Tîm pêl-droed cenedlaethol Feneswela
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Feneswela (Sbaeneg: Selección de fútbol de Feneswela) yn cynrychioli Feneswela yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Feneswela (Sbaeneg: Federación Venezolana de Fútbol) (FVF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FVF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed De America, CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol).
Feneswela ydi'r unig dîm o gonffederasiwn CONMEBOL sydd heb chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.