Tant cyrn melyn

Oddi ar Wicipedia
Achlya flavicornis

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw tant cyrn melyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy tannau cyrn melyn; yr enw Saesneg yw Yellow-horned, a'r enw gwyddonol yw Achyla flavicornis.[1][2]

Bwyd a thymor y lindys[golygu | golygu cod]

Mae’r lindys yn bwyta dail bedw gan ymguddio rhwng dail wedi eu plethu wrth ei gilydd. Gaeafu unwaith, weithiau ddwywaith, fel chwiler[3].

Cylch bywyd yr oedolyn[golygu | golygu cod]

Un genhedlaeth, yn hedfan ym misoedd Mawrth ac Ebrill.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Coedwigoedd, rhosdiroedd a gweundiroedd[3].

Statws a ffurfiau amrywiol[golygu | golygu cod]

Y ffurf ‘’A. f. galbanus’’ yn gyffredin ar draws Cymru a Lloegr. Y ffurf ‘’A. f. scotica’’ yn eang ei ddosbarthiad yn yr Alban gydag unigolion o ogledd Lloegr gyda nodweddion y ddwy ffurf[3].

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r tant cyrn melyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. 3.0 3.1 3.2 Moths of the British Isles, B. Skinner (1984) Gwasg Viking