Telesto (lloeren)
Jump to navigation
Jump to search
Telesto yw'r ddegfed o loerennau Sadwrn a wyddys:
Cylchdro: 294,660 km oddi wrth Sadwrn Tryfesur: 29 km (34 x 28 x 36) Cynhwysedd: ?
Merch Oceanos a Tethys oedd Telesto ym mytholeg Roeg, un o'r Oceanidau.
Darganfuwyd y lloeren Telesto gan Smith, Reitsema, Larson a Fountain ym 1980.
Pwynt Lagrange arweiniol Tethys yw Telesto. Mae'n un o loerennau lleiaf Cysawd yr Haul.