Tair (drama)
clawr y ddrama Tair gan Meic Povey | |
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1998 |
| Awdur | Meic Povey |
| Cyhoeddwr | Dalier Sylw a CAA |
| Dyddiad cyhoeddi | 1998 |
| Cysylltir gyda | Dalier Sylw |
| ISBN | 1856443930 |
| Dyddiad y perff. 1af | 3 Awst 1998 |
| Dynodwyr | |
Drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 oedd Tair gan Meic Povey. Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan gwmni theatr Dalier Sylw fel rhan o arlwy'r Eisteddfod, yn yr un flwyddyn. Drama deuluol sydd yma, rhwng tair cenhedlaeth - y fam, y ferch a'r nain. Cyhoeddwyd y ddrama gan Dalier Sylw ar y cyd â CAA.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Tair menyw, tair cenhedlaeth, tri bywyd gwahanol iawn... ond pa mor wahanol yw y tair mewn gwirionedd? Faint bynnag dymunent wadu neu osgoi eu cyfrifoldeb, mae gwaed yn dewach na dŵr, ac yn sicrhau fod y tair yn rhan annatod o orffennol a dyfodol ei gilydd, ac y byddant felly trwy gydol eu hoes."[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn dilyn sawl comisiwn blaenorol gan Dalier Sylw [Wyneb yn Wyneb (1993) a Fel Anifail (1995)], a chyd-weithio llwyddianus gyda'r cyfarwyddydd Bethan Jones, drama deuluol arall oedd ymateb Povey i gais comisiwn 1998. “Dwi’n dod yn ôl yn y pendraw, fel yn y rhan fwyaf o bethau dwi’n sgwennu, at y ffaith bod pwy wyt ti a be wyt ti yn ddibynnol iawn ar dy gefndir a dy deulu di”, meddai'r dramodydd.[2] Roedd ei ferch Catrin Powell yn un o'r dair actores, a ddewiswyd i lwyfannu'r ddrama, am y tro cyntaf.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Y Nain
- Y Fam
- Y Ferch
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Dalier Sylw oedd yn gyfrifol am lwyfannu'r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Bro Ogwr, a hynny yn Ysgol Pen-coed. Bu'r cwmni ar daith drwy Gymru efo'r ddrama wedi wythnos yr Eisteddfod, yn Hydref 1998. Cyfarwyddydd Bethan Jones; cast:
- Y Nain - Lisabeth Miles
- Y Fam - Betsan Llwyd
- Y Ferch - Catrin Powell (llysferch Meic Povey)
Cafodd y ddrama ei haddasu ar gyfer BBC Radio Cymru yn 2010 gyda'r cast canlynol:
- Y Nain - Lisabeth Miles
- Y Fam - Betsan Llwyd
- Y Ferch - Nanw Llwyd Williams (merch Betsan Llwyd)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Povey, Meic (1998). Tair. Dalier Sylw / CAA. ISBN 1856443930.
- ↑ 2.0 2.1 "Nodiadau ar y ddrama radio Tair". 2010.