Tŷ Dol (drama)
| Enghraifft o: | gwaith dramatig |
|---|---|
| Awdur | Henrik Ibsen |
| Cyhoeddwr | Gyldendal |
| Gwlad | Norwy |
| Iaith | Norwyeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 4 Rhagfyr 1879 |
| Dechrau/Sefydlu | 1879 |
| Cymeriadau | Nora Helmer, Torvald Helmer, Doctor Rank, Mrs. Linde, Krogstad, Anne-Marie, Helene - the maid, A Porter, The Helmer's three little children |
| Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Norwy |
| Lleoliad y perff. 1af | Royal Danish Theatre |
| Dyddiad y perff. 1af | 21 Rhagfyr 1879 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/013zp |
Drama tair act gan y dramodydd Norwyaidd Henrik Ibsen yw Tŷ Dol neu Tŷ Doliau (Daneg a Bokmål: Et dukkehjem ; Saesneg: A Doll's House). Llwyfannwyd hi am y tro cyntaf yn Theatr Frenhinol Denmarc yn Copenhagen, ar 21 Rhagfyr 1879, ar ôl ei chyhoeddi yn gynharach y mis hwnnw. Mae'r ddrama wedi'i lleoli mewn tref yn Norwy tua 1879. Tŷ Dol a ddewisiodd Ifor Williams fel teitl, pan gyfieithiodd y ddrama i'r Gymraeg ym 1926 a Siôn Eirian yn 2003.

Mae'r ddrama'n ymwneud â thynged menyw briod yn Norwy, tynged oedd yn gaeth mewn byd wedi'i ddominyddu gan ddynion ar y pryd, ac yn brin o gyfleoedd rhesymol i ferched gael hawliau.

Cymeriadau
[golygu | golygu cod]
- Nora Helmer
- Gwraig Torvald; mae hi'n fam i dri o blant. Mae hi'n byw yn ôl y ddelfryd o wraig briod yn y 19eg ganrif, ac yn teimlo wedi'i mygu yn ei phriodas.
- Torvald Helmer
- Gŵr Nora; rheolwr banc a gafodd ddyrchafiad diweddar. Mae'n honni ei fod mewn cariad â'i wraig.
- Dr. Rank / Peter Rank
- Ffrind i'r teulu. Mae'n wael iawn. Mae'r ddeialog yn awgrymu bod ei salwch yn deillio o glefyd rhywiol a gafodd ei dad.
- Kristine Linde
- Hen ffrind ysgol Nora, sy'n weddw, ac yn chwilio am waith. Yn y gorffennol, roedd hi mewn perthynas â Krogstad.
- Nils Krogstad
- Gweithiwr ym manc Torvald. Mae'n dad sengl sy'n cael ei wthio i anobaith. Cawn ein harwain i gredu ei fod yn ddihiryn, ond mae digwyddiadau'n datgelu ei fod yn gariad coll i Kristine ers amser maith.
- Y Plant
- Tri phlentyn Nora a Torvald: Ivar, Bobby, ac Emmy.
- Anne Marie
- Nani i blant Helmer, a chyn-nani i'w mam Nora. Dywed ei bod hi wedi rhoi ei merch ei hun i "ddieithriaid" pan ddaeth hi'n nani a'r unig fam yr oedd Nora yn ei hadnabod. [3]
- Helene
- Morwyn yr Helmeriaid.
- Y Porter
- Yn dosbarthu coeden Nadolig i aelwyd y teulu, ar ddechrau'r ddrama.
Crynodeb
[golygu | golygu cod]
Act Un
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama'n agor tua cyfnod y Nadolig wrth i Nora Helmer ddychwelyd i'w chartref gyda llawer o becynnau ac anrhegion. Mae gŵr Nora, Torvald, yn gweithio’n ei stydi, ac yn ei cheryddu'n chwareus am wario cymaint o arian. Mae'n ei phryfocio am Nadolig y llynedd, a’r modd y bu hi am wythnosau yn gwneud anrhegion ac addurniadau â llaw oherwydd bod arian yn brin. Eleni, wedi dyrchafiad ei gŵr yn banc, mae Nora'n teimlo y gallant wario mwy nag arfer.
