Neidio i'r cynnwys

Telyn Brian Boru

Oddi ar Wicipedia
Telyn Brian Boru yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, Iwerddon

Offeryn cerdd canoloesol sy'n cael ei arddangos yn yr ystafell hir yng Ngholeg y Drindod Dulyn yn Iwerddon yw telyn Brian Boru (a elwir hefyd yn "Delyn Coleg y Drindod" er fod arni arfbais O'Neill). Mae'n delyn Wyddelig gynnar neu cláirseach wedi'i llinynnu â gwifrau. Mae'n dyddio o'r 14eg neu'r 15g ac, ynghyd â thelyn y Frenhines Mari a thelyn Lamont, mae un o'r tair telyn Gaeleg hynaf sy'n bodoli.[1] Defnyddiwyd y delyn fel model ar gyfer arfbais Iwerddon.

Mae'r delyn o ddyluniad bach â phen isel gyda phinnau pres ar gyfer 29 o linynau, a'r hwyaf tua 62 cm o hyd. Ychwanegwyd un pin bas ychwanegol ar ryw adeg pan oedd yn dal i gael ei chwarae. Yn 1961 arddangoswyd y delyn yn Llundain, a chafodd ei datgymalu a'i hailadeiladu gan yr Amgueddfa Brydeinig i'r siâp ehangach sydd ganddi heddiw, sef y ffurf ganoloesol y gellir ei chwarae. Roedd y dyluniadau herodrol a nodau masnach cynharach a fodelwyd arno wedi'u seilio ar ffurf deneuach a oedd yn ganlyniad i adferiad gwael yn y 1830au. Felly, mae ymwelwyr yn aml yn synnu pa mor eang yw'r delyn go iawn, o'i chymharu â'r delyn ar ddarnau arian Gwyddelig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'n ansicr pwy a gomisiynodd delyn Coleg y Drindod, er bod tystiolaeth strwythurol yn awgrymu iddi gael ei gwneud yn y 15g. Mae'n debyg o ran ei gwneuthuriad i Gáirseach y Frenhines Mari yn yr Alban. Mae'n debygol, fodd bynnag, y gwnaed y delyn ar gyfer aelod o deulu pwysig, oherwydd ei bod wedi'i gwneud yn gywrain ac wedi'i haddurno'n gymhleth.

Yn ôl ysgrif gan Charles Vallancey ym 1786, dywedwyd ei fod unwaith yn eiddo i Brian Boru, Uchel Frenin Iwerddon.[2] Fodd bynnag, cafodd y cysylltiad hwn ei wrthod gan George Petrie yn 1840 fel "ffugiad trwsgl, na fydd yn cario am eiliad wtth gael ei brofi trwy archwiliad hynafiaethol beirniadol." Mae Petrie yn dyddio ei gwneuthuriad "i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, neu fwy na thebyg yn gynnar yn y bymthegfed ganrif." [3]

Mae arfbais O'Neills ar y delyn ond er bod llawer o ddamcaniaethau am ei pherchnogaeth dros y canrifoedd, ni ellir cadarnhau yr un, gan nad oes unrhyw dystiolaeth wiriadwy yn weddill i ddangos perchennog gwreiddiol y delyn, nac ychwaith ei pherchnogion dros y ddwy i dair canrif hyd nes yr honnir iddo gael ei drosglwyddo i Henry McMahon o Sir Clare, ac yn olaf i William Conyngham, a'i cyflwynodd i Goleg y Drindod yn 1782.[4]

Telyn Coleg y Drindod yw symbol cenedlaethol Iwerddon, sy'n cael ei ddarlunio ar herodraeth genedlaethol, darnau arian Ewro ac arian Gwyddelig. Defnyddiwyd delwedd o'r offeryn yn wynebu'r chwith fel symbol cenedlaethol Iwerddon o 1922 ymlaen, ac fe'i rhoddwyd yn benodol i'r Wladwriaeth gan y Brif Herald Iwerddon yn 1945.[5] Cofrestrwyd delwedd ohoni yn wynebu i'r dde fel nod masnach Guinness yn 1876,[6] er iddi gael ei ddefnyddio gyntaf ar eu labeli yn 1862.[7] Ystyrir bod y tair telyn Gaeleg sydd wedi goroesi (y telynau eraill yw Telyn Lamont a Thelyn y Frenhines Mari) wedi'u gwneud yn Argyll yn Ne Orllewin yr Alban rywbryd yn y 14g-15g.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Joan Rimmer, "The Morphology of the Irish Harp", The Galpin Society Journal, vol. 17 (1964): 39-49
  2. Vallancey, Charles (1786). "Brien Boiromh's Harp". Collectanea de rebus hibernicus (L. White) 4: 33. https://books.google.com/books?id=LG8BAAAAYAAJ&pg=PA33&dq=%22These+regalia+were+deposited+in+the+Vatican%22&hl=en&sa=X&ei=FQLGUPnzFdSChQed2YGICg&sqi=2&ved=0CDcQ6AEwBA#v=onepage&q=%22These%20regalia%20were%20deposited%20in%20the%20Vatican%22&f=false. Adalwyd 13 December 2012.
  3. Petrie, George (1840). "Memoir of Ancient Irish Harp preserved in Trinity College". In Edward Bunting (gol.). The Ancient Music of Ireland: Arranged for Piano. Courier Dover Publications. tt. 40–44. ISBN 9780486413761. Cyrchwyd 13 December 2012.
  4. Flood, William Henry Grattan (1970). A history of Irish music. Praeger. t. 65.
  5. The National Library of Ireland, volume: G.O. MS 111G; Folio number: 20; grant dated 9 November 1945.
  6. Dennison, S.R. (Stanley Raymond); Oliver McDonagh (1998). Guinness 1886–1939: From Incorporation to the Second World War. Cork University Press. t. 9. ISBN 9781859181751.
  7. Yenne, Bill (2007). Guinness: The 250 Year Quest for the Perfect Pint. John Wiley & Sons. ISBN 9780470120521.
  8. Keith Sanger and Alison Kinnaird, "Tree of Strings – Crann nan Teud", Kinmor 1992