Tŷ Aviz
Gwedd
| Enghraifft o: | teyrnach |
|---|---|
| Daeth i ben | 1580 |
| Rhan o | House of Burgundy - Portugal |
| Rhagflaenwyd gan | House of Burgundy - Portugal |
| Olynwyd gan | Philippine Dynasty |
| Yn cynnwys | Llinach Braganza |
| Sylfaenydd | João I, brenin Portiwgal |
| Rhiant sefydliad | House of Burgundy - Portugal |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Portiwgal |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02ynx9 |
Brenhinlin frenhinol a reolai Portiwgal o 1385 hyd 1580 oedd Tŷ Aviz (Portiwgaleg: Casa de Avis). Ffynnai yn ystod y Dadeni Portiwgalaidd a chyfnod y darganfyddiadau, pan ehangodd Portiwgal ei phŵer yn fyd-eang.[1] Roedd yn ganlyniad i'r argyfwng yn dilyn marwolaeth Ferdinand I, brenin Portiwgal, ym 1383.[2]
Sefydlwyd Tŷ Aviz gan João I, Uwchfeistr Urdd Aviz, a esgynnodd i'r orsedd ar ôl y rhyngdeyrnasiad o 1383–1385. Y llinach hwn a reolai'r wlad tan 1580 pan fu argyfwng olyniaeth ar ôl i'r brenin Henrique farw heb blant, a hawliwyd yr orsedd gan Felipe II, brenin Sbaen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A. R. Disney, A History of Portugal and the Portuguese Empire, cyf. 1 (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2009)
- ↑ Christopher Allmand; Rosamond McKitterick (18 Mehefin 1998). The New Cambridge Medieval History: cyf 7, C.1415-c.1500 (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 629. ISBN 978-0-521-38296-0. Cyrchwyd 24 Mehefin 2013.