Takayama, Gifu
| Delwedd:Takayama (15485428565).jpg, Hotakadake Takayama01j3872.jpg | |
| Math | dinas Japan |
|---|---|
| Poblogaeth | 85,199 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Michihiro Kunishima |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,177.67 km² |
| Uwch y môr | 573 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Hida, 郡上市, Gero, Shirakawa, 大町市, Matsumoto, Kiso, Toyama-shi, Hakusan, 大野市 |
| Cyfesurynnau | 36.14603°N 137.25217°E |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Takayama |
| Pennaeth y Llywodraeth | Michihiro Kunishima |
![]() | |

Dinas yn Japan yw Takayama (Japaneg: 高山市 Takayama-shi) neu Hida-Takayama (Japaneg: 飛騨高山), wedi ei lleoli yn nhalaith Gifu yng nghanolbarth y wlad. Ystyr llythrennol Takayama yw "mynydd uchel" sydd yn adlewyrchu lleoliad uchel y ddinas. Gelwir y ddinas yn aml yn Hida-Takayama er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth ddinasoedd eraill o'r un enw, gan gyfeirio at enw hen dalaith y ddinas, Hida. Mae erbyn heddiw yn lle poblogaidd i deithwyr aros am amser byr cyn crwydro i ardal Shirakawa-go neu fynyddoedd Alpau Japan sydd gerllaw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn dyddio yn ôl i'r Cyfnod Jōmon, ac fe ddaeth yn enwog am ei gwaith coed. Credir mai seiri o Takayama a adeiladodd nifer o demlau a phalasau Kyoto a Nara. Cafodd y ddinas fel y mae heddiw ei datblygu yn y 16g pan adeiladwyd Castell Takayama gan lwyth y Kanamori. Gwnaeth lleoliad anghysbell Takayama iddi ddatblygu ei diwylliant unigryw dros y 300 mlynedd a ddilynodd. Ffurfiwyd fel dinas ym 1936. Ar Chwefror 1, 2005 daeth 9 o drefi a phentrefi Ōno, Kuguno, Asahi, Kiyomi, Miya, Nyūkawa, Shōkawa, Takane, Yoshiki, Kokufu, a Kamitakara) at ei gilydd fel rhan o ehangiad fawr o'r ddinas. O ganlyniad, daeth Takayama yn ddinas mwyaf Japan (o ran arwynebedd), er mai dinas fechan wedi ei amgylchynu gan bentrefi a threfi gwledig ydyw mewn gwirionedd.
