd | 23 Gorffennaf 1967 |
| Daeth i ben | 28 Gorffennaf 1967 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01vcy6 |
Terfysg Detroit oedd y derfysg hiliol fwyaf waedlyd yn "yr haf hir, poeth" a darodd dinasoedd ar draws Unol Daleithiau America ym 1967. Cafwyd gwrthdrawiadau treisgar yn bennaf rhwng trigolion Affricanaidd-Americanaidd Detroit, dinas fwyaf Michigan, ac Adran Heddlu Detroit am bum niwrnod, gan gychwyn ar 23 Gorffennaf 1967 yn ardal 12th Street. Bu farw 43 o bobl, 33 yn groenddu a 10 yn groenwyn.[1] Anafwyd dros fil o bobl, a chafodd dros saith mil eu harestio. Achoswyd rhyw $40 miliwn o ddifrod i'r ddinas, gan gynnwys llosgi mil o adeiladau a dinistrio 400 ohonynt yn llwyr. Hon oedd y derfysg fwyaf yn yr Unol Daleithiau ers terfysgoedd Eforg Newydd ym 1863, a'r gwaethaf nes terfysgoedd Los Angeles ym 1992. Câi trais yr heddlu yn Detroit ei ystyried yn un o sbardunau mudiad Grym y Duon yn y cyfnod hwn, wrth i nifer o aelodau'r Mudiad Hawliau Sifil droi at ddulliau radicalaidd a milwriaethus o wrthsefyll hiliaeth.[2]
Achos uniongyrchol y derfysg oedd cyrch gan yr heddlu ar glwb yfed hwyr a oedd yn cynnal parti ar gyfer dau filwr yn dychwelyd o Ryfel Fietnam. Cafodd yr holl gwsmeriaid eu harestio, gan gynnwys 80 o Americanwyr Affricanaidd. Protestiodd y trigolion lleol a welodd y cyrch, a throdd yn derfysg wrth i nifer ohonynt fandaleiddio eiddo, ysbeilio busnesau, a chynnau tanau.[3] Ymatebodd yr heddlu drwy warchae ar y gymdogaeth, ond gyrrodd nifer o'r trigolion drwy'r blocâd. Ymledodd y gwrthdystiadau a'r gwrthdrawiadau i ardaloedd eraill y ddinas wrth i'r heddlu golli rheolaeth ar y drefn. Yn ystod y dyddiau i ddod, anfonodd George Romney, Llywodraethwr Michigan, naw mil o aelodau'r Gwarchodlu Cenedlaethol i Detroit, yn ogystal â 800 o heddweision taleithiol. Ar ail ddiwrnod y derfysg, anfonodd yr Arlywydd Lyndon B. Johnson filwyr o 82ain a 101fed adrannau Awyrennol y fyddin i'r ddinas i dawelu'r trais.
Roedd achosion sylfaenol y derfysg yn cynnwys lefelau uchel o rwystredigaeth, dicter a dig a oedd wedi datblygu ymhlith Americanwyr Affricanaidd oherwydd diweithdra a thangyflogaeth, tlodi parhaus ac eithafol, hiliaeth ac arwahanu ar sail hil, creulondeb yr heddlu, a diffyg cyfleoedd economaidd ac addysgol. Roedd dad-ddiwydiannu yn y ddinas wedi arwain at golli swyddi diwydiannol a'u disodli gan swyddi gwasanaethau â chyflogau isel. Cyfrannodd "ffoad y gwynion" a symudiad trethdalwyr i'r maestrefi hefyd at y broses o ddad-ddiwydiannu. Cafodd Americanwyr Affricanaidd eu gorfodi gan wahaniaethu yn y farchnad dai i fyw mewn rhai cymdogaethau penodol yn y ddinas, lle'r oedd y tai yn aml yn wael neu'n is-safonol, tra bod rhaglenni adnewyddu trefol a chynlluniau adeiladu traffyrdd wedi dileu ardaloedd lle'r oedd Americanwyr Affricanaidd unwaith wedi ffynnu.
Tynnodd y derfysg sylw'r cyfryngau, gyda sianeli teledu yn darlledu'n fyw o'r ddinas ac adroddiadau manwl ac erthyglau golygyddol mewn papurau newydd ar draws y byd, a chyhoeddwyd erthyglau nodwedd a ffotonewyddiaduraeth mewn cylchgronau Time a Life. Enillodd y Detroit Free Press Wobr Pulitzer ym 1969 am ohebiaeth leol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Niraj Warikoo, "43 fatal victims of the Detroit riot of 1967", Detroit Free Press (22 Gorffennaf 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Chwefror 2026.
- ↑ (Saesneg) Detroit Riot of 1967. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Chwefror 2026.
- ↑ (Saesneg) "Uprising of 1967", Detroit Historical Society. Adalwyd ar 26 Chwefror 2026.
