Telegram
Delwedd:Telegram Android screenshot (v 3.3, English).png, Telegram Android screenshot (v 3.3, Spanish).png, Telegram Android screenshot.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | cleient negeseua gwib, meddalwedd am ddim, ap ffôn, gwefan, cwmni dot-com, rhaglen we, cymuned arlein |
---|---|
Crëwr | Nikolai Durov, Pavel Durov |
Gwlad | Rwsia |
Rhan o | alt-tech |
Iaith | Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Iseldireg, Eidaleg, Portiwgaleg Brasil, Coreeg, Rwseg, Ffrangeg, Wcreineg, Catalaneg, Belarwseg, Pwyleg, Maleieg, Tyrceg, Perseg, Wsbeceg, Arabeg, Indoneseg, Hebraeg, Hindi |
Dyddiad cyhoeddi | Awst 2013 |
Dechrau/Sefydlu | 14 Awst 2013 |
Perchennog | Telegram FZ-LLC |
Yn cynnwys | MTProto, MTProxy |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Prif weithredwr | Pavel Durov |
Gweithredwr | Telegram FZ-LLC |
Sylfaenydd | Pavel Durov |
Gweithwyr | 30 |
Pencadlys | Dubai |
Enw brodorol | Telegram |
Dosbarthydd | Microsoft Store, Google Play, App Store, Huawei AppGallery |
Gwefan | https://telegram.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Telegram Messenger, a elwir yn gyffredin yn Telegram, yn wasanaeth negeseuon gwib (IM) traws-lwyfan, sy'n defnyddio cyfrifiadura cwmwl. Fe'i lansiwyd yn wreiddiol ar gyfer iPhone OS (iOS bellach) ar 14 Awst 2013 ac Android ar 20 Hydref 2013. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr gyfnewid negeseuon, rhannu cyfryngau a ffeiliau, a chynnal galwadau llais neu fideo preifat a grŵp yn ogystal â ffrydio byw cyhoeddus. Mae ar gael ar gyfer Android, iOS, Windows, macOS, Linux, a phorwyr gwe. Cryfder Telegram yw ei allu i amgryptio o un pen i'r llall (end-to-end encryption) mewn galwadau llais a fideo,[1] ac mewn sgyrsiau preifat dewisol, y gelwir yn Secret Chats.
Mae gan Telegram hefyd nodweddion rhwydweithio cymdeithasol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bostio 'straeon', creu grwpiau cyhoeddus mawr gyda hyd at 200,000 o aelodau, neu rannu diweddariadau unffordd i gynulleidfaoedd diderfyn mewn 'sianeli', fel y'u gelwir.[2]
Sefydlwyd Telegram yn 2013 gan Nikolai a Pavel Durov.[3][4] Mae ganddo weinyddion ledled y byd ar nifer o ganolfannau data, tra bod y pencadlys yn Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig.[5][6] Telegram yw'r ap negeseua gwib mwyaf poblogaidd mewn rhannau o Ewrop, Asia ac Affrica.[7][8] Erbyn 2004 roedd angen ffôn clyfar neu un o nifer cyfyngedig o NFTs (non-fungible token) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 i gofrestru ar Telegram.[9]
Erbyn Gorffennaf 2024 roedd gan Telegram dros 950 miliwn o ddefnyddwyr actif,[10] gydag India'n arwain o ran nifer y defnyddwyr.[11] Telegram oedd y meddalwedd mwyaf poblogaidd o ran nifer y lawrlwythiadau yn 2021.[12][13]
Yn Awst 2024, arestiwyd Prif Swyddog Gweithredol Telegram, Pavel Durov, yn Ffrainc yng nghanol ymchwiliad i gyd-gynllwynio ag amryw weithgareddau ac am ddiffyg cymedrolwyr ar Telegram. Dywedwyd bod diffyg cymedrolwyr wedi arwain at ddefnyddio'r ap ar gyfer gweithgarwch troseddol.[14] Dywedwyd hefyd bod Durov a Telegram yn ymwneud â throseddau megis troseddau yn erbyn plant, twyll a masnachu cyffuriau.[15]
Datblygiad
[golygu | golygu cod]Lansiwyd Telegram yn 2013 gan y brodyr Nikolai a Pavel Durov. Yn flaenorol, sefydlodd y pâr rwydwaith cymdeithasol Rwsia VK, a adawsant yn 2014, gan ddweud ei fod wedi cael ei gymryd drosodd gan y llywodraeth.[16] Gwerthodd Pavel ei gyfran a oedd yn weddill yn VK a gadawodd Rwsia ar ôl gwrthsefyll pwysau arno gan y llywodraeth.[17] Creodd Nikolai y protocol MTProto sy'n sail i'r negesydd, tra darparodd Pavel gefnogaeth ariannol a seilwaith trwy ei gronfa Digital Fortress.[18] Dywed Telegram Messenger nad dod ag elw yw ei nod terfynol,[19][20] ond nid yw wedi'i strwythuro fel sefydliad dielw.[21]
