Tatariaid Astrakhan

Oddi ar Wicipedia

Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i ranbarth deheuol Afon Volga yw Tatariaid Astrakhan. Yn hanesyddol buont yn bobl ar wahân i Datariaid ardal Kazan, ond bellach maent wedi ymddiwylliannu i'r radd eithaf ac fe'i ystyrir yn is-grŵp i Datariaid y Volga erbyn heddiw.

Maent yn disgyn o boblogaeth Chanaeth Astrakhan (1466–1556), un o ôl-wladwriaethau'r Llu Euraid. Cymysgant â llwyth y Nogay a gawsant eu cymhathu'n Datariaid.

Amcangyfrifir bod 90,000 i 150,000 o Datariaid Astrakhan yn byw yn Rwsia yn yr 21g.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), tt. 45–46.