Neidio i'r cynnwys

Tô Lâm

Oddi ar Wicipedia
Tô Lâm
Tô Lâm yn Hydref 2025.
Ganwyd10 Gorffennaf 1957, 19 Gorffennaf 1957 Edit this on Wikidata
Nghĩa Trụ Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Public Security Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Fietnam Edit this on Wikidata
Gwobr/auQ10769828, For National Security Medal, Glorious Fighter Medal, Urdd José Martí, Order of the Friendship of Peoples, Military Exploit Order, Feat Order, Royal Order of Sahametrei, Order of Friendship Edit this on Wikidata

Gwleidydd a chyn-heddwas o Fietnam yw Tô Lâm (ganed 10 Gorffennaf 1956) a wasanaetha'n ysgrifennydd cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Fietnam ers Awst 2024. Gwasanaethodd hefyd yn Arlywydd Fietnam o Fai i Hydref 2024.

Ganed ef yng nghymuned Nghĩa Trụ, dosbarth Văn Giang, talaith Hưng Yên, a oedd ar y pryd yn rhan o Ogledd Fietnam (Gweriniaeth Ddemocrataidd Fietnam). Cyn-gyrnol ym Myddin y Bobl ac heddwas oedd ei dad, Tô Quyền, a fyddai'n esgyn i swydd pennaeth taleithiol Adran Heddlu Hải Hưng. Dilynodd Tô Lâm gamre ei dad, gan astudio gwyddor amddiffyn a'r gyfraith yn yr Ysgol Ddiogelwch Cyhoeddus Ganolog (bellach Academi Ddiogelwch y Bobl) yn Hanoi o 1974 i 1979, adeg buddugoliaeth y comiwnyddion yn Rhyfel Fietnam ac aduno'r gogledd a'r de.[1] Cychwynnodd ar ei yrfa yn y Weinyddiaeth Ddiogelwch Cyhoeddus ym 1979, ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1981.[2]

Dyrchafwyd Lâm yn uwchfrigadydd yn 2007 ac yn ddirprwy gyfarwyddwr cyffredinol yr Adran Ddiogelwch Gyffredinol yn y Weinyddiaeth Ddiogelwch Cyhoeddus. Yn 2010, fe'i dyrchafwyd yn is-gadfridog ac yn gyfarwyddwr cyffredinol yr adran honno, ac yn Awst fe'i penodwyd yn ddirprwy weinidog dros ddiogelwch cyhoeddus. Etholwyd Lâm i Bwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yn 12fed Gyngres Genedlaethol y Blaid yn Ionawr 2016, ac yng nghynhadledd gyntaf y pwyllgor fe'i etholwyd i'r Politbiwro. Ar 9 Ebrill 2016, fe'i penodwyd yn weinidog dros ddiogelwch cyhoeddus.[1] O'r diwedd, yn 2019 fe'i dyrchafwyd yn gadfridog Diogelwch Cyhoeddus y Bobl, gan gyrraedd anterth ei yrfa ym myd gorfodi'r gyfraith.[2]

Ar 18 Gorffennaf 2024, penodwyd Tô Lâm yn ysgrifennydd cyffredinol dros dro y Blaid Gomiwnyddol, yn sgil afiechyd Nguyễn Phú Trọng, a fu farw trannoeth. Gwasanaethodd Lâm yn y swydd dros dro hyd at ei ethol yn olynydd swyddogol i Trong ar 3 Awst 2024 yn 13eg Gyngres y Blaid. Ailetholwyd Lâm i dymor o bum mlynedd yn ysgrifennydd cyffredinol yn unfrydol gan Bwyllgor Canolog y Blaid yn y 14eg Gyngres ar 23 Ionawr 2026.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Fietnameg) "Tiểu sử Bộ trưởng Bộ Công an Tô Lâm", Giaothông (9 Ebrill 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.org ar 15 Tachwedd 2020.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Brief biography of General Secretary of 14th Party Central Committee To Lam", Dak Lak (24 Ionawr 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Ionawr 2026.