Tam Cốc-Bích Động
Gwedd
| Math | ogof |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Fietnam |
| Cyfesurynnau | 20.219°N 105.916°E |
![]() | |

Ogof ger tref Ninh Binh yng ngogledd Fietnam ydy Tam Coc - Bich Dong (Fietnameg: Tam Cốc - Bích Động) sydd yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr. Mae'n dair awr at yr ogofâu ar hyd Afon Ngô Đồng mewn cwch o Van Lam. Mae'r daith hon yn cynnwys arnofio drwy dair ogof (Hang Cả, Hang Hai, a Hang Ba), gyda'r mwyaf yn 125m a'i nenfwd tua dwy fetr o wyneb y dŵr. Fel arfer, merched leol ydy'r rhwyfwyr, ac mae'n nhw'n aml yn gwerthu nwyddau wedi'u gwnïo.
Ystyr Tam Coc ydy “Tair Ogof”.
Delweddau
[golygu | golygu cod]- Ha Pagoda, Bich Dong
- Tam Coc
- Tam Coc
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Tam Coc - Bich Dong Tourism complex[dolen farw]
- (Saesneg) Bich Dong Pagoda[dolen farw]
- (Saesneg) Tam Coc[dolen farw]