Mae Telegram wedi'i gofrestru fel cwmni yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ac fel cwmni cyfyngedig yn Dubai.[22][23] Nid yw'n datgelu ble mae'n rhentu swyddfeydd na pha endidau cyfreithiol y mae'n eu defnyddio i'w rhentu, gan nodi'r angen i "gysgodi'r tîm rhag dylanwad diangen" ac amddiffyn defnyddwyr rhag ceisiadau data llywodraethol.[24] Ar ôl i Pavel adael Rwsia yn 2014, dywedwyd ei fod yn symud o wlad i wlad gyda grŵp bach o raglenwyr cyfrifiadurol yn cynnwys 15 aelod craidd.[17][25]
Tra bod cyn-weithiwr VK yn honni bod gan Telegram weithwyr yn St Petersburg,[26] dywedodd Pavel fod tîm Telegram wedi gweithio o Berlin, yr Almaen, ei bencadlys yn 2014,[27] ond wedi methu â chael hawlenni preswylio Almaeneg i bawb yn y tîm a symudodd i lefydd eraill yng ngwanwyn 2015.[26] Ers 2017, mae'r cwmni wedi'i leoli yn Dubai.[28] Mae ganddo strwythur corfforaethol cymhleth o gwmnïau cregyn er mwyn osgoi cydymffurfio gorfodol â subpoenas llywodraethau'r byd.[29]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2013, cyhoeddodd Telegram fod ganddo 100,000 o ddefnyddwyr dyddiol.[18]
Ar 24 Mawrth 2014, cyhoeddodd Telegram ei fod wedi cyrraedd 35 miliwn o ddefnyddwyr misol a 15 miliwn o ddefnyddwyr dyddiol.[30] Yn Hydref 2014, fe wnaeth cynlluniau llywodraeth De Corea i wyliadwrio'i ddinasyddion yrru llawer i newid o'r ap o Gorea, KakaoTalk, i Telegram.[27] Yn Rhagfyr 2014, cyhoeddodd Telegram fod ganddo 50 miliwn o ddefnyddwyr, a'i fod yn danfon 1 biliwn o negeseuon dyddiol, a bod ganddo 1 miliwn o ddefnyddwyr newydd yn ymuno â'i wasanaeth yn wythnosol;[31] dyblodd y traffig mewn pum mis gyda 2 biliwn o negeseuon dyddiol.[32] Ym Medi 2015, cyhoeddodd Telegram fod gan yr ap 60 miliwn o ddefnyddwyr gyda 12 biliwn o negeseuon yn cael eu danfon yn ddyddiol.[33]
Erbyn Mawrth 2024, roedd gan Telegram fwy na 900 miliwn o ddefnyddwyr (gweithredol) misol yn ôl Pavel.[34]
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Negeseuon
[golygu | golygu cod]I ddechrau defnyddio Telegram, rhaid i ddefnyddiwr gofrestru gyda'i rif ffôn neu rif dienw +888 a brynwyd o'r platfform blocgadwyn Fragment.[35][36] Bydd newid y rhif ffôn yn yr ap yn ailbennu cyfrif y defnyddiwr yn awtomatig i'r rhif hwnnw heb yr angen i allforio data na hysbysu eu cysylltiadau.[35][37][38] Mae rhifau ffôn yn cael eu cuddio'n ddiofyn gyda dim ond y defnyddiwr yn gallu eu gweld. Dim ond trwy ddyfais Android neu iOS y gellir cofrestru.[39][40]
Wedi cofrestru, mae negeseuon sy'n cael eu hanfon a'u derbyn gan y defnyddiwr ynghlwm wrth eu rhif a'u henw,[41] nid ynghlwm wrth y ddyfais. Mae unrhyw gynnwys Telegram yn cael ei gysoni rhwng dyfeisiau mewngofnodi'r defnyddiwr yn awtomatig trwy storfa cwmwl, ac eithrio sgyrsiau cyfrinachol dyfais-benodol. Yn ddiofyn, mae unrhyw gyfrif sy'n anactif am 6 mis yn ddiofyn yn cael ei ddileu yn awtomatig, er y gellir byrhau neu ymestyn y cyfnod hyd at 12 mis trwy'r ddewislen yn y Gosodiadau. Mae Telegram yn caniatáu i grwpiau, bots a sianeli sydd â thudalen cyfryngau cymdeithasol neu Wicipedia wedi'i dilysu gael eu gwirio, ond nid cyfrifon defnyddwyr unigol.[42][43]
Gall negeseuon gynnwys testun wedi'i fformatio, cyfryngau, ffeiliau hyd at 2 GB (4 GB gyda chyfri Premiwm), lleoliadau a negeseuon sain neu fideo wedi'u recordio yn yr ap. Gellir golygu negeseuon Telegram mewn sgyrsiau preifat hyd at 48 awr ar ôl iddynt gael eu hanfon gydag eicon “wedi'i olygu” yn ymddangos i adlewyrchu newidiadau, yn ogystal â'u dileu ar gyfer y ddwy ochr yn gyfrinachol (heb bod medru olrhain hynny). Mae gan ddefnyddwyr yr opsiwn i ddileu negeseuon a sgyrsiau cyfan ar gyfer eu hunain ac eraill. Gellir allforio sgyrsiau i'w cadw trwy gleient Bwrdd Gwaith Telegram, er na ellir mewnforio'r data a arbedwyd yn ôl i gyfrif y defnyddiwr.
