Tatariaid Siberia


Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i Orllewin Siberia yw Tatariaid Siberia. Maent yn siarad Tatareg Siberia, iaith Dyrcaidd o'r gangen Kipchak–Nogai sydd yn debyg i'r Gasacheg.
Maent yn disgyn o lwythau Wgrig, Samoied, a Thyrcig, ac i raddau llai pobloedd Iranaidd a Mongolaidd.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Cwympodd Chanaeth Sibir i'r Rwsiaid ym 1582. Trodd Tatariaid Siberia yn Fwslimiaid yn y 14g a'r 15g. Cadwant eu strwythur lwythol a'r claniau, a ni chymysgant â Thatariaid y Volga nes yr 20g.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) "Siberian Tatars" yn Encyclopedia of World Cultures. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 8 Rhagfyr 2021.