Teleri Bevan

Oddi ar Wicipedia
Teleri Bevan
GanwydGwenfair Teleri Phillips Edit this on Wikidata
11 Ebrill 1931 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farwTachwedd 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, gweithredwr darlledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Darlledwraig a chynhyrchydd radio-a-theledu o Gymraes oedd Teleri Bevan (11 Ebrill 1931 – Tachwedd 2020)[1]. Hi oedd golygydd cyntaf BBC Radio Wales.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd ar fferm ger Aberystwyth ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Bangor.[2] Ei rhieni oedd Dr Richard Phillips, Llangwyryfon ac Eiddwen.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Treuliodd bedwar degawd gyda'r BBC gan weithio fel cyfwelydd, cynhyrchydd, golygydd a rheolwr. Yn y 1960au bu'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni teledu Cymraeg fel Telewele a Gwraig Y Ty.

Bu'n gynhyrchydd gyda BBC Radio 4 cyn cychwyn fel golygydd cyntaf Radio Wales ac roedd yn gyfrifol am lansio'r sianel yn 1978.

Hi oedd yr unigolyn olaf o'r cyfryngau i gyfweld Indira Ghandi cyn ei llofruddiaeth chwe mis yn ddiweddarach.

Ymddeolodd fel Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1991. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Years on Air: Living with the BBC yn 2004.

Ysgrifennodd sawl llyfr am hanes merched Cymreig - The Ladies of Blaenwern a hanes Esme Kirby, sylfaenydd Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri - Esme - Guardian of Snowdonia.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn 89 oed. Wrth dalu teyrnged iddi dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ei bod yn "arloeswr yn natblygiad darlledu yng Nghymru" ac yn "ffigwr unigryw". Dywedodd hefyd "Dylem gofio hefyd i Teleri dorri tir newydd i fenywod ym maes darlledu. Bu iddi gefnogi a hyrwyddo rôl menywod ar draws y cyfryngau - a hynny ar draul bersonol eithriadol - a gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddechrau dadwneud degawdau o siofiniaeth yn y diwydiant.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.