Fodd bynnag, gall defnyddwyr fewnforio hanes y sgwrs, gan gynnwys negeseuon a chyfryngau, o WhatsApp, Line a KakaoTalk oherwydd hygludedd data, naill ai drwy gychwyn sgwrs newydd i ddal y negeseuon neu drwy eu hychwanegu at un sy'n bodoli eisoes.[44][45]
Oherwydd gallu'r defnyddiwr i fedru mewngofnodi i lawer o ddyfeisiau ar unwaith, bydd dechrau teipio neges ar un ohonynt yn creu “drafft cwmwl” sy'n cydamseru ag eraill, felly gellir dechrau teipio ar ffôn a gorffen ar liniadur, er enghraifft.[46]
Gellir cyfieithu unrhyw neges mewn unrhyw sgwrs trwy agor y ddewislen cyd-destun (context menu). Mae gan ddefnyddwyr Premiwm yr opsiwn i gyfieithu'r sgwrs gyfan gydag un clic. Gall defnyddwyr guddio'r botwm cyfieithu ar gyfer negeseuon sydd wedi'u hysgrifennu mewn ieithoedd penodol.
Galwadau fideo a llais
[golygu | golygu cod]Ers 2017, gall defnyddwyr Telegram gychwyn galwadau llais un-i-un mewn sgyrsiau preifat. Mae galwadau'n cael eu hamgryptio o'r dechrau i'r diwedd ac yn blaenoriaethu cysylltiadau cymar-i-gymar (peer-to-peer). Cyflwynwyd galwadau fideo yn Awst 2020.[47][48] Yn ôl Telegram, mae rhwydwaith niwral yn gweithio i ddysgu ei hun am y paramedrau technegol amrywiol am bob galwad er mwyn darparu galwad o ansawdd gwell yn y dyfodol.[49]
Ychwanegodd Telegram sgyrsiau llais ar gyfer grwpiau yn Rhagfyr 2020[50] a sgyrsiau fideo grŵp ym Mehefin 2021.[51] Gellir defnyddio fideo llun-mewn-llun mewn sgyrsiau llais a fideo grŵp, yn ogystal â rhannu sgrin, creu recordiad o'r alwad, atal sŵn a mudo dethol.[52][53][54] Mewn sianeli, gall defnyddwyr gychwyn llif byw, sy'n gallu integreiddio ag apiau trydydd parti fel OBS Studio ac XSplit.[55][56]
Ar ôl ei lansio, bydd sgwrs llais grŵp yn parhau i fod yn weithredol ac yn agored i holl aelodau'r grŵp nes bod gweinyddwr yn dewis ei chau.[57]
Nodweddion preifatrwydd a diogelwch
[golygu | golygu cod]Yn ddiofyn, mae mewngofnodi i Telegram yn gofyn am naill ai neges SMS a anfonwyd at y rhif cofrestredig neu neges cod a anfonwyd i un o'r sesiynau gweithredol ar ddyfais arall. Mae gan ddefnyddwyr yr opsiwn i osod cyfrinair dilysu dau gam ac ychwanegu e-bost adfer. Ar ddiwedd 2022, ychwanegwyd opsiynau ar gyfer Mewngofnodi gydag Apple a Mewngofnodi gyda Google neu gyda chyfeiriad e-bost.[58] Pryd bynnag y bydd dyfais newydd yn mewngofnodi'n llwyddiannus i gyfrif defnyddiwr, anfonir hysbysiad gwasanaeth arbennig ac arddangosir rhybudd mewngofnodi yn rhestr sgwrsio eu dyfeisiau eraill.[59]
Yn is-ddewislen Preifatrwydd a Diogelwch y Gosodiadau (settings), mae gan y defnyddiwr yr opsiwn i guddio ei statws “Gwelwyd Diwethaf”,[60] sef y tro diwethaf i'r defnyddiwr agor Telegram. Mae cuddio'r statws yn atal yr union amser y bydd y defnyddiwr ar-lein ac yn cuddio statws pobl eraill hefyd. Yn yr un modd, gall defnyddwyr guddio eu rhif ffôn a'u llun proffil rhag pobl yn seiliedig ar gategorïau fel Non-Contacts neu drwy ychwanegu eithriadau. Pan fydd defnyddiwr yn dewis cuddio ei lun proffil, mae ganddo opsiwn o osod "Llun Proffil Cyhoeddus" arall a fydd yn cael ei ddangos yn lle hynny.[61]
Yn yr un ddewislen, gall defnyddwyr gyfyngu ar y cylch o bobl sy'n gallu eu ffonio neu eu gwahodd i grwpiau a sianeli, tra bod gan ddefnyddwyr Premiwm hefyd yr opsiwn i gyfyngu ar bwy a all anfon negeseuon llais atynt.[62]
Mae'r is-ddewislen Dyfeisiau yn dangos yr holl ddyfeisiau gweithredol ar gyfrif y defnyddiwr ac yn caniatáu iddynt allgofnodi o bell o'r dyfeisiau hynny.[63]
Gosodiadau data a storio
[golygu | golygu cod]Mae gan gleientiaid Telegram y gallu i ddiffodd cyfryngau awtochwarae a lawrlwythiadau awtomatig ar gyfer WiFi a data symudol, gan eu haddasu ar gyfer math a maint y cyfrwng. Gellir cymhwyso gosodiadau lawrlwytho hefyd, yn seiliedig ar y math o sgwrs, er enghraifft grŵp, sianel neu breifat.
