Tabernacl Treforys
Gwedd
| Math | eglwys, capel |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Treforys |
| Sir | Abertawe, Treforys |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 30.4 metr |
| Cyfesurynnau | 51.6633°N 3.92506°W |
| Cod post | SA6 8BA |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Un o gapeli mwyaf Cymru, a elwir yn "gadeirlan Anghydffurfiaeth Cymraeg" yw Tabernacl Treforys. Weithiau gelwir y capel yn Gapel Libanus. Mae'n adeilad cofrestredig Gradd I ac fe'i leolir ar Stryd Woodfield, yn Nhreforys, Abertawe, Cymru.
Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer John Humphrey a chafodd ei adeiladu ar gost o £15,000 ym 1872. Mae yno le i 3,000 o bobl i eistedd.
Defnyddir y capel ar gyfer ymarferion a pherfformiadau gan ddau gôr lleol: Côr Tabernacl Treforys a Chôr Menywod Treforys.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.185–7
