Ta-Ra Teresa (drama)
Clawr y Rhaglen / Ddrama o 2002 | |
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 2002 |
| Awdur | Aled Jones Williams |
| Cyhoeddwr | Llwyfan Gogledd Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Llwyfan Gogledd Cymru / Cwmni Theatr Gwynedd |
| Dynodwyr | |
Drama Gymraeg am berthynas y Cymry â dinas Lerpwl, ac am effaith y mewnlifiad ar dref fel Blaenau Ffestiniog yw Ta-Ra Teresa gan y dramodydd Aled Jones Williams. Gan fod un o'r cymeriadau yn Sais o Lerpwl, mae rhannau helaeth o'r ddrama yn yr iaith Saesneg. Comisiynwyd a llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn Nhachwedd 2002, er i Llwyfan Gogledd Cymru ei hail lwyfannu yn 2003.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Wedi ei seilio ar stori Romeo a Juliet ac wedi ei lleoli yn Ffestiniog. Mae dau berson ifanc, un o aelwyd Gymraeg a'r llall o aelwyd Saesneg wedi penderfynu priodi - gyda chanlyniad erchyll. [...] Drama gyffrous am fewnlifiad, sydd wedi ei hysgrifennu ar gyfer y gymuned gyfan."[1]
Mae'r ddrama yn olrhain hanes teulu Eirwen Williams a'i hymgyrchydd [dros yr iaith Gymraeg] o fab, Robat Hefin. Pan mae Robat yn cwrdd â merch mewn siop lyfrau [Adrian], a'i fam Eirwen [sy'n briod] yn ildio i'w chwantau rhywiol â Sais o Lerpwl, Johnny Heneghan, mae'r digwydd yn ffrwydro bywyd yr holl gymeriadau, hyd farwolaeth.
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Sais o ŵr gweddw yw Johnny Heneghan, yn enedigol o Lerpwl, ond wedi rhamantu am Gymru ers iddo glywed yr iaith Gymraeg ar strydoedd y ddinas, ers yn blentyn. "That was no language. That was incantation. Words whose meanings were never to be found in a dictionary but in what they conjured up in your imagination. They made other worlds inside me. I never wanted to know what they meant. They were sacred. Like sex between Mum and Dad."[1] Teresa yn nheitl y ddrama oedd ei gyn-wraig, a mam ei ferch Adrian. "Keep the kid, she said, but give me the car. Ta-ra Teresa!, I said."[1]
Mae Robat Hefin wedi bod yr un mor angerddol dros warchod ac ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg, ers ei blentyndod yntau. Drwy gyfres o ôl-fflachiadau plethedig, gwelwn gysylltiad Robat â dinas Lerpwl, lle mae ei fam Eirwen Williams wedi arfer llusgo ei dad ac yntau, ar dripiau bws blynyddol, ers yn blentyn. Mynd i brynu dillad, neu'n hytrach i brofi "gwefr'n llaw i'n gwthiad rhwng ffrogia ar hangyrs ar y rêls dillad" mae Eirwen, tra bod ei gŵr Bob yn aros amdani, a'i mab Robat yn "sylcio" tra'n dyheu am degannau newydd.[1]
Wrth rannu ei hanes ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, mae Robat yn cyfaddef mai gan ei dad yr "etifeddodd ei gynddaredd" tuag at ddinas Lerpwl, yn enwedig o ddysgu am hanes boddi Capel Celyn. "Mae gwarth Tryweryn yn dew yn yr awyr", oedd geiriau ei dad. Ond fe noda Beti George mai o Lerpwl yn enedigol, mae darpar wraig Robat, ac "o deulu Saesneg". Cyfeirio mae hi at Adrian Heneghan, merch Johnny, a dyweddi Robat.[1]
Hel atgofion mae Adrian hithau, wrth ramantu am ei phlentyndod a'i hiraeth am ei mam. Etifeddodd gariad ei thad tuag at Gymru, wrth iddo yntau ail-ymweld â'r traethau a fu unwaith yn ei droedio â'i dad.