Gellir newid gosodiadau'r celc (cache) i glirio'r storfa yn awtomatig unwaith y bydd yn cyrraedd maint penodol neu ar ôl i amser penodol fynd heibio. Mae'r rhyngwyneb yn dangos symbolau gweledol i ddefnyddwyr o'u defnydd storio a hefyd yn gadael iddynt ddidoli eu cyfryngau wedi'u storio yn ôl maint, er mwyn clirio eitemau penodol.[64]
Llwyfannau cysylltiedig
[golygu | golygu cod]Gall pobl ddefnyddio'u cyfrifon Telegram i ysgrifennu erthyglau ar Telegraph - golygydd testun a chyhoeddwr minimal. Er y gellir hefyd gyhoeddi erthyglau ar Telegraph yn ddienw, mae eu clymu i'ch cyfrif yn caniatáu i rywun wirio eu cyfrif gwylio a'u golygu'n ddiweddarach. Mae Telegraph yn cefnogi Instant View yn frodorol, nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddarllen erthyglau llawn yn y sgwrs heb unrhyw amser llwytho a heb agor porwr allanol.[65][66][67]
Yn Rhagfyr 2020, lansiodd Telegram lwyfan Bygiau ac Awgrymiadau,[68] lle gall defnyddwyr gyflwyno adroddiadau am wallau a chardiau awgrymiadau ar gyfer nodweddion newydd. Gall eraill wedyn bleidleisio a rhoi sylwadau ar y cardiau hyn.
Adeiladwaith
[golygu | golygu cod]Preifatrwydd
[golygu | golygu cod]Ar gyfer sgyrsiau wedi'u hamgryptio (dan yr enw Secret Chats), mae Telegram yn defnyddio cynllun amgryptio cymesurol (symmetric encryption) arbennig o'r enw MTProto. Datblygwyd y protocol gan Nikolai Durov a datblygwyr eraill Telegram ac o fersiwn 2.0 ymlaen, mae'n seiliedig ar amgryptio AES cymesur 256-bit, amgryptio RSA 2048-did a chyfnewid allweddau Diffie-Hellman.[angen ffynhonnell]
Darfu MTProto 1.0 pan lansiwyd MTProto 2.0 yn Rhagfyr 2017, a gafodd ei ddefnyddio mewn cleientiaid Telegram o fersiwn v4.6 ymlaen.[69]
Profwyd fersiwn 2.0 yn ffurfiol gywir yn Rhagfyr 2020 gan dîm o Brifysgol Udine, yr Eidal. Fe wnaethant ddefnyddio ProVerif, dilysydd yn seiliedig ar fodel symbolaidd Dolev-Yao. Yn y papur a gyhoeddwyd, maen nhw'n "darparu prawf cwbl awtomataidd o gadernid protocolau MTProto 2.0 ar gyfer dilysu, sgwrsio arferol, sgwrsio wedi'i amgryptio o'r dechrau i'r diwedd, a mecanweithiau ail-allweddu mewn perthynas â sawl nodwedd diogelwch, gan gynnwys dilysu, integriti, cyfrinachedd a chyfrinachedd perffaith; tybir bod MTProto 2.0 yn gynllun amgryptio perffaith wedi'i ddilysu (IND-CCA ac INT-CTXT)."[70]
Fodd bynnag, nododd y tîm hefyd, oherwydd bod yr holl gyfathrebu, gan gynnwys plaen-destun a seiffr-destun, yn mynd trwy weinyddion Telegram, ac oherwydd bod y gweinydd yn gyfrifol am ddewis paramedrau Diffie-Hellman, ni ddylid ystyried y “gweinyddwr fel un y gellir ymddiried ynddo”. Daethant hefyd i'r casgliad bod ymosodiad dyn-yn-y-canol yn bosibl os yw defnyddwyr yn methu â gwirio olion bysedd eu bysellau a rennir. Yn olaf, maent yn amodi eu casgliad gyda'r cafeat bod "angen profi nodweddion yn ffurfiol er mwyn ystyried MTProto 2.0 yn gwbwl ddiogel. Ni ellir gwneud y prawf hwn mewn model symbolaidd fel ProVerif's, ond gellir ei gyflawni mewn model cyfrifiannol, gan ddefnyddio offer fel CryptoVerif neu EasyCrypt."
