Neidio i'r cynnwys

Tafarn y Fic, Llithfaen

Oddi ar Wicipedia
Tafarn y Fic
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlithfaen Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.96056°N 4.44783°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH356431 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 6PA Edit this on Wikidata
Map
Tafarn y Fic

Tafarn gydweithredol yn Llithfaen, Gwynedd, yw Tafarn y Fic. Yn y 1980au, gyda thranc y diwydiant llechi yn lleol, doedd y bragdy oedd yn berchen y Victoria Hotel ddim yn gweld dyfodol i wneud elw, a phenderfynwyd cau'r dafarn. Mae traddodiad o fentrau cydweithredol yn ardal yr Eifl, a ffurfiodd nifer o bobl ardal Llithfaen gwmni cydweithredol a chodi cyfalaf i brynu Tafarn y Fic a'i hailagor yn 1988. Honnir mai dyma'r dafarn gymunedol hynaf yn Ewrop.[1][2]

Gyda chymorth arian Ewropeaidd o gronfa Amcan 1, cafodd y dafarn ei thrawsnewid yn llwyr ar droad y mileniwm, ac fe ailagorodd ar ei newydd wedd yn 2004.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "'Oldest' co-op pub Tafarn y Fic celebrates 25 years". BBC Wales. 22 Medi 2013. Cyrchwyd 16 Ebrill 2025.
  2. "Fic Llithfaen: 'tafarn gymunedol hynaf Ewrop... a gorau Cymru'". BBC Cymru Fyw. 10 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 16 Ebrill 2025.
  3. Tudalen 'Hanes' gwefan y dafarn

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]