Neidio i'r cynnwys

Tŵr Cam Pisa

Oddi ar Wicipedia
Tŵr Gogwyddol Pisa
Mathtŵr eglwys, tŵr goleddfol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPisa, tŵr, tŵr goleddfol Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1373 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1173 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEglwys Gadeiriol Pisa Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd500  Edit this on Wikidata
Uwch y môr210 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.72301°N 10.396624°E Edit this on Wikidata
Cod post56100 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Romanésg Edit this on Wikidata
PerchnogaethOpera della Primaziale Pisana Edit this on Wikidata
Statws treftadaethased diwylliannol yr Eidal, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddmarmor, carreg Edit this on Wikidata
EsgobaethRoman Catholic Archdiocese of Pisa Edit this on Wikidata

Clochdy eglwys gadeiriol Pisa yw Tŵr Cam Pisa neu Tŵr Gogwyddol Pisa[1] (Eidaleg: torre pendente di Pisa[2]). Mae'n adnabyddus am bwyso tua 4 gradd allan o'i blwm, o ganlyniad i sylfaen ansefydlog sydd wedi peri iddo wyro fwyfwy dros amser. Mae'r tŵr yn un o dri strwythur yn Sgwâr Eglwys Gadeiriol Pisa (Piazza del Miracoli, neu Piazza del Duomo gynt), sydd hefyd yn cynnwys yr eglwys gadeiriol a Bedyddfa Pisa. Mae'r tŵr wedi dod yn un o'r atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yn y byd yn ogystal ag eicon pensaernïol yr Eidal, gan dderbyn dros 5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.[3] Mae'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1987.[4]

Bu gwaith mawr i sythu'r tŵr rywfaint yn yr 20fed ganrif – cyn y gwaith roedd yn gwyro gymaint â 5.5 gradd.[5]

Golygfa panoramig (o'r chwith i'r dde) o'r Campanile (Tŵr Gogwyddol Pisa), Eglwys Gadeiriol Pisa, a Bedyddfa Pisa yn y Piazza dei Miracoli

Adeiladu'r tŵr

[golygu | golygu cod]

Erbyn y 1110au roedd Pisa yn dref annibynol a chyfoethog, diolch i'w lleoliad perffaith ar arfordir Twscani. Fel oedd yn gyffredin yn yr Eidal bryd hynny, roedd pendefigion y dref am ddangos pŵer a chyfoeth Pisa drwy gomisiynu clochdy mawreddog (campanile yn Eidaleg). Nid ydym yn gwbl siŵr pwy oedd y pensaer, ond mae'n debyg taw Bonanno Pisano ydoedd. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1173.[6]

Marmor yw prif ddeunudd y tŵr. Gosodwyd ei sylfaen ddeg troedfedd islaw lefel y ddaear; dylai wedi bod llawer dyfnach i gynnal pwysau'r tŵr, ond roedd y pridd yn rhy wlyb a chorsiog i gladdu ymhellach. Defnyddiwyd clai i geisio atgyfnerthu'r seiliau, ond roedd hyn yn ddewis trychinebus: wrth i bwysau'r tŵr gynyddu, roedd yn gwasgu'r clai. Gallai'r gweithwyr weld y broblem erbyn cyrraedd y trydydd llawr ym 1178, a gwnaed ymgais i gywiro ymddangosiad y tŵr drwy adeiladu'r colofnau a'r ffenestri yn gwyro i'r ffordd arall. Wedi i'r adeiladu gyrraedd y pedwerydd llawr ym 1185, daeth yn amlwg fod y tŵr yn gwyro'n sylweddol ac fe ataliwyd y gwaith am bron i ganrif.[6][5]

Ail-ddechreuwyd ar y gwaith ym 1284 wedi cyfnod o ryfel, ond digwyddodd yr un peth eto – suddo pellach, ceisio creu twyll gweledol drwy roi colofnau byrrach ar un ochr, yna gwyro pellach a rhoi stop ar y gwaith am ddegawdau. Gorffenwyd y seithfed llawr ym 1319. Ym 1372, cwblhawyd y siambr glychau ar ben y tŵr.[6]

Cynnal a chadw

[golygu | golygu cod]

Roedd Pisa a'r tŵr yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid ar y "Grand Tour" erbyn y 19eg ganrif. Ym 1902 cwympodd clochdy hynafol San Marco yn Fenis. Arewiniodd hyn at bryderon am ddyfodol Tŵr Cam Pisa, a llu o gynlluniau ac ymgeision i'w atal rhag gwyro ymhellach.[7]

Ym 1934 ceisiodd llywodraeth Benito Mussolini sythu'r tŵr trwy chwistrellu 200 tunnell o goncrit dan y sylfaen, ond achosodd hyn i'r tŵr wyro hyd yn oed mwy. O'r diwedd, cafodd y tŵr ei gau ym 1990 ar gyfer gwaith cynnal a chadw sylweddol. Erbyn 2001 roedd y tŵr wedi ei sythu rywfaint (at 4 gradd) a'i sefydlogi.[6][7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Geiriadur yr Academi | The Welsh Academy English-Welsh Dictionary". Cyrchwyd 2026-07-25.
  2. "DiPI Online". Dizionario di Pronuncia Italiana (yn Eidaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Hydref 2020. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2020.
  3. Bronzini, Andrea. "Tower Facts". Leaning Tower Pisa (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Ionawr 2025.[dolen farw]
  4. Centre, UNESCO World Heritage. "Piazza del Duomo, Pisa". UNESCO World Heritage Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-25.
  5. 1 2 "Leaning Tower of Pisa | History, Architecture, Foundation & Lean | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). 2026-06-15. Cyrchwyd 2026-07-25.
  6. 1 2 3 4 "Leaning Tower of Pisa | History | Research Starters | EBSCO Research". EBSCO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-25.
  7. 1 2 "Why Not Let the Leaning Tower of Pisa Collapse? | Institute of Historical Research". www.history.ac.uk (yn Saesneg). 2022-05-12. Cyrchwyd 2026-07-25.