Tŷ Opera Bae Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Tŷ Opera Bae Caerdydd
Mathadeilad anorffenedig, tŷ opera Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.465°N 3.1635°W Edit this on Wikidata
Map

Cynllun arfaethedig oedd Tŷ Opera Bae Caerdydd i adeiladu cartref i Opera Cenedlaethol Cymru fel rhan o ailddatblygiad Bae Caerdydd yn y 1990au.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Tŷ Opera Bae Caerdydd gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, ac agorwyd cystadleuaeth ryngwladol ym 1993 i ddylunio'r adeilad, dan reolaeth Comisiwn y Mileniwm oedd yn gyfrifol am ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau i ddathlu'r flwyddyn 2000. Roedd 269 o geisiadau i gyd, ac ymhlith y cystadleuwyr oedd Norman Foster, Rafael Moneo, Itsuko Hasegawa, a Manfredi Nicoletti. Enillodd Zaha Hadid ym Medi 1994 gyda'i dyluniad o adeilad modernaidd, a wneir o wydr yn bennaf.[1]

Cafodd ei glodfori gan benseiri, ond ei feirniadu gan nifer o wleidyddion a chyfryngau lleol, gan gynnwys nifer o aelodau'r Gorfforaeth Datblygu a'r Western Mail, a phapurau Llundeinig megis The Sun. Yn ôl pleidlais ffôn ar HTV, roedd 88.5% o wylwyr yn erbyn dyluniad Hadid.[2] Meddai rhai bod opera yn ddiddordeb "elitaidd", ac yn annheilwng felly o dderbyn nawdd y Loteri.[3] Roedd y llywodraeth leol yn anfodlon i gefnogi dyluniad Hadid, a chafodd ei wrthod gan Gomisiwn y Mileniwm yn Rhagfyr 1995. Penderfynwyd i ail-agor y gystadleuaeth, ar gyfer canolfan y celfyddydau. Enillodd dyluniad Percy Thomas, a chodwyd Canolfan Mileniwm Cymru ar y safle.

Blynyddoedd wedi'r ffrae, dywedodd Hadid ei bod yn meddwl bod y gwrthwynebiad i'w dyluniad o bosib o ganlyniad i hiliaeth a rhywiaeth yn ei herbyn. Cafodd ei dyluniad ei ail-ddefnyddio ar gyfer Tŷ Opera Guangzhou.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Cardiff Bay Opera House", Zaha Hadid Architects. Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.
  2. (Saesneg) Jonathan Glancey, "A monumental spot of local trouble", The Independent (14 Ionawr 1995). Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.
  3. (Saesneg) Kam Patel, "No curtain to raise", Times Higher Education (26 Ebrill 1997). Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.
  4. (Saesneg) Paul Rowland, "Award-winning businesswoman Zaha Hadid hits out at 'prejudice' over doomed Cardiff Bay Opera House project", WalesOnline (23 Ebrill 2013). Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]