Mae'r forwyn yn cyhoeddi cyrhaeddiad Mrs. Kristine Linde, hen ffrind i Nora, sydd wedi dod i chwilio am waith; a Dr. Rank, ffrind agos i'r teulu. Mae Kristine wedi cael blynyddoedd anodd, ers i'w gŵr farw gan ei gadael heb arian na phlant. Dywed Nora nad yw pethau wedi bod yn hawdd iddyn nhw chwaith: aeth Torvald yn sâl, a bu'n rhaid iddynt deithio i'r Eidal er mwyn iddo wella. Mae Nora'n addo siarad â Torvald am ddod o hyd i swydd iddi. Mae Kristine yn gwatwar bod Nora fel plentyn, ond nid yw Nora’n hapus gyda'r sylw. Eglura bod hi wedi cael arian gan "ryw edmygydd" er mwyn gwireddu'r daith i'r Eidal i wella iechyd Torvald. Ond wrth Torvald, dywedodd mai gan ei thad y cafodd yr arian. Mewn gwirionedd, mae hi wedi'i fenthyca'n anghyfreithlon heb yn wybod iddo (roedd menywod wedi'u gwahardd rhag cynnal gweithgareddau ariannol fel llofnodi sieciau heb gymeradwyaeth dyn). Ers hynny, mae hi wedi bod yn gweithio'n gyfrinachol ac yn cynilo i dalu'r benthyciad.
Mae Krogstad, gwas ym manc Torvald, yn cyrraedd ac yn mynd i'r stydi at y dynion. Mae Nora'n amlwg yn anesmwyth o'i weld. Mae Dr. Rank yn gadael y stydi, gan awgrymu bod Krogstad yn dioddef o "glefyd moesol".
Ar ôl y cyfarfod â Krogstad, mae Torvald yn ymuno â'r merched. Mae Nora'n gofyn iddo a all roi swydd i Kristine yn y banc. Dywed Torvald bod hon yn foment ffodus, gan bod swydd newydd posib, newydd ei ganfod. Mae Torvald, Kristine, a Dr. Rank yn ymadael. Mae'r nani yn dychwelyd gyda'r plant, ac mae Nora'n chwarae â nhw. Dychwela Krogstad ac yn synnu Nora, gan ddweud wrthi fod Torvald yn bwriadu ei ddiswyddo ac mae'n gofyn iddi ymyrryd er mwyn iddo gadw ei swydd. Mae hi'n gwrthod, ac mae Krogstad yn ceisio ei llwgr wobrwyo am y benthyciad a gymerodd ar gyfer y daith i'r Eidal; mae'n gwybod ei bod wedi cael y benthyciad hwn trwy ffugio llofnod ei thad ar ôl ei farwolaeth. Pan ddychwel Torvald, mae Nora’n ceisio ei argyhoeddi i beidio â diswyddo Krogstad. Mae Torvald yn gwrthod gwrando, gan egluro bod Krogstad yn gelwyddog ac yn rhagrithiwr a'i fod, flynyddoedd ynghynt, wedi cyflawni trosedd: fe ffugiodd lofnodion pobl eraill. Mae Torvald yn teimlo'n sâl yn gorfforol ym mhresenoldeb dyn sy'n "gwenwyno ei blant ei hun â chelwyddau ffug".

Act Dau
[golygu | golygu cod]Cyrhaedda Kristine i helpu Nora i atgyweirio ffrog ar gyfer digwyddiad y mae hi a Torvald yn bwriadu mynychu drannoeth. Mae Torvald yn dychwelyd o'r banc, ac mae Nora'n erfyn arno i adfer swydd Krogstad, gan honni ei bod hi’n poeni y bydd Krogstad yn cyhoeddi erthyglau enllibus am Torvald ac yn difetha ei yrfa. Mae Torvald yn diystyru ei hofnau gan egluro, er bod Krogstad yn weithiwr da, rhaid ei ddiswyddo oherwydd ei ymddygiad â Torvald o flaen staff eraill y banc.
Cyrhaedda Dr. Rank, ac mae Nora'n gofyn am ffafr ganddo. Datgela Rank ei fod wedi cyrraedd cyfnod terfynol ei glefyd a'i fod wedi bod mewn cariad â hi'n gyfrinachol er peth amser. Mae Nora'n ceisio anwybyddu ei salwch, ac yn ei gysuro'n drwsgwl drwy ddatgan ei bod hi'n ei garu yntau fel ffrind annwyl hefyd.
Mae Krogstad yn dychwelyd eto, tra bod Nora yn perswadio Dr. Rank i fynd i'r stydi at Torvald, fel na fydd yn gweld Krogstad. Pan wyneba Krogstad Nora, mae'n datgan nad yw'n poeni bellach am weddill benthyciad Nora, ond yn hytrach, bydd yn cadw'r bond cysylltiedig i lwgwrwobrwyo Torvald, er mwyn dal ei swydd a derbyn dyrchafiad. Mae Nora'n ei ddarbwyllo ei bod hi wedi ceisio'i gorau i berswadio ei gŵr, ond mae'n gwrthod newid ei feddwl. Mae Krogstad yn datgan ei fod wedi ysgrifennu llythyr yn manylu ei throsedd (ffugio llofnod ei thad ar y bond) a'i roi ym mlwch post Torvald, sydd wedi'i gloi.
Mae Nora'n ymddired yn Kristine am ei sefyllfa anodd, ac yn rhoi cerdyn cyfeiriad Krogstad iddi, gan ofyn iddi geisio ei berswadio i ildio.
Cyrhaedda Torvald, er mwyn casglu ei bost, ond mae Nora'n tynnu ei sylw trwy erfyn arno i'w helpu gyda'r ddawns y mae hi wedi bod yn ei hymarfer ar gyfer y parti. Mae hi'n dawnsio mor wael ac yn ymddwyn mor blentynnaidd fel bod Torvald yn cytuno i dreulio'r noson gyfan yn ei hyfforddi. Pan fydd pawb wedi ymadael am ginio, mae Nora'n ystyried rhoi diwedd ar ei bywyd.
Act Tri
[golygu | golygu cod]Cyfaddefa Kristine wrth Krogstad mai er mwyn cynnal ei mam sâl a'i theulu, y priododd ei gŵr, a'i bod wedi dychwelyd i gynnig ei chariad iddo eto. Mae'n credu na fyddai wedi wynebu'r holl ddinistr, petai hi wedi aros gydag ef. Mae Krogstad yn newid ei feddwl ynglŷn â’r llythyr, ac yn penderfynu ei geisio yn ôl. Fodd bynnag, mae Kristine yn penderfynu y dylai Torvald wybod y gwir er mwyn ei briodas ef a Nora.
Ar ôl i Torvald a Nora ddychwelyd o'r parti, mae Rank yn eu dilyn. Maen nhw'n sgwrsio am ychydig, gyda Dr. Rank yn cyfleu'n anuniongyrchol wrth Nora mai ei ffarwel olaf yw hwn, gan ei fod ei farwolaeth yn agosáu. Mae Dr. Rank yn gadael, ac mae Torvald yn casglu ei lythyrau. Wrth iddo eu darllen, mae Nora'n paratoi i ddianc am byth, ond mae Torvald yn ei dychryn â llythyr Krogstad. Yn gandryll, mae'n datgan ei bod hi bellach yng ngrym Krogstad yn llwyr; rhaid iddi ildio i ofynion Krogstad a chadw'n dawel am y cyfan. Mae'n ceryddu Nora, gan ei galw'n fenyw anonest ac anfoesol ac nad yw hi’n addas i fagu eu plant. Rhybudda’i mai uniad gweledol yn unig fydd eu priodas, o hyn allan.
Daw morwyn â llythyr gan Krogstad i Nora, ac mae Torvald yn mynnu ei ddarllen. Mae'n llawenhau fod Krogstad wedi ildio'r bond peryglys, a bod yntau bellach wedi'i achub. Mae'n llosgi'r bond yn y tân, yn ogystal â'i lythyr at ei wraig. Mae'n ymddiheuro wrth ei wraig, gan ddweud ei fod wedi maddau iddi. Ond mae Nora'n sylweddoli nad yw ei gŵr yr un mor barchus ag a feddylia hi, a'i fod yn caru ei hun yn fwy na'r wraig.
Eglura Torvald, pan fydd dyn wedi maddau i'w wraig, ei fod yn ei charu hi'n fwy, gan fod y weithred yn ei hatgoffa bod hi'n gwbl ddibynnol arno, fel plentyn.
Mae Nora'n dadlenu wrth Torvald ei bod hi'n ymadael, dan fynegi ei theimlad o frad a dadrithiad. Mae'n datgan na fu iddo ei charu erioed, ac mai dieithriaid ydyn nhw bellach. Mae hi wedi'i bradychu gan ei ymateb i'r sgandal sy'n ymwneud â Krogstad, ac mae hi'n datgan bod yn rhaid iddi ddianc er mwyn dod i ddeall ei hun. Teimlai ei bod wedi'i thrin fel dol gydol ei hoes, gan ei thad a wedyn gan Torvald. Er iddo fynnu ei bod hi'n cyflawni ei dyletswydd fel gwraig a mam, mae Nora'n rhoi gwybod iddo bod ganddi ddyletswyddau iddi'i hun sydd yr un mor bwysig, ac na all hi fod yn fam neu'n wraig dda heb ddysgu bod yn fwy na thegan.
Gadawa Nora ei hallweddi a'i modrwy briodas ar y bwrdd, ac mae Torvald yn dechrau crio, wedi'i ddrysu gan yr hyn sydd wedi digwydd. Clywir sŵn y drws islaw yn cau.
Diweddglo amgen
[golygu | golygu cod]Teimlai asiant Almaenig Ibsen na fyddai'r diweddglo gwreiddiol yn cael ei dderbyn mewn theatrau yn Yr Almaen. Ac na fyddai cyfreithiau hawlfraint cyfredol yn caniatau ei chyhoeddi fel ag yr oedd hi chwaith. Felly, er mwyn iddi gael ei hystyried yn dderbyniol, ac atal y cyfieithydd rhag newid ei waith, gorfodwyd Ibsen i ysgrifennu diweddglo amgen ar gyfer y première Almaenig. Yn y diweddglo hwn, mae Nora'n cael ei harwain at ei phlant ar ôl dadlau â Torvald. Wrth eu gweld, mae hi'n cwympo, ac wrth i'r llen ddod i lawr, awgrymir ei bod hi'n aros. Yn ddiweddarach, galwodd Ibsen y diweddglo yn "warth barbaraidd".[4] Mae bron pob cynhyrchiad heddiw yn defnyddio'r diweddglo gwreiddiol, fel y mae bron pob fersiwn ffilm o'r ddrama.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd Tŷ Dol yn seiliedig ar fywyd Laura Kieler (enw morwynol Laura Smith Petersen), ffrind da i Ibsen. Digwyddodd llawer o'r hyn a ddigwyddodd rhwng Nora a Torvald i Laura a'i gŵr, Victor.
Er gwaetha'r ffaith bod Ibsen wedi gwadu mai cyfansoddi drama ffeministaidd oedd ei fwriad, bu helynt mawr ar y pryd, [5] a achoswyd "storm o ddadlau dicterus" a aeth tu hwnt i'r theatr i fyd papurau newydd a'r gymdeithas. [6]
Dechreuodd Ibsen feddwl am y ddrama tua mis Mai 1878, er na ddechreuodd ei drafft cyntaf tan flwyddyn yn ddiweddarach.