Gweinyddion
[golygu | golygu cod]Fel gyda'r mwyafrif o brotocolau negeseuon gwib, mae Telegram yn defnyddio gweinyddion canolog. Mae gan Telegram Messenger LLP weinyddion mewn nifer o wledydd ledled y byd i wella amser ymateb eu gwasanaeth.[71] Mae meddalwedd ochr-gweinydd Telegram yn ffynhonnell gaeedig.[72] Dywedodd Pavel Durov y byddai angen ailgynllunio pensaernïol enfawr ar feddalwedd ochr y gweinydd i gysylltu gweinyddion annibynnol â chwmwl Telegram.[73]
Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Deyrnas Unedig, cefnogir y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) trwy storio data ar weinyddion yn yr Iseldiroedd yn unig, a dynodi cwmni yn Llundain fel eu rheolydd data cyfrifol.[74][75][76]
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Oherwydd natur gymysg Telegram fel dull cyfathrebu preifat a llwyfan tebyg i gyfryngau cymdeithasol gyda grwpiau a sianeli torfol, ynghyd â chyfyngiadau llac o ran cynnwys sy'n caniatáu i drais (violence) gael ei weld, ffurfiau anghyfreithlon o bornograffi a sgamio wedi'i wahardd, mae'r platfform yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau a grwpiau mawr ar gyfer recriwtio a lledaenu eu hagenda. Mae defnydd trefnus o'r ap wedi'i gysylltu â phrotestiadau o blaid democratiaeth ym Melarws, Rwsia,[77] Hong Kong[78] ac Iran,[79] yn ogystal â lledaenu propaganda gwladwriaethol a rhethreg dreisgar mewn cyfundrefnau gormesol, hyrwyddo safbwyntiau eithafol, a digideiddio gwasanaethau a ddarperir gan endidau'r llywodraeth a busnesau preifat.[80][81][82][83][84][85]
Mae’r ap wedi’i feirniadu gan nifer o sefydliadau ymchwil llywodraethau'r byd a chyrff monitro'r rhyngrwyd oherwydd yr honnir iddo gael ei ddefnyddio gan sefydliadau treisgar fel ISIS, Proud Boys[86] a jwnta Myanmar. Tra bod Telegram wedi gwneud ymdrechion sylweddol[87][88] i wahardd cynnwys anghyfreithlon fel cam-drin plant a sianeli o blaid terfysgaeth, gan gynnwys partneriaeth rhyngddynt ag Europol[89] i ddileu presenoldeb IS, cymunedau o'r chwith-eithafol a'r dde-eithafol, antivaxx, Antifa a defnyddwyr eithafol eraill o'r llwyfan. Mae cynnwys o'r fath fel arfer yn gysylltiedig â Telegram sy'n caniatáu gwybodaeth anghywir i fodoli oherwydd, yn ôl y sylfaenydd,[90] "y cwbwl mae damcaniaethau cynllwynio (conspiracy theories) yn ei wneud yw cryfhau, pan fo cymedrolwr yn eu dileu."
Defnyddwyr nodedig
[golygu | golygu cod]Mae sianeli wedi cael eu defnyddio gan enwogion fel Arnold Schwarzenegger[91] a gwleidyddion: Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron,[92] cyn Arlywydd Brasil Jair Bolsonaro,[93] Arlywydd Twrci Recep Tayyip Erdoğan,[94] Llywydd Moldova Maia Sandu,[95] Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelenskyy, cyn Arlywydd Mecsico Andrés Manuel López Obrador, [96] cyn Brif Weinidog Singapôr Lee Hsien Loong,[97] cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump, Llywydd Uzbekistan Shavkat Mirziyoyevs , cyn Arlywydd Taiwan Ing-wen, Prif Weinidog Ethiopia Abiy Ahmed, Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu ac eraill.
Sensoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae Telegram wedi’i rwystro dros dro neu’n barhaol gan rai llywodraethau gan gynnwys Iran, China, Brasil, a Phacistan. Roedd llywodraeth Rwsia wedi rhwystro Telegram am nifer o flynyddoedd cyn codi'r gwaharddiad yn 2020.[98][99][100] Mae sylfaenydd y cwmni wedi dweud ei fod eisiau i’r ap gael teclyn gwrth-sensoriaeth yn arbennig ar gyfer Iran a Tsieina tebyg i rôl yr ap yn y frwydr yn erbyn sensoriaeth yn Rwsia.[101] Ar 19 Ebrill 2024, tynnodd Apple yr ap Telegram o'i App Store yn Tsieina.[102]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Telegram introduces end-to-end encrypted video calls". The Next Web. 14 Awst 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mawrth 2021. Cyrchwyd 29 Mawrth 2021.
- ↑ Peters, Jay (2023-02-16). "Meta is copying Telegram channels in Instagram". The Verge (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-17.
- ↑ EWDN (2013-08-30). "Russia's Zuckerberg launches Telegram, a new instant messenger service". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2021. Cyrchwyd 2020-11-08.
- ↑ "Meet Telegram, A Secure Messaging App From The Founders Of VK, Russia's Largest Social Network". TechCrunch. 28 Hydref 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 2020-11-08.
- ↑ "'Nobody can block it': how the Telegram app fuels global protest". The Guardian. 7 Tachwedd 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 2020-11-07.
- ↑ "The Evolution of Telegram". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2021. Cyrchwyd 4 January 2021.
- ↑ "Most Popular Messaging Apps: Top Messaging Apps 2021". respond.io (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-17.
- ↑ Cheh, Samantha (2017-08-11). "Cambodia: Govt officials favor Telegram to protect communications". Tech Wire Asia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-17.
- ↑ Shakir, Umar (7 December 2022). "Now Telegram users don't need a phone number — they can buy a fake one with crypto". The Verge. Cyrchwyd 25 Awst 2024.
