Tanau coedwig Twrcaidd 2021
Gwedd
Enghraifft o: | Turkey wildfire season |
---|---|
Dyddiad | 2021 |
Lladdwyd | 4, 8 |
Dechreuwyd | 28 Gorffennaf 2021 |
Daeth i ben | 12 Awst 2021 |
Rhagflaenwyd gan | 2020 Turkish wildfires |
Lleoliad | Manavgat, Adana, Osmaniye, Talaith Mersin, Talaith Kayseri, Antalya, Diyarbakır, De Ewrop |
Gwladwriaeth | Twrci |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd tanau coedwig Twrci 2021 yn fwy na chant o danau coedwig, yn bennaf yn nhaleithiau deheuol Twrci. Dechreuodd y tanau gwyllt yn Manavgat Antalya ar Orffennaf 28, 2021 gyda'r tymheredd oddeutu 37°C. O 30 GOrffennaf 2021 roedd tanau coedwig ar yr un pryd yn effeithio ar gyfanswm o 17 talaith,[1] gan gynnwys Adana, Osmaniye, Mersin a Kayseri.[2]
Bu farw tri o bobl yn y tanau coedwig ym Manavgat. Gwagiwyd 18 o bentrefi yn Antalya ac 16 o bentrefi yn Adana a Mersin. Roedd y rhan fwyaf o'r anafiadau oherwydd anadlu mwg. Cafodd mwy na 4,000 o dwristiaid a gweithwyr dau westy ym Modrum eu symud ar y môr, gan Warchodlu Arfordir Twrci gyda chymorth cychod preifat.