Taflegryn balistig
Diagram yn dangos llwybr y Minuteman III MIRV, ICBM a ddefnyddir gan Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau ers y 1970au:
| |
| Enghraifft o: | dosbarth o arfau yn ôl swyddogaeth |
|---|---|
| Math | taflegryn |
| Y gwrthwyneb | taflegryn criwsio |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09h1l |
| Thesawrws y BNCF | 24516 |
Math o arf daflol yw taflegryn balistig a gaiff ei yrru gan roced o'i safle lansio i'r awyr uchaf ar hyd daflwybr balistig, ac yn disgyn yn ôl tuag at ei darged rhagderfynedig. Caiff ei saethu i haenau uchaf atmosffer y Ddaear, neu hyd yn oed y tu hwnt iddo yn y gofod, gydag arweiniad cyfeiriedig ar gychwyn ei daith cyn dilyn llwybr cromlinol yn ôl tuag at ei darged o dan ddylanwad disgyrchiant. Mae modd iddynt gludo gwahanol fathau o lwythi, o ffrwydron confensiynol i arfau dinistr torfol, sef pen-ffrwydron niwclear, biolegol, a chemegol. Oherwydd eu cyflymder a'u cyrhaeddiad, maent yn cael eu hystyried yn un o'r arfau mwyaf pwerus a pheryglus sydd ar gael. Mae taflegryn balistig yn wahanol i daflegryn criwsio, y math arall o daflegryn strategol, sydd wedi ei gyfeirio ar hyd ei holl daith, ac felly wedi ei gyfyngu i'r atmosffer.[1]
Rhennir taith taflegryn balistig yn sawl cam: y cam lansio, pan fo'r taflegryn yn cael ei yrru gan rocedi sy'n ei godi oddi ar y ddaear; y cam hedfan, ar hyd lwybr cromlinol (hynny yw, balistig) yn y gofod neu'r atmosffer uchaf; ac yn olaf y cam ail-fynediad, pa fo'r pen yn dychwelyd i'r atmosffer ac yn disgyn ar ddiwedd ei lwybr tuag at y targed. Mae'r llwybr balistig yn golygu nad yw'r taflegryn yn cael ei arwain yn weithredol drwy'r holl daith, ond yn hytrach yn dibynnu ar gyfrifiadau manwl a ffiseg mudiant. Gellir saethu taflegrau balistig o awyren, llong, neu long danfor yn ogystal â safleoedd lansio ar y tir, megis pydew lansio neu lwyfan symudol.
Dosberthir mathau o daflegrau balistig yn ôl eu hamrediad, gan gynnwys taflegrau byrgyrhaeddol (SRBMau), taflegrau ganol-gyrhaeddol (MRBMau), a thaflegrau rhyng-gyfandirol (ICBMau), sy'n gallu teithio miloedd o gilometrau rhwng cyfandiroedd. Cyfyngir taflegrau balistig byrgyrhaeddol (SRBM) i'r atmosffer. Gall taflegrau balistig rhyng-gyfandirol (ICBM) deithio'n bellach na 5,500 km, ac mae'n bosib i'r ICBMau mwyaf hedfan mewn orbit[2]. Mae datblygiad y systemau hyn wedi bod yn rhan allweddol o strategaethau ataliaeth niwclear, gan greu cydbwysedd grym rhwng gwledydd sydd â'r gallu hwn.
Er bod taflegrau balistig yn cael eu gweld fel arfau milwrol yn bennaf, maent hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiadau mewn technoleg ofod. Mae llawer o'r egwyddorion peirianyddol a ddefnyddir i'w hadeiladu wedi helpu i ddatblygu rocedi ar gyfer lansio lloereni ac archwilio'r gofod[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Larry Gilman, "Ballistic missiles" yn The Gale Encyclopedia of Science. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Ebrill 2026.
- ↑ "North Korea launches 'highest ever' ballistic missile". BBC (yn Saesneg). 28 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 13 Ebrill 2026.
- ↑ Chun, Clayton K. S. (2006). Thunder over the horizon: from V-2 rockets to ballistic missiles. War, technology, and history (yn Saesneg). Westport, CN.: Praeger Security International. t. 2. ISBN 978-0-275-98577-6.