Tîm pêl-droed cenedlaethol Arfordir Ifori
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Arfordir Ifori (Ffrengig: Équipe de Côte d'Ivoire de football) yn cynrychioli Arfordir Ifori yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Ifori (Ffrengig: Fédération Ivoirienne de Football ) (FIF), corff llywodraethol y gamp yn Arfordir Ifori. Mae'r FIF yn aelodau o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF).
Mae Les Éléphants (yr eliffantod) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar dri achlysur ac wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica unwaith.