- ↑ "Du Rove's Channel". www.t.me. Cyrchwyd 2024-07-22.
- ↑ Singh, Manish (2021-08-30). "Telegram surpasses 1 billion downloads". TechCrunch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-17.
- ↑ "Durov Telegram". Telegram (yn Saesneg). 8 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2021. Cyrchwyd 10 Chwefror 2021.
- ↑ "Telegram Tops The List Of Most Downloaded Apps In The World For January 2021: Report". Mashable India. 2021-02-09.
- ↑ Ahsan, Sofi (29 Tachwedd 2022). "After Delhi High Court Ruling, Telegram Discloses Names, Phone Numbers & IP Addresses Of Users Accused Of Sharing Infringing Material". Cyrchwyd 30 Tachwedd 2022.
- ↑ "INFO TF1/LCI : le fondateur et PDG de la messagerie Telegram interpellé en France". TF1 INFO (yn Ffrangeg). 2024-08-24. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ "Pavel Durov left Russia after being pushed out". Agence France-Presse. 22 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ebrill 2014. Cyrchwyd 23 Ebrill 2014 – drwy Economic Times.
- ↑ 17.0 17.1 Hakim, Danny (2 Rhagfyr 2014). "Once Celebrated in Russia, the Programmer Pavel Durov Chooses Exile". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Medi 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ 18.0 18.1 Shu, Catherine (27 Hydref 2013). "Meet Telegram, A Secure Messaging App From The Founders Of VK, Russia's Largest Social Network". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 18 Mawrth 2016.
- ↑ "Telegram F.A.Q". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2014.
...making profits will never be an end-goal for Telegram.
- ↑ "Why Telegram has become the hottest messaging app in the world". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2016. Cyrchwyd 25 Chwefror 2014.
- ↑ Dewey, Caitlin (23 Tachwedd 2015). "The secret American origins of Telegram, the encrypted messaging app favored by the Islamic State". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2019. Cyrchwyd 31 Mawrth 2018.
- ↑ "Telegram Messenger on the App Store". App Store. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 May 2019. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Telegram FZ LLC – Dun & Bradstreet
- ↑ Thornhill, John (3 Gorffennaf 2015). "Lunch with the FT: Pavel Durov". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2016. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Auchard, Eric (23 Chwefror 2016). "Telegram app free-speech advocate no stranger to Apple-FBI woes". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2019. Cyrchwyd 12 Awst 2019 – drwy www.reuters.com.
- ↑ 26.0 26.1 Turton, William (29 Medi 2017). "What isn't Telegram saying about its connections to the Kremlin?". The Outline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2019. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
- ↑ 27.0 27.1 Brandom, Russell (6 Hydref 2014). "Surveillance drives South Koreans to encrypted messaging apps". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Descalsota, Marielle (28 Mawrth 2022). "Meet Pavel Durov, the tech billionaire who founded Telegram, fled from Moscow 15 years ago after defying the Kremlin, and has a penchant for posting half-naked selfies on Instagram". Business Insider. Cyrchwyd 1 May 2022.
- ↑ Hakim, Danny (2014-12-02). "Once Celebrated in Russia, the Programmer Pavel Durov Chooses Exile". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2022-08-19.
- ↑ "Telegram Hits 35M Monthly Users, 15M Daily With 8B Messages Received Over 30 Days". TechCrunch. 24 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 25 Mehefin 2017.
- ↑ "Telegram Reaches 1 Billion Daily Messages". Telegram. 8 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Telegram Hits 2 Billion Messages Sent Daily". Telegram. 13 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2019. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2015.
- ↑ Lomas, Natasha (21 Medi 2015). "Telegram Now Seeing 12BN Daily Messages, up From 1BN in February". Techcrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ "Telegram hits 900mn users and nears profitability as founder considers IPO". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-03-12. Cyrchwyd 2024-03-12.
- ↑ 35.0 35.1 Lopez, Miguel (30 Ionawr 2014). "Configurando Telegram en el iPhone, en la web y en el Mac" [Configuring Telegram in the Apple iPhone, the Web and the Mac] (yn Sbaeneg). Applesfera. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2014.
- ↑ Mehta, Ivan (2022-12-07). "Telegram is auctioning phone numbers to let users sign up to the service without any SIM". TechCrunch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ Munizaga, Jonathan (1 Rhagfyr 2014). "Telegram ya permite migrar conversaciones y contactos a una línea nueva" [Telegram already allows migrating conversations and contacts to a new line] (yn Sbaeneg). Wayerless. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 2 December 2014.
- ↑ Mateo, David G (1 December 2014). "Telegram ahora permite traspasar mensajes al cambiar de número" (yn Sbaeneg). TuExperto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2019. Cyrchwyd 2 December 2014.
- ↑ Witman, Emma (22 January 2021). "How to make a Telegram account and start using the popular group chatting app". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2021. Cyrchwyd 28 Mai 2021.
- ↑ "no login by sms code in desktop version". GitHub. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Hydref 2021. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Secure Messaging App Telegram Adds Usernames And Snapchat-Like Hold-To-View For Media". Techcrunch. 23 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2019. Cyrchwyd 23 Hydref 2014.
- ↑ "Page Verification Guidelines". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 January 2021. Cyrchwyd 12 Ionawr 2021.
- ↑ "Coronavirus News and Verified Channels". Telegram. 3 Ebrill 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2021. Cyrchwyd 12 Ionawr 2021.
- ↑ "آخرین میخ تلگرام بر تابوت واتساپ". اقتصاد آنلاین (yn Perseg). 31 January 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ "Telegram's latest update lets you import chat history from other apps". GSMArena.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2021. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ "Telegram rolls out message drafts, picture in picture for iOS, video player for Android". VentureBeat. 14 Mehefin 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2021. Cyrchwyd 25 May 2021.
- ↑ Lyons, Kim (2020-08-15). "Telegram launches one-on-one video calls on iOS and Android". The Verge (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-28.
- ↑ O'Flaherty, Kate. "Telegram Just Launched A Major New Feature To Beat Zoom". Forbes (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 December 2020. Cyrchwyd 2020-09-03.
- ↑ "Telegram introduces voice calls, touting end-to-end encryption". TechCrunch. 30 Mawrth 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2021. Cyrchwyd 25 May 2021.
- ↑ "Telegram gets Discord-like group voice chats". www.theverge.com (yn Saesneg). 23 December 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 December 2020. Cyrchwyd 2020-12-23.
- ↑ Serrano, Jody (2021-06-27). "A Year Later, Telegram Finally Launches the Group Video Calls It Promised". Gizmodo Australia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-28.
- ↑ Kew-Denniss, Zachary (25 Mehefin 2021). "Group video calls and animated backgrounds are finally here in Telegram 7.8". Android Police. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2021. Cyrchwyd 26 Mehefin 2021.
- ↑ Lyons, Kim (26 Mehefin 2021). "Telegram adds group video calling at last". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2021. Cyrchwyd 26 Mehefin 2021.
- ↑ "Group Video Calls". Telegram. 2021-06-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ "Live Streams, Flexible Forwarding, Jump to Next Channel, Trending Stickers and More". 31 Awst 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2021. Cyrchwyd 8 December 2021.
- ↑ Bonggolto, Jay (11 Mawrth 2022). "Telegram picks up a new download manager and redesigns its attachment menu". Android Central. Cyrchwyd 21 Mai 2022.
- ↑ Warren, Tom (2020-12-23). "Telegram gets Discord-like group voice chats". The Verge (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-28.
- ↑ "Beta Info English". Telegram. Cyrchwyd 2023-01-18.
- ↑ "Telegram update brings stories in Channels, better login alerts and more | Technology". Devdiscourse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-14.
- ↑ "How to Hide Last Seen on Telegram". Alphr (yn Saesneg). 6 Mehefin 2023. Cyrchwyd 2024-01-14.
- ↑ Kellen (2022-12-30). "Telegram's 10 New Features are Its Best in a While". www.droid-life.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-14.
- ↑ Espósito, Filipe (Awst 13, 2022). "Telegram update approved in App Store after Apple complained about animated emoji". 9to5Mac. Cyrchwyd January 14, 2024.
- ↑ Gilbert, Jon; Mascellino, Alessandro (2022-03-22). "Top 10 tips for using Telegram safely and securely". Android Police (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-14.
- ↑ Potuck, Michael (December 30, 2022). "Telegram for iOS gets new drawing and text tools, updates for hidden media, zero storage use, more". 9to5Mac. Cyrchwyd January 14, 2024.
- ↑ "Secure messaging app Telegram now offers its own anonymous blogging platform". TechCrunch. 23 Tachwedd 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2021. Cyrchwyd 25 May 2021.
- ↑ "Custom Languages, Instant View 2.0 and More". Telegram. 10 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 December 2020. Cyrchwyd 16 Awst 2020.
- ↑ "Instant View". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 December 2020. Cyrchwyd 16 Awst 2020.
- ↑ "Telegram messenger launches voice chat for groups, to introduce premium features next year". ETTelecom. Cyrchwyd 2023-06-17.
- ↑ A bot will complete this citation soon. Click here to jump the queue"Automated Symbolic Verification of Telegram's MTProto 2.0". MISSING LINK. . 5 Rhagfyr 2020.
- ↑ Miculan, Marino; Vitacolonna, Nicola (Mawrth 2023). "Automated verification of Telegram's MTProto 2.0 in the symbolic model". Computers & Security 126: 103072. doi:10.1016/j.cose.2022.103072.
- ↑ "Telegram, el chat que compite con Whatsapp" [Telegram, the chat that competes with WhatsApp]. El País (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2014. Cyrchwyd 8 Ionawr 2016.
- ↑ "Telegram FAQ". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2014. Cyrchwyd 2021-03-29.
- ↑ Rull, Antonio (2 Chwefror 2014). "Pavel Durov, creador de Telegram: "Ninguna aplicación es 100% segura"" [Pavel Durov, creator of Telegram: "No application is 100% safe"]. eldiario.es (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2014. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.
- ↑ "GDPR vs US Discovery: US Court Makes Clear Non-US Entities Can't Avoid Discovery". Linklaters LLP. Law Business Research. 29 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mehefin 2020. Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.
- ↑ "Telegram Privacy Policy – Storing Data". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2015. Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.
- ↑ "Telegram Privacy Policy – EEA Representative". Telegram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2015. Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.
- ↑ "Russia internet freedom: Mass rally in Moscow against Telegram ban". BBC. 30 Ebrill 2018. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Schectman, Joel. "Exclusive: Messaging app Telegram moves to protect identity of Hong Kong protesters". Reuters. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Woo, Sam Schechner and Stu. "Iranians Turn to Telegram App Amid Protests". WSJ.
- ↑ "Минфин запустил Телеграм-бот для упрощения процесса получения материальной помощи и пособия на ребенка". Podrobno.uz (yn Rwseg). Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "SE "Medical Procurement of Ukraine" launched the Telegram chat-bot". medzakupivli.com (yn Saesneg). 27 Ebrill 2021. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Mae Soco, Rhea (16 Chwefror 2021). "Chatbot launched as part of 'back to school' campaign - Khmer Times". Khmer Times. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Paul, Andrew (31 Ionawr 2023). "Indonesia activates a disaster-relief chatbot after destructive floods". Popular Science. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Usuarios del Transantiago podrán saber cuándo viene su bus a través de Facebook y Telegram". www.t13.cl. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Salute, Ministero della. "Covid-19, nasce il canale Telegram del ministero della Salute". www.salute.gov.it (yn Eidaleg).
- ↑ "Proud Boys celebrate Trump's 'stand by' remark about them at the debate". The New York Times. 29 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 December 2020. Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
- ↑ "Telegram says it has had to remove 'hundreds' of public calls for violence". The Independent (yn Saesneg). 19 Ionawr 2021. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Ravlic, Tom (19 Hydref 2020). "This dark world: messaging app bans more than 350,000 child abusers and terrorists". Crikey.
- ↑ "Europol and Telegram take on terrorist propaganda online". Europol (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Du Rove's Channel". Telegram. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ Schwarzenegger, Arnold. "You can and anyone you know also find this on my new Telegram channel if that is easier". Twitter.
- ↑ "Emmanuel Macron". Telegram. Cyrchwyd 2022-07-01.
- ↑ "Jair M. Bolsonaro 1". Telegram. Cyrchwyd 2022-07-01.
- ↑ "Recep Tayyip Erdoğan". Telegram. Cyrchwyd 2022-07-01.
- ↑ "🇲🇩 Președintele Maia Sandu". Telegram. Cyrchwyd 2022-06-10.
- ↑ "Andrés Manuel López Obrador". Telegram. Cyrchwyd 2022-07-01.
- ↑ "Lee Hsien Loong". Telegram. Cyrchwyd 2022-07-01.
- ↑ Erdbrink, Thomas (2018-05-01). "Iran, Like Russia Before It, Tries to Block Telegram App". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ "Russia lifts ban on private messaging app Telegram". The Independent (yn Saesneg). 2020-06-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Kilpatrick, Ryan Ho (2015-07-13). "China blocks Telegram messenger, blamed for aiding human rights lawyers". Hong Kong Free Press HKFP (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ "Telegram founder says anti-censorship tech that defeated Russian authorities should be used against Iran and China". Meduza (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Lomas, Natasha (19 Ebrill 2024). "Apple pulls WhatsApp, Threads from China App Store following state order". TechCrunch. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Espinoza, Antonio; Tolley, William (Awst 2017). "Alice and Bob, who the FOCI are they?: Analysis of end-to-end encryption in the LINE messaging application" (PDF). Usenix. USENIX Association. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2021. Cyrchwyd 12 Mai 2021.
- Rottermanner, Christoph; Kieseberg, Peter; Huber, Markus; Schmiedecker, Martin; Schrittwieser, Sebastian (December 2015). Privacy and Data Protection in Smartphone Messengers (PDF). Proceedings of the 17th International Conference on Information Integration and Web-based Applications & Services (iiWAS2015). ACM International Conference Proceedings Series. ISBN 978-1-4503-3491-4. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2016. Cyrchwyd 18 Mawrth 2016.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Jakobsen, Jakob; Orlandi, Claudio (8 December 2015). "On the CCA (in)security of MTProto" (PDF). Cryptology ePrint Archive. International Association for Cryptologic Research (IACR). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 12 December 2015. Cyrchwyd 11 December 2015.
- Miculan, Marino; Vitocolonna, Nicola (5 Rhagfyr 2020). "Automated Symbolic Verification of Telegram's MTProto 2.0". arXiv:2012.03141v1 [cs.CR].
- Albrecht, Martin R.; Mareková, Lenka; Paterson, Kenneth G.; Stepanovs, Igors (16 Gorffennaf 2021). "Four Attacks and a Proof for Telegram" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2021.
- Abu-Salma, Ruba; Krol, Kat; Parkin, Simon; Kohl, Victoria; Kwan, Kevin; Mahboob, Jazib; Traboulsi, Zahra; Sasse, M. Angela. "The Security Blanket of the Chat World:An Analytic Evaluation and a User Study of Telegram" (PDF). University College London. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2021. Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.
- Hannan Bin Azhar, M A; Barton, Thomas Edward Allen. "Forensic Analysis of Secure Ephemeral Messaging Applications on Android Platforms" (PDF). Canterbury Christ Church University. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2021. Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- https://telegram.org Gwefan swyddogol.