Tatŵ Brenhinol Milwrol Caeredin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tatŵ Caeredin 2011 MOD 45153060

Mae Tatŵ Brenhinol Milwrol Caeredin yn gyfres flynyddol o arddangosiadau milwrol a berfformir gan Lluoedd Arfog Prydain, bandiau milwrol y Gymanwlad a thimau arddangos rhyngwladol ar rodfa Castell Caeredin. Cynhelir y digwyddiad drwy gydol mis Awst bob blwyddyn fel rhan o Ŵyl Caeredin.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiwyd y tatŵ cyntaf, o'r enw Something about a Soldier, ar Safle Seindorf Ross yng Ngerddi Princes Street Caeredin ym 1949. Cynhaliwyd y tatŵ swyddogol gyntaf ym 1950 gyda dim ond wyth eitem ar y rhaglen; denodd tua 6,000 o wylwyr yn eistedd ar feinciau a sgaffaldiau syml o amgylch rhodfa Castell Caeredin. Ym 1952 cafodd nifer ac ansawdd y seddi eu cynyddu i ddarparu ar gyfer cynulleidfa o 7,700 bob nos trwy gydol mis Awst, gan ganiatáu i 160,000 i wylio perfformiadau byw bob blwyddyn.

Yr ŵyl gyfoes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers y 1970au bu ychydig dros 217,000 o bobl, ar gyfartaledd, yn gweld y Tatŵ yn fyw ar rodfa'r Castell yn flynyddol, mae pob sioe wedi gwerthu pob tocyn o flaen llaw yn ystod y degawd diwethaf. Mae tua 30% o'r gynulleidfa yn dod o'r Alban, 35% o weddill y Deyrnas Unedig a 35% yn gynulleidfa sy'n cynnwys dros 70,000 o ymwelwyr dramor.[2][3]

Mae'r Tatŵ yn cael ei gynnal unwaith y noson yn ystod yr wythnos a dwywaith ar ddydd Sadwrn trwy fis Awst. Bydd yr ail berfformiad ar nos Sadwrn yn cynnwys arddangosfa tân gwyllt, er bod pob perfformiad yn defnyddio rhywfaint o byrotechneg. Ers 2005 mae'r sioe wedi cynnwys elfen o son et lumière i daflunio delweddau ar ffasâd y Castell.

Ers 2004, mae'r Tatŵ wedi cynnal perfformiadau talfyredig am ddim ar safle seindorf Ross o'r enw Blas y Tatŵ, ac ers 2008 bu ragflas tebyg ar Sgwâr Sant Siôr, Glasgow.[4][5]

Cysylltiadau Brenhinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2010 cafodd Tatŵ Milwrol Caeredin ei ail enwi'n Tatŵ Brenhinol Milwrol Caeredin ar ôl i'r Frenhines Elizabeth dyfarnu'r teitl Brenhinol i'r ŵyl fel rhan o'i ddathliadau chwedeg mlynedd o fodolaeth.

Yn 2014 penodwyd y Dywysoges Anne yn noddwr brenhinol y sioe (Royal Bank of Scotland yw'r prif noddwr corfforaethol go iawn).

Trefn y Sioe[golygu | golygu cod y dudalen]

Bob blwyddyn bydd un o'r Lluoedd Arfog yn arwain y sioe gan ffeirio'r arweinyddiaeth rhwng y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, y Fyddin Brydeinig a'r Llu Awyr Brenhinol. Bydd pob blwyddyn hefyd yn dathlu neu'n coffáu sefydliad, pen-blwydd, thema neu ddigwyddiad penodol.

Uchafbwynt pob Tatŵ yw'r dyrfa o bibellau a drymiau cyfun, a ddarperir gan gatrodau'r Fyddin Brydeinig a bandiau pibell a drwm o bob cwr o'r byd sifil a milwrol, er yn bennaf o wledydd y Gymanwlad gyda chysylltiadau a'r Alban. Mae pob noson yn dod i ben gyda'r offerynwyr pibell a drwm yn cyfuno i orymdeithio ymlaen i ymuno â'r bandiau milwrol fel un llu. Caiff hwn ei ddilyn gan ddatganiad o Dduw a Helpa'r Frenhines ac Auld Lang Syne. Yna bydd seremoni gostwng y faner, gyda biwglwr naill ai'n seinio Post Diwethaf, neu'r Sunset (galwad biwgl y Môr-filwyr Brenhinol), bydd y digwyddiad yn darfod gyda phibydd unigol yn chwarae galargan o ben un o ragfuriau uchaf y castell. Wedyn bydd y bandiau yn gorymdeithio i lawr y Filltir Frenhinol i dôn Scotland the Brave.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]