Anfonodd Ibsen gopi o'r ddrama orffenedig at ei gyhoeddwr ar 15 Medi 1879. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn Copenhagen ar 4 Rhagfyr 1879, a werthodd allan o fewn mis; dilynodd ail argraffiad o 3,000 copi ar 4 Ionawr 1880, a chyhoeddwyd trydydd argraffiad o 2,500 ar 8 Mawrth.
Dadleua sawl acadmenydd fod sŵn y drws yn cau ar ddiwedd y ddrama hon "wedi'i chlywed drwy Ewrop" ar y pryd. Rhoddwyd yr hyder i ferched gael mwy o ryddid oddi fewn i'r cartref, yn ei sgil. [7]
Yn 2001, cofrestrodd UNESCO lawysgrifau llofnodedig Ibsen o Tŷ Dol ar Gofrestr Cof y Byd, i gydnabod eu gwerth hanesyddol. [8]
Tŷ Doliau yw'r cyfieithiad a ddefnyddir mwyaf aml er bod rhai ysgolheigion yn defnyddio Tŷ Dol. Dywed John Simon mai Tŷ Doliau yw "y term Prydeinig am yr hyn y mae [Americanwyr] yn ei alw'n 'dŷ doliau' . Dywed Egil Törnqvist am y teitl amgen: "Yn hytrach na bod yn well na'r fersiwn draddodiadol, mae'n swnio'n fwy idiomatig i Americanwyr." [9]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cafodd Tŷ Dol ei pherfformiad cyntaf ar y 21 Rhagfyr 1879 yn Theatr Frenhinol Denmarc yn Copenhagen, gyda Betty Hennings fel Nora, Emil Poulsen fel Torvald, a Peter Jerndorff fel Dr. Rank. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y perfformiadau yma. Agorodd cynhyrchiad arall yn Theatr Frenhinol Dramatig yn Stockholm, ar 8 Ionawr 1880, tra bod cynyrchiadau yn Christiania (gyda Johanne Juell fel Nora ac Arnoldus Reimers fel Torvald) a Bergen wedi hynny yn fuan wedyn.
Yn yr Almaen, gwrthododd yr actores Hedwig Raabe berfformio'r ddrama fel y'i hysgrifennwyd, gan ddatgan, " Ni fyddwn i byth yn gadael fy mhlant!"
Ym Mhrydain Fawr, yr unig ffordd y caniatawyd i'r ddrama gael ei pherfformio yn Llundain oedd mewn addasiad gan Henry Arthur Jones a Henry Herman o'r enw Breaking a Butterfly. Llwyfannwyd yr addasiad hwn yn Theatr y Dywysoges ar 3 Mawrth 1884. Gan ysgrifennu ym 1896 yn ei lyfr The Foundations of a National Drama, dywed Jones: "Rhoddwyd cyfieithiad bras o'r fersiwn Almaeneg o A Doll's House yn fy nwylo, a dywedwyd wrthyf, pe bai modd ei throi'n ddrama gydymdeimladol, y byddai agoriad parod yn cael ei ganfod iddi ar lwyfannau Llundain. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am Ibsen, ond roeddwn i'n gwybod llawer am Robertson a HJ Byron. O'r amgylchiadau hyn y daeth yr addasiad o'r enw Breaking a Butterfly ."
Cymru
[golygu | golygu cod]1920au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd cyfieithiad Ifor Williams gan Chwaraedy'r Sir, Bangor ym mis Mawrth 1926.[10]
- Nora - Elsie Evans
- Torvald - W. E. Thomas
- Dr Rank - T. Rowland Hughes
- "Mrs Linden" - Haulwen Roberts
- Krogstad - Huw Roberts
- Anna, y forwyn - Dilys Watkin Williams
- Elen, y forwyn - Gwen Jones Williams
- Porter - Esmor Owen
- Plant - Betty McCarter, Hazel Rowlands a Dennis Williams.
