Neidio i'r cynnwys

Tarvos Trigaranus

Oddi ar Wicipedia
Tarvos Trigaranus
Cerfwedd o Tarvos Trigaranus ar Biler y Badwyr.
SymbolTarw gyda thair garan

Mae Tarvos Trigaranus neu Taruos Trigaranos yn ffigwr dwyfol sy'n ymddangos ar banel cerfwedd o Biler y Badwyr fel tarw gyda thair garan ar ei gefn. Mae'n sefyll o dan goeden, ac ar banel cyfagos, mae'r duw Esus yn torri coeden i lawr, helygen o bosibl, gyda bwyell.

Yn yr Aleg, ystyr taruos yw "tarw," a geir yn Gymraeg fel tarw (cymharer "tarw" mewn ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill megis fel taurus Lladin o'r Groeg "ταύρος" neu Lithwaneg taŭras), ac yn yr Hen Wyddeleg fel tarb (/tarβ/), mewn Gwyddeleg Cyfoes fel tarbh. Garanus yw'r aran (garan yn Gymraeg, Hen Gernyweg a Llydaweg; gweler hefyd geranos, defod "crane dance" yr hen Roeg). Treis, neu tri- mewn cyfansoddeiriau , yw'r rhif tri (cymharer Gwyddeleg trí, Cymraeg tri).

Mae piler o Trier yn dangos dyn gyda bwyell yn torri coeden lle mae tri aderyn a phen tarw yn eistedd. Mae cyfosodiad delweddau wedi'i gymharu â phaneli Tarvos Trigaranus ac Esus ar gofeb y Badwyr. Mae'n bosibl bod cerfluniau o darw gyda thri chorn, megis yr un o Autun (Bwrgwyn, Ffrainc, Awstodunum gynt) yn perthyn i'r duwdod hwn.

Mae'r lleuad Sadyrnaidd Tarvos wedi'i enwi ar ôl Tarvos Trigaranus, yn dilyn confensiwn o enwi aelodau ei grŵp lleuad ar ôl ffigurau mytholegol Galig.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Planet and Satellite Names and Discoverers". Gazetteer of Planetary Nomenclature. USGS Astrogeology. July 21, 2006. Cyrchwyd 2006-08-06.

Ffynnonellau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]