Wrth dyfu'n hŷn, suro mae teimladau Robat Hefin at y ddinas, gan sylwi "...mi o'dd'na rwbath wedi digwydd i Lerpwl. Fel dynas dlos ar un adeg ond a oedd bellach wedi gollwng ei hun. Mi roedd y Ddinas rwsut yn clafychu. Ac mi oedd pawb isio mynd i Gaer. Caer neisiach, gleniach, lanach, ddrytach. Caer y basa hi di bod yn job i chi ga'l hyd i hyd yn oed un cachiad ci ar y pafin di-grac."[1] Wedi hunanladdiad [posib] ei dad, trodd Robat at Sosialaeth, er i'w fam geisio ei droi'n "gomiwnist" drwy orfodi Cysgod y Cryman arno! Ond dianc i fyd "geiriau" mae Robat, gan archwilio gwahanol grefyddau.
Cawn wybod hefyd mai gadael dinas Lerpwl fu hanes Johnny a'i ferch Adrian, gan fudo i fyw i "Bla-Neigh-Vest-Iniock" [Blaenau Ffestiniog]. A gwirioni ar eiriau'r iaith Gymraeg wnaeth Adrian, drwy ddysgu'r iaith yn rhugl, tra'n yr ysgol. Ond suro tuag at Gymru wnaeth ei thad yn sgil agwedd y Cymry tuag ato, am iddo fethu siarad yr iaith. Dyna pryd y cwrddodd ag Eirwen, a chychwyn perthynas rywiol a nwydus, er ei bod hi'n dal yn wraig briod, ar y pryd.
Mae Eirwen yn ein hatgoffa ei bod hi'n hoff iawn o holl bleserau a moethau bywyd, ac mewn monolog flasus ac awgrymiadol dros bryd o fwyd i'w gŵr Bob, mae hi'n dinoethi ei chwantau rhywiol, a'i dillad dros y "Carpaccio of Beef" a'r "graphin dauphinois", ond i ddim canlyniad[1]
Mewn siop lyfrau y bu i Robat Hefin ac Adrian gwrdd, yn ddi-arwybod i'w rhieni, dros boster "cyfarfod Bwdist". Gweithio yn y siop oedd Adrian tra bod Robat yn dianc yno i ryddid meddwl ei gyfrolau. Ond wrth rannu mwy o'i feddyliau efo Beti George ynghylch ei gymhellion a'i Gymreictod, mae Robat yn cyfeirio at "ddau ddigwyddiad pan yn blentyn". Canfod asgwrn anifail wedi'i gladdu yn yr ardd oedd y cyntaf, a dychmygu mai "asgwrn hen berthynas imi oedd o [...] 'Roedd y pridd yn dal 'n hanas i. A'n hanas i yn anatod glwm wrth yr iaith Gymraeg. Ac wrth ddal yr asgwrn bychan budur yna gwbod mod i'n ddwfn berthyn i wlad a phobol oedd yn ymestyn tu hwnt i fi fy hun a fy mhethau. Ac nid yn unig perthyn ond fod gen-i gyfrifoldeb yn sgil y perthyn yna."[1]
Syrthio ar ddarn o lechen oedd yr ail ddigwyddiad, a sylweddoli bod "llechen yn sumbol o'r lle ro'n i'n byw. Bob bore mi fyddwn i'n agor y cyrtans i weld tomennydd llechi Rhosgadfan a Charmel a Fron. Ond eto dyma sumbol o orthrwm. Fod dynion a merched a'u teuluoedd wedi eu hegsploitio gan y darn yma o garreg. Cyfalafwyr Saesneg wedi ein rheibio ni. A hynny yn y ngwneud i'n ymwybodol o hanes. Hanes gorthrwm. Fod y Cymry o dan fawd y Saeson."[1]
"Yr unig beth y medrwch chi 'i 'neud hefo llechen ydy carreg fedd neu dô. Hynny ydy, pobol wedi ein cau i mewn yda ni. A'n mygu. Wedi ein claddu. A'r bore hwnnw mi ddarganfyddish i fy awch i am ryddid."[1]
Er mai "death by misadventure" oedd dyfarniad swyddogol marwolaeth sydyn a damweiniol Bob[1], mae'n amlwg fod Eirwen ei wraig yn dal i deimlo'n euog, gan amau neu "wybod" mai lladd-ei-hun wnaeth o yn Llyn y Morynion.[1] Yn ystod neithior priodas Robat ac Adrian, mae Eirwen a Johnny yn ail-gwrdd, heb ddeall y cysylltiad rhwng eu plant. Mae'n sefyllfa o embaras, yn enwedig am bod eu cyn-berthynas rywiol yn gyfrinach i bawb ond nhw ill dau. Ceir awgrym go drom mai Johnny yw tad Robat, am nad oedd perthynas rywiol rhwng Eirwen a Bob. Mae'r holl blot yn ffrwydro wedi i Johnny ddeall oblygiadau yr hyn mae Eirian wedi'i ddatgelu, a phen llanw ei ddicter yw ymrafael â Robat, gan biso ar ei ben, mewn ymdrech i ddychwelyd dŵr Tryweryn. Wedi i Johnny rannu'r newyddion wrth Robat am ei wir dad, mae'n amlwg bod Robat yn ffoi i Lerpwl, a datgelir yn yr olygfa nesaf ei fod wedi cael ei daro gan gar yno, ac wedi marw.
Chwilio am rywun i'w feio am farwolaeth ei mab, mae Eirwen, gan fethu deall beth oedd bwriad Robat drwy ddychwelyd i Lerpwl. Mae Eirwen a Johnny yn gorfod ail-ymweld â'r ddinas, ar gyfer y cwest i farwolaeth eu mab. Mae'r ddau yn ymweld â sawl atyniad yn y ddinas, a gadewir dyfodol eu perthynas yn benagored. Mae Adrian yn datgelu bod hi a'i brawd, Robat, wedi cael rhyw. Gorffennir y ddrama gydag angladd Robat, lle datgelir bod yr arch yn wag. Geiriau Robat wrth Beti George yw'r rhai olaf, sy'n ceisio egluro pam y bu iddo gamu yn fwriadol o flaen y car, a diweddu ei fywyd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd y ddrama tra roedd Ian Rowlands yn Arweinydd Artistig ar Gwmni Theatr Gwynedd ar gychwyn y 2000au. Yn Rhaglen wreiddiol y cynhyrchiad, oedd hefyd yn cynnwys y sgript, noda Rowlands: "Pan ymgymrais â'r swydd yn Theatr Gwynedd, roeddwn yn benderfynol o greu theatr o berthnasedd i'w chynulleidfa. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, [1998-2022] ers i mi weithio yn y fro, rwyf wedi fy nhristhau gan deneuo'r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae'n ymddangos i mi ei bod bellach yn cael ei erydu ar ras wyllt. Mae hefyd yn ymddangos i mi fod lleihad yn y Gymraeg yn digwydd law yn llaw gyda chynnydd mewn prisiau tai yng Nghaernarfon. Mae'r cysylltiad rhwng y ddau ffactor hyn wedi ei hen brofi."[1]
"Ni allwn gladdu'n pennau yn yr hen lechu, mae'n rhaid i ni fod yn hyderus yn ein Cymreictod a mynnu parch. Yn yr un modd, mae'n rhaid i'r mewnfudwyr barchu y diwylliant maent yn ymgartrefu ynddi. I sefyll ysgwydd wrth ysgwydd mas o barch nid mas o elyniaeth mae'r dyfodol. [1]
Comisiynwyd Aled Jones Williams i gyfansoddi'r drama yn 2001, "...oedd i hybu trafodaeth rhwng y ddwy garfan iethyddol. Dyna paham i mi benderfynnu Ilwyfannu Ta-Ra Teresa yn ddwy-ieithog," eglura Rowlands, "...nid er mwyn cyfaddawdu'r Gymraeg ond er mwyn ei chyfoethogi a chynnig profiad theatrig i'r gymuned gyfan", ychwanegodd.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Johnny Heneghan - Sais o Lerpwl
- Adrian Heneghan
- Eirwen Williams
- Robat Hefin - Ymgyrchydd Iaith
- Llais Beti George - ei hun
- Llais dyn
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn Nhachwedd 2002. Cyfarwyddwr : Ian Rowlands; cynllunydd : Rhiannon Matthews; Sain : Sion Havard Gregory; Goleuo : Tony Bailey Hughes; Rheolwr y Cynhyrchiad : Dylan Rowlands; cast:
- Johnny Heneghan - Michael Atkinson
- Adrian Heneghan - Elin Wmffras
- Eirwen Williams - Rhian Cadwaladr
- Robat Hefin - Owen Arwyn.
- Llais Beti George - ei hun
- Llais dyn - Aled Jones Williams
Ail-lwyfannwyd y cynhyrchiad gan Llwyfan Gogledd Cymru yn 2003.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Darllen pellach
[golygu | golygu cod]Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015