Tell England (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tell England)
Tell England
Poster y ffilm
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1931 Edit this on Wikidata
Genreffilm ryfel, ffilm ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithTwrci, Lloegr Edit this on Wikidata
Hyd80 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrAnthony Asquith, Geoffrey Barkas Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrHarry Bruce Woolfe Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuBritish Instructional Films Edit this on Wikidata
CyfansoddwrHubert Bath Edit this on Wikidata
DosbarthyddAssociated British Picture Corporation Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata

Mae Tell England yn ffilm ddrama Saesnig o 1931 a gyfarwyddwyd gan Anthony Asquith a Geoffrey Barkas [1] ac sy'n serennu Fay Compton, Tony Bruce a Carl Harbord.[2] Mae'n seiliedig ar y nofel Tell England gan Ernest Raymond. Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau ddyn ifanc yn ymuno â'r fyddin, ac yn cymryd rhan yn yr ymladd yn Gallipoli yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.[3] Roedd gan y ddau gyfarwyddwr atgofion personol am y frwydro yn Gallipoli, fel yr oedd gan Compton Mackenzie, brawd Fay Compton. Roedd tad Asquith, H H Asquith, yn Brif Weinidog y DU ar adeg y glanio yn Gallipoli,[4] ffaith a dynnodd sylw’r wasg at y ffilm, tra bod Barkas wedi ymladd ei hun ym Mae Suvla yn ystod ymgyrch Gallipoli.

Yn yr Unol Daleithiau cafodd ei ryddhau o dan y teitl amgen The Battle of Gallipoli.

Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, bwriadwyd i'r ffilm i fod yn Ffilm fud, ond cafodd ei gohirio. Fe’i cynhyrchiwyd yn Welwyn Studios gan ddefnyddio proses Klangfilm yr Almaen. Saethwyd llawer o'r ffilm ar leoliad ym Malta, a oedd yn sefyll i mewn dros Gallipoli.

Cast[golygu | golygu cod]

  • Fay Compton fel Mrs. Doe
  • Tony Bruce fel Rupert Ray
  • Carl Harbord fel Edgar Doe
  • Dennis Hoey fel Y Padre
  • CM Hallard fel Y Cyrnol
  • Gerald Rawlinson fel Lt Doon
  • Frederick Lloyd fel Capt. Hardy
  • Sam Wilkinson fel y Preifat Booth
  • Wally Patch fel y Rhingyll
  • Hubert Harben fel Mr. Ray
  • Ian Hamilton fel ef ei hun [5]

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau gyfaill ysgol, Rupert Ray ac Edgar Doe, sydd yn mwynhau eu hieuenctid, yn arbennig wrth gystadlu mewn pencampwriaethau nofio a phlymio yr ysgol. Wedi cyrraedd 18 mlwydd oed mae'r dau yn cael comisiwn fel swyddogion iau yn y byddin. Tra eu bod yn gorffen eu hyfforddiant mae ymosodiad ar yr Ymerodraeth Otoman yn cael ei drefnu a'i gychwyn gan Y Cadfridog Syr Ian Hamilton.[6] Mae Syr Ian ei hun yn ymddangos yn y ffilm, yn egluro be oedd bwriad yr ymgyrch. Y bwriad oedd i gymryd meddiant o gulfor y Dardanelles gan y Tyrciaid. Roedd y culfor yn caniatáu mynediad o Fôr y Canoldir i Fôr Marmara a'r Môr Du ymhellach i'r gogledd. Byddai meddiannu'r culfor yn caniatáu i luoedd yr Ymerodraeth Prydeinig a Ffrainc rhoi a derbyn cymorth morwrol gyda eu cynghreiriaid yn Ymerodraeth Rwsia. Gan fod y Tyrciaid wedi gosod ffrwydron nofio yn y culfor, byddai'n rhaid ennill penrhyn Gallipoli, oedd yn amddiffyn y culfor gyntaf. Roedd yr ymgyrch i ennill Gallipoli yn drychineb o'r cychwyn cyntaf. Roedd y penrhyn yn lle bryniog, hawdd i'w amddiffyn, a chafodd miloedd o filwyr eu lladd wrth geisio lanio ar draethau islaw'r bryniau.[7] Mae'r ffilm yn torri o hanes y cyfeillion i ddangos y lladdfa didrugaredd ar benrhyn Gallipoli.

Wedi gorffen eu hyfforddiant mae'r dau gyfaill yn cael deall bod eu catrawd am gael ei ddanfon i Gallipoli. Ar y chychwyn mae'r ddau yn llawn frwdfrydedd ac yn llawn cynnwrf am cael mynd i wasanaethu eu gwlad ar faes y brwydr. Yn fuan ar ôl cyrraedd Gallipoli mae'r ddau yn sylweddoli eu bod wedi cyrraedd uffern ar y ddaear ac yn wynebu tasg amhosibl o geisio ennill y penrhyn. Mae Edgar yn cael ei anafu'n ddifrifol a phan mae Rupert yn mynd i'w weld o yn yr ysbyty mae'n ddeall nad oes gobaith iddo wella o'i anafiadau. Mae Rupert yn mynd yn ôl i'w ffos ac yn crio am sefyllfa anobeithiol ei gyfaill a gweddill ei gyd filwyr. Yn ei galar mae'n clywed bod yr awdurdodau wedi penderfynu rhoi'r gorau i ymgyrch y Dardanelles ac am encilio o Gallipoli.

Wrth i filwyr olaf y cynghreiriaid ymadael mae dau o filwyr y Tyrciaid yn dod i lawr o'r bryniau i syllu ar feddau eu gelynion. Uwchben bedd Rupert dangosir y geiriau:

Tell England ye who pass this monument

We died for her and here we rest content

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tell England". Time Out Worldwide. Cyrchwyd 2020-12-28.
  2. Asquith, Anthony; Barkas, Geoffrey (1931-10-02), Tell England, Fay Compton, Tony Bruce, Carl Harbord, Dennis Hoey, British Instructional Films (BIF), https://www.imdb.com/title/tt0022468/, adalwyd 2020-12-28
  3. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mai 2009. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2020.CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. "Tell England". The List. Cyrchwyd 2020-12-28.
  5. Napper L. (2015) Conclusion: Tell England. Yn: The Great War in Popular British Cinema of the 1920s. Palgrave Macmillan, Llundain
  6. "Sir Ian Hamilton | British general". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-12-28.
  7. "Gallipoli Campaign | Summary, Map, Casualties, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-12-28.