T. F. O'Rahilly

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
T. F. O'Rahilly
Ganwyd 11 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Lios Tuathail Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata (71 oed)
Dulyn Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth ieithydd Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Thomas Francis O'Rahilly neu Tomás Proinsias Ó Rathaile (11 Tachwedd 188316 Tachwedd 1953), yn ysgrifennu fel T. F. O'Rahilly.

Ganed ef yn Listowel, Swydd Kerry. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, a bu'n Athro Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1919 hyd 1929, yna'n Athro Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Corc o 1929 hyd 1935 a Choleg Prifysgol Dulyn o 1935 hyd 1941, cyn dod yn gyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies o 1942 hyd 1947.

Mae O'Rahilly yn fwyaf adnabyddus am ei syniadau ynghylch hen hanes Iwerddon. Cyhoeddodd Early Irish history and mythology yn 1946, gan gynnig y syniad o bedair symudiad o fewnfudwyr Celtaidd i Iwerddon. Y cyntaf o'r rhain oedd y Cruithne neu Priteni (c. 700 – 500 CC), oedd yn siarad iaith Frythonig.

Roedd ei chwaer, Cecile O'Rahilly, hefyd yn ysgolhaig Celtaidd.