Neidio i'r cynnwys

Teiresias

Oddi ar Wicipedia
Teiresias
Enghraifft o:cymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0klcf edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ysgythriad o Teiresias yn taro'r neidr a chael ei droi'n ferch, gan Johann Ulrich Krauss (tua 1690)

Rhagweledydd dall o Thebai ym mytholeg Roeg yw Teiresias. Roedd yn fab i'r nymff Chariclo, un o ffefrynnau'r dduwies Athena.[1]

Ceir mwy nag un stori sy'n ceisio esbonio'i ddallineb. Yn ôl un chwedl, cafodd y llanc ei ddallu gan Athena am iddo weld hi'n ymdrochi'n noeth, ond derbynodd hefyd ei rym proffwydol a'r gallu i siarad â'r adar. Sonir amdano hefyd yn treulio cyfnod o'i fywyd yn fenyw. Yn ôl y stori hon, darganfu Teiresias dwy neidr yn cyplu. Cafodd y dyn ei droi'n ferch wedi iddo ladd y neidr fenywol. Ymhen saith mlynedd, daeth o hyd i bâr arall o nadroedd yn cael rhyw: gwnaeth Teiresias ladd y neidr wrywol a drodd yn ôl yn ddyn. Pan ofynnwyd gan Zews a Hera p'un o'r ddwy ryw sy'n mwynhau'n bennaf wrth garu, atebodd Teiresias taw'r dyn sy'n rhoi mwy o bleser i'r fenyw na'r ffordd arall. Cafodd Hera ei digio am iddo ddatgelu "cyfrinach pob merch", a throdd Teiresias yn ddall am gosb. I wneud iawn am hyn, rhodd Zews iddo allu darogan ac oes hir. Dywed yr oedd Teiresias yn ddyn doeth iawn, ac hyd yn oed wedi ei farwolaeth roedd ei ysbryd yn fod deallus ac yn parháu i ddarogan yn yr isfyd.[2]

Ymddengys yn gymeriad mewn nifer o'r trasiedïau a leolir yn Thebai, gan lenorion clasurol megis Soffocles, Ewripides, Pindar, ac Ofydd. Teiresias sy'n cynghori Odysseus yn yr Odyseia, yn datgelu troseddau Oidipos, ac yn rhybuddio Pentheus, Brenin Thebai i dalu teyrnged i Dionysos. Ymddengys hefyd mewn gweithiau modern fel proffwyd ac fel ffigur androgynaidd, megis The Waste Land gan T. S. Eliot a La Machine infernale gan Jean Cocteau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Tiresias. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) "Tiresias" yn Myths and Legends of the World (Macmillan, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 16 Rhagfyr 2016.