1950au
[golygu | golygu cod]
Bu i Chwarewyr Garthewin lwyfannu'r ddrama mewn gŵyl ddrama yn Theatr Garthewin ym 1950. Cyfarwyddwr: Morris Jones; cast:
- Nora - Nora Jones
- Torvald -
- Dr Rank -
- "Mrs Linden" -
- Krogstad -
- Anna, y forwyn -
1970au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1975. Cast:
- Nora - Sharon Morgan
- Torvald - Frank Lincoln
- Dr Rank - Grey Evans
- "Mrs Linden" - Iris Jones
- Krogstad - Dyfan Roberts
- Anna, y forwyn - Nesta Harris
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]Radio
[golygu | golygu cod]Dyfyniadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 https://ibsenstage.hf.uio.no/pages/event/75660. IbsenStage. retrieved: 31 Hydref 2024.
- ↑ https://www.unesco.org/en/memory-world/henrik-ibsen-dolls-house.
- ↑ Byatt, A. S. (1 Mai 2009). "Blaming Nora". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 30 Mai 2017.
- ↑ "The alternative ending of A Doll's House". National Library of Norway. 30 Mai 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2018. Cyrchwyd 30 Mai 2017.
- ↑ Krutch, Joseph Wood (1953). "Modernism" in Modern Drama: A Definition and an Estimate (yn Saesneg). Ithaca: Cornell University Press. t. 9. OCLC 176284.
- ↑ Ibsen, Henrik (1998). Four Major Plays. Introduction by James Walter McFarlane. Oxford University Press. ISBN 0192833871. OCLC 39674082.
- ↑ Moore, John (2019-09-16). "'A Doll's House': The door slam heard 'round the world still reverberates - Denver Center for the Performing Arts" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-20.
- ↑ "Henrik Ibsen: A Doll's House". UNESCO. Cyrchwyd 30 Mai 2017.
- ↑ Törnqvist, Egil (1995). Ibsen: A Doll's House. Capilano University Press. t. 54. ISBN 9780521478663. OCLC 635006762.
- ↑ Williams, Ifor (1926). Tŷ Dol. Evan Thomas, Bangor.
Ffynonellau cyffredinol a dyfynnwyd
[golygu | golygu cod]- Brockett, Oscra G; Hildy, Franklin J (2002). History of the theatre. Boston: Allyn & Bacon. ISBN 9780205410507. OCLC 228061773.
- Dukore, Bernard F., ed. 1974. Dramatic Theory and Criticism: Greeks to Grotowski. Florence, KY: Heinle & Heinle. ISBN 978-0-03-091152-1ISBN 978-0-03-091152-1.
- Innes, Christopher (2000). A sourcebook of naturalist theatre (yn Saesneg). London: Routledge. ISBN 0415152291. OCLC 896687433.
- Meyer, Michael (1974). Ibsen: a biography. Penguin. ISBN 9780140217728. OCLC 223316018.
- Moi, Toril (2006). Henrik Ibsen and the Birth of Modernism: Art, Theater, Philosophy (yn Saesneg). Oxford: Oxford University Press. ISBN 0199295875.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Ibsen, Henrick (cyfieithiad McLeish). Tŷ Doliau, Nick Hern Books, Llundain, 1994
- Merriam, Efa. Ar ôl i Nora gau'r drws: O Dŷ Doliau i Fywydau Doliau Papur? Mae Merriam yn edrych ar "Chwyldro'r Menywod" yn America . World Publishing Company, Cleveland, 1964.
- Unwin, Stephen. Tŷ Doliau Ibsen (Canllaw Astudio Tudalen i Lwyfan) . Nick Hern Books, Llundain, 1997
- William L. Urban. "Parallels in A Dols House " . Festschrift er Anrhydedd i Charles Speel . Golygwyd gan Thomas J. Sienkewicz a James E. Betts. Coleg Monmouth, Monmouth, Illinois, 1997.