Tangelo Jamaicaidd

Oddi ar Wicipedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Tangelo Jamaicaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Sapindale
Teulu: Rutaceae
Genws: Sitrws
Rhywogaeth: C. reticulata × paradisi
Enw deuenwol
Citrus reticulata × paradisi

Y tangelo Jamaicaidd, neu'r ffrwyth /ˈʌɡli/ ugli, yw'r ffrwyth sitrws sydd wedi ymddangos yn Jamaica trwy groesrywedd naturiol o danjerîn neu oren gyda grawnffrwyth (neu pomelo). Mae'r tangelo Jamaicaidd felly yn enghraifft o dangelo.[1]

Fel rhywogaeth hybrid, mae'n cael ei gynrychioli fel Citrus reticulata × paradisi

Darganfyddiad[golygu | golygu cod]

Cafodd y tangelo ei ffurfio yn naturiol yn Jamaica trwy groesrywedd.[1], lle mae'r mwyafrif yn dal i gael eu cynhyrchu heddiw.[2] 'UGLI' yw nod masnach gofrestredig Cabel Hall Citrus Limited ar gyfer y ffrwyth,[3] yr enw yn seiliedig ar y gair Saesneg "Ugly", sydd yn cyfeirio at y golwg anolygus, gyda'r croen garw, crychlyd a melyn-gwyrdd wedi'i lapio'n llac o gwmpas y sitrws mwydionog oren tu fewn.[4]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r rhannau gwyrdd golau o'r arwyneb yn troi'n oren pan mae'r ffrwyth ar ei fwyaf aeddfed. Mae'r tangelo Jamaicaidd fel arfer yn fwy na grawnffrwyth (ond gall amrywio) ac yn cynnwys llai o hadau. Mae'r cnawd llawn sudd ac yn debycach i'r tanjerîn melys na'r grawnffrwyth chwerw, gyda chroen persawrus.

Mae'r blas yn aml yn cael ei ddisgrifio'n fwy sur nag oren ond yn llai chwerw na grawnffrwyth, gyda phobl yn aml yn dyfalu ei fod yn groesiad lemwn-tanjerîn. Mae'r ffrwyth yn dymhorol rhwng Rhagfyr ac Ebrill. Mae'n cael ei ddosbarthu yn Ewrop a'r Unol Daleithiau rhwng Tachwedd ac Ebrill,[5] ac ar adegau mae o ar gael o Orffennaf tan Fedi.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Grawnffrwyth: y ffrwyth gyda bach o cymhleth mewn Art Culinaire (Gaeaf, 2007)
  2. "Ble i edrych – UGLI". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-18. Cyrchwyd Chwefror 13, 2012.
  3. "Amdanom ni – UGLI". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-21. Cyrchwyd Chwefror 13, 2012.
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Ffrwyth
  5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